EA 4 - defnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys y rheini sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol.
Eglurhad o'r Myfyrdod Cyn Cychwyn
Mae'r Myfyrdod Cyn Cychwyn yma i'ch cefnogi ar eich taith wrth i chi ddechrau gweithredu mewn rhai achosion, a datblygu mewn achosion eraill, yr Egwyddorion Addysgegol a amlinellir yn nogfen Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.
Gellir defnyddio'r cwestiynau Cyn Cychwyn hyn gyda'r staff yn eich Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) i hyrwyddo trafodaethau ynghylch eich pwnc a thrawsnewidiad eich MDPh tuag at Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd yn eich annog i ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen i chi eu defnyddio i gefnogi'r dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Bydd hefyd yn eich cefnogi wrth i chi gynllunio addysgeg ar gyfer eich ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod y dysgu a'r addysgu yn ystyried y ‘pam’ a'r ‘sut’ yn ogystal â'r ‘beth’.
Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n golygu archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.
Gallai eich cefnogi i nodi cryfderau addysgegol eich MDPh neu eich maes pwnc penodol, ynghyd â'r blaenoriaethau i fynd i'r afael â nhw wrth i ni symud tuag at fis Medi 2022.
"Dylai'r broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr o bob oed a gallu fod yn seiliedig ar egwyddorion addysgegol. Mae'r rhain yn adlewyrchu tystiolaeth hysbys am addysgeg effeithiol."
Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 2020
Cwestiynau myfyrio cyn cychwyn:
Beth y mae meddylwyr creadigol yn ei wneud?
Beth yr wyf yn ei ddeall am feddwl yn greadigol?
Sut y byddaf yn helpu fy nysgwyr i ddod yn rhai sy'n datrys problemau?
Pa strategaethau y byddaf yn eu defnyddio'n rheolaidd ac yn effeithiol yn fy addysgu i ategu'r egwyddor addysgeg hon a'i rhoi ar waith?
Sut y byddaf yn datblygu dulliau cwestiynu er mwyn meithrin amgylchedd sy'n hyrwyddo sgiliau beirniadol, creadigol a sgiliau datrys problemau?