EA 5 - gosod tasgau a dewis adnoddau sy'n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb.


Cyd-destun

Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.


DYFODOL LLWYDDIANNUS

Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015

Pennod 5: Addysgeg

5. Mae addysgu a dysgu da yn golygu gosod tasgau a dewis adnoddau sy’n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb

Mae’r pwyslais mawr ar ddilyniant sy’n cael ei argymell gan yr Adolygiad yn golygu y bydd angen i athrawon osod tasgau a dewis adnoddau sy’n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb. Wrth ddechrau yn yr ysgol, bydd dyheadau, diddordebau a phrofiadau gwahanol gan blant a phobl ifanc ac felly byddant yn mynd ati i ddysgu yn eu ffordd eu hunain. Ni fydd ymagwedd at ddysgu sy’n cynnig yr un dull ar gyfer pawb yn gallu cwrdd â’r anghenion amrywiol hyn. Er hynny, rhaid i ni beidio â’i gymryd yn ganiataol y byddwn yn gallu adnabod anghenion o’r fath a bod yn effro i’r perygl o wahanu plant yn grwpiau ar sail arwynebol. Bydd y Camau Cynnydd a gynigir gan yr Adolygiad yn creu cyd-destun lle y bydd athrawon yn gallu dewis dulliau addysgu a dysgu sy’n datblygu o gam i gam ond sydd, er hynny, yn rhoi cryn ryddid i gynnig profiadau deniadol sy’n cwrdd ag anghenion eu plant a’u pobl ifanc.

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf

A good start: The pedagogical challenge of engaging prior knowledge for all pupils

Trosolwg byr o'r cyd-destun:

Mae'r erthygl yn disgrifio prosiect a grëwyd i ymateb i'r her addysgegol ddeublyg y mae'r rhan fwyaf o athrawon yn ei hwynebu: ymgysylltu pob plentyn mewn tynnu ar wybodaeth flaenorol; ac asesu ansawdd y ddealltwriaeth gyfredol honno. Roedd yn brosiect dwy flynedd, mewn pedair ystafell ddosbarth gynradd oedran cymysg, a aeth ati i ddatblygu fframwaith ar gyfer dyfeisio gweithgareddau sy'n mynd i'r afael â'r ddwy broblem hyn wrth geisio sicrhau dysgu effeithiol. Er bod y prosiect wedi'i osod mewn lleoliad cynradd, byddai'r heriau, yr ymyraethau a'r canlyniadau yr un mor berthnasol mewn ystafell ddosbarth uwchradd.

Christopher Tay Mai 2018

Impact: Journal of the Chartered College of Teaching

https://impact.chartered.college/article/tay-pedagogical-challenge-engaging-prior-knowledge/

Mindful Learning: 101 Proven Strategies for Student and Teacher Success

Trosolwg byr o'r cyd-destun:

Mae'r erthygl yn sôn am ddeall yr hyn y mae ein dysgwyr eisoes yn ei wybod a'r rôl y mae gwybodaeth gefndir yn ei chwarae mewn dysgu newydd. Yna mae'r erthygl yn mynd ymlaen i ddarparu 17 o strategaethau a brofwyd gan ymchwil ac athrawon, ar gyfer tynnu ar wybodaeth gefndir dysgwyr, ac adeiladu ar yr wybodaeth honno, ynghyd ag adnoddau ar gyfer darganfod rhagor ym mhob maes.

Linda Campbell a Bruce Campbell 2009

Gwasg Corwen

https://www.corwin.com/sites/default/files/upm-binaries/25914_081222_Campbell_Ch1_excerpt.pdf