EA 11 - hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a chydberthnasau cadarnhaol.

Proffil Un Dudalen ...

Proffil un dudalen sy'n cynnig cyfle i'r dysgwr ystyried, cydnabod a myfyrio ar wybodaeth bwysig amdano'i hun. Gellir addasu'r penawdau a'r cynnwys yn ôl oedran/amgylchiadau, ond galluogir i'r athro feithrin gwell dealltwriaeth o anghenion a hunanganfyddiad y dysgwr. O hyn, bydd yr athro yn sicrhau gwell dealltwriaeth o ofynion y dysgwr, ac yn gallu darparu cymorth a deall lle y gellir ei dargedu, yn unol â'r anghenion a nodir. At hynny, gall yr wybodaeth alluogi'r athro i feithrin/ddatblygu rhagor ar ei berthynas â'r dysgwr trwy ystyried y cynnwys.

Templedi ar gyfer Proffiliau Un Dudalen:

http://sheffkids.co.uk/adultssite/pages/onepageprofilestemplates.html

One Page Profile Cym.pdf


Senarios ar gyfer perthnasoedd a Straeon Cymdeithasol ...

Gofyn i'r plant beth y byddent yn ei wneud mewn sefyllfa benodol, a deall y gall canfyddiadau pobl eraill feithrin sgiliau empathi a rhinweddau cymdeithasol a meithrin perthnasoedd.

1._My_relationships Cym.doc


Ymadroddion Athrawon o ran Meddylfryd Twf ...

Mynd ati i feithrin perthnasoedd cefnogol a chadarnhaol trwy ddefnyddio 'sgwrs/adborth yr athro' sy'n annog twf dysgwyr.

Sketch Note - Teacher GM Phrases Cym.pdf


Meithrin Empathi trwy Ddefnyddio Ffuglen

Adnodd gwych sy'n llawn syniadau i feithrin empathi yn eich ystafell ddosbarth ac yn eich ysgol gyfan.

Developing empathy using fiction Cym.docx