EA 12 - hybu cydweithio.

Eglurhad o'r Myfyrdod Cyn Cychwyn

Mae'r Myfyrdod Cyn Cychwyn yma i'ch cefnogi ar eich taith wrth i chi ddechrau gweithredu mewn rhai achosion, a datblygu mewn achosion eraill, yr Egwyddorion Addysgegol a amlinellir yn nogfen Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Gellir defnyddio'r cwestiynau Cyn Cychwyn hyn gyda'r staff yn eich Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) i hyrwyddo trafodaethau ynghylch eich pwnc a thrawsnewidiad eich MDPh tuag at Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd yn eich annog i ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen i chi eu defnyddio i gefnogi'r dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Bydd hefyd yn eich cefnogi wrth i chi gynllunio addysgeg ar gyfer eich ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod y dysgu a'r addysgu yn ystyried y ‘pam’ a'r ‘sut’ yn ogystal â'r ‘beth’.

Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n golygu archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.

Gallai eich cefnogi i nodi cryfderau addysgegol eich MDPh neu eich maes pwnc penodol, ynghyd â'r blaenoriaethau i fynd i'r afael â nhw wrth i ni symud tuag at fis Medi 2022.

"Dylai'r broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr o bob oed a gallu fod yn seiliedig ar egwyddorion addysgegol. Mae'r rhain yn adlewyrchu tystiolaeth hysbys am addysgeg effeithiol."

Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 2020


Cwestiynau myfyrio cyn cychwyn:

  • Yn eich barn chi, beth fyddai prif fuddion cydweithredu yn eich ysgol yn ei olygu i'ch addysgu?

  • Ydych chi'n dechrau deialog ddwfn neu hyd yn oed ddadl wresog gyda chydweithwyr am syniadau, cynlluniau, gwleidyddiaeth, neu'r ffordd orau i helpu plant sy'n ei chael hi'n anodd ac sydd angen ffordd arall i'w cymell?

  • Oes gennych chi gydweithwyr eraill rydych chi'n gwneud gwaith gwirioneddol foddhaus gyda nhw - y tu mewn neu'r tu allan i'ch ysgol - o ran cynllunio, addysgu, adolygu, neu roi adborth, er enghraifft?

  • A ydych chi'n cael y darlun mawr o'ch sefydliad, yn deall sut mae popeth wedi'i gysylltu â phopeth arall, ac yn cymryd cyfrifoldeb am eich rhan eich hun yn hynny i gyd?

  • Beth yn eich barn chi yw'r prif rwystrau i gydweithredu yn eich ysgol a'r tu allan iddi?