EA 8 - ymestyn oddi mewn ac ar draws y Meysydd.
Cyd-destun
Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.
DYFODOL LLWYDDIANNUS
Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015
Pennod 5: Addysgeg
8. Mae addysgu a dysgu da yn ymestyn oddi mewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad
Un o brif nodweddion addysg yr unfed ganrif ar hugain fydd y capasiti i greu cysylltiadau a throsglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth rhwng gwahanol gyd-destunau er mwyn delio â phroblemau anghyfarwydd. Fel y nodwyd yn gynharach, ni ddylid edrych ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn y cwricwlwm arfaethedig fel unedau ar wahân neu feysydd pwnc i’w hamserlennu, ac ni ddylid datblygu’r Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd a sgiliau ehangach ar wahân i’w gilydd. Yn hytrach, pwrpas pob un ohonynt yw creu cysylltiadau ac undod oddi mewn a rhwng y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Byddai cysylltiadau ffug yn peri i’r ymdrech fod yn ddiystyr, ond os gellir dod o hyd i gysylltiadau cryf oddi mewn a rhwng Meysydd Dysgu a Phrofiad, byddant yn debygol o wella a chryfhau’r dysgu yn y disgyblaethau sydd wedi’u cynnwys. Dylid ymchwilio i ddulliau addysgegol sy’n rhoi’r gallu i greu cysylltiadau drwy gwestiynau, cysyniadau neu sgiliau cyffredin oddi mewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad.
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf
Integreiddio'r Cwricwlwm: Beth sy'n digwydd yn ysgolion Seland Newydd?
Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau prosiect ymchwil ar integreiddio'r cwricwlwm yn ysgolion Seland Newydd, a gynhaliwyd gan Gyngor Ymchwil Addysg Seland Newydd yn 2018-19. Diben yr ymchwil oedd archwilio rhesymeg athrawon o ran integreiddio'r cwricwlwm; y dulliau a'r arferion a ddefnyddiwyd i integreiddio'r cwricwlwm; a'r cyfleoedd dysgu, er enghraifft dulliau, a ddarparwyd ar gyfer y myfyrwyr. Cliciwch ar y ddelwedd i weld y ddogfen gyfan.
McDowall S a Hipkins R, 2019
https://www.nzcer.org.nz/system/files/Curriculum%20Integration%202018-2019.pdf
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru
Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Nod canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi'r dysgwyr i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm – y man cychwyn a'r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Bydd y canllawiau hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir ond nas cynhelir, Unedau Cyfeirio Disgyblion, a'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu Addysg Heblaw yn yr Ysgol mewn lleoliadau eraill, gan eu galluogi i feithrin dealltwriaeth o Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru (y Fframwaith).
Digital ISBN 978 1 80038 057 8 © Crown copyright January 2020 WG39993
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)