EA 2 - rhoi her i’r holl ddysgwyr drwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu'n barhaus i gwrdd â disgwyliadau sy'n uchel, ond o fewn eu cyrraedd.

Cyn fi...

Gall athrawon ystyried adnoddau a dulliau tebyg i'r rhai a ddangosir yn y posteri i annog dysgwyr i geisio mynd i'r afael â thasgau a heriau mewn gwahanol ffyrdd.

Dylid dangos ac annog dysgwyr i ystyried amryw o ffyrdd a fydd yn eu cynorthwyo i gyflawni tasg benodol, cyn gofyn i'r athro.

Dylai hyn gael ei drefnu mewn ffordd sy'n annog ac yn hyrwyddo annibyniaeth i ddechrau ac yn symud tuag at geisio cefnogaeth gan eraill / athrawon.

Cyn fi.docx
Keep Calm Poster Cym.pdf

Deall eich problem...

Mae deall eich problem yn caniatáu i ddysgwyr fyfyrio ar eu heriau ac ystyried sut yr aethant ati / goresgyn eu hanawsterau yn ystod tasg / gweithgaredd.

Mae'r dull hwn yn cynorthwyo dysgwyr i gydnabod y gweithdrefnau y gwnaethant geisio, sut roeddent yn teimlo ac yn cydnabod eu hymdrechion dros gyflawniad.

Mae'r pwyslais yn canolbwyntio'n bennaf ar y broses y mae'r dysgwr wedi'i phrofi yn hytrach na llwyddiant canfyddedig yr allbwn / cynnyrch.

Myfyrdod dyddiol...

Gellir defnyddio gweithgaredd myfyrio fel hwn ar ddiwedd tasg, gwers, thema, uned, tymor neu flwyddyn (gellir addasu hyn yn unol â hynny).

Bydd annog y plant i fyfyrio ar eu llwyddiannau a'u heriau yn caniatáu iddynt gydnabod eu cryfderau a'u hymdrechion. At hynny, bydd yn caniatáu iddynt ddod yn fwy uchelgeisiol wrth iddynt gydnabod meysydd i'w gwella ac awgrymu ffyrdd o wella eu perfformiad.

Defnyddir y dulliau hyn yn aml wrth asesu cymheiriaid a beirniadu gwaith partner.

Daily Reflection Activity cy.docx