EA 3 - defnyddio cymysgedd o ddulliau sy’n cynnwys addysgu uniongyrchol.
Cyd-destun
Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.
DYFODOL LLWYDDIANNUS
Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015
Pennod 5: Addysgeg
3. Mae addysgu a dysgu da yn galw am ddefnyddio cymysgedd o ddulliau sy’n cynnwys addysgu uniongyrchol
Yn aml, bydd newidiadau yn y cwricwlwm yn cael eu cysylltu â chamau i hyrwyddo dulliau penodol o addysgu a dysgu. Ar y naill law, gellir eu gweld yn ffordd o ailddatgan dulliau ‘traddodiadol’, a elwir weithiau’n ‘addysgu uniongyrchol’ ac, ar y llaw arall, gellir gweld eu bod yn ffafrio dysgu drwy ddarganfod neu adeileddiaeth. Nid yw pegynu o’r fath yn adlewyrchu natur gymhleth y penderfyniadau a wneir ynghylch dulliau addysgu a dysgu priodol. Felly, gwelir nad yw’r Adolygiad hwn yn arddel unrhyw safbwynt penodol; yn hytrach, mae’n awgrymu bod angen repertoire eang o brofiadau addysgu a dysgu sy’n adlewyrchu’r dibenion cwricwlwm. Mae perygl arbennig mewn portreadu addysgu uniongyrchol fel dull didactig o hyfforddi’r dosbarth cyfan. Fodd bynnag, mae Hattie yn rhoi’r diffiniad effeithiol canlynol o addysgu uniongyrchol: ‘The teacher decides the learning intentions and success criteria, makes them transparent to the students, demonstrates them by modelling, evaluates if they (the students) understand what they have been told by checking for understanding, and re-telling them what they have been told by tying it all together with closure’. Yr elfennau hanfodol wrth arfer y dull hwn yw gosod dibenion a meini prawf llwyddiant clir, modelu ac ymarfer, ac adborth rheolaidd a chraff. Yn y modd hwn, mae addysgu uniongyrchol yn galw ar yr athro/athrawes i chwarae rhan drwy ‘sgaffaldio’ y broses dysgu. Agwedd bwysig ar y sgaffaldio hwnnw yw creu cyd-destunau lle y gall plant a phobl ifanc ddangos y gallu i ddysgu’n annibynnol mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd.
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf
8 Strategies Robert Marzano & John Hattie Agree On
Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Yn y ddogfen hon, mae Robert Marzano a John Hattie ill dau wedi adolygu'r ymchwil ynghylch y strategaethau addysgu sy'n gweithio orau. Er iddynt ddefnyddio dulliau a thermau gwahanol, cytunodd y ddau ar yr 8 strategaeth bwerus hyn. Mae John Hattie yn addysgwr o Awstralia sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa addysg fel oedolyn yn archwilio astudiaethau ynghylch addysgu a dysgu effeithiol. Cymerodd fwy na 15 mlynedd iddo gyhoeddi Visible Learning, sef casgliad o'i ymchwil "fetaddadansoddi" a ddarparai restr o gamau/gamau gweithredu gan athrawon a myfyrwyr, wedi'u graddio yn ôl effeithiolrwydd y dysgu. Bu effaith ei waith yn anferthol. Mae Robert Marzano wedi treulio 50 mlynedd ym maes addysg, gan weithio gydag addysgwyr fel anerchwr a hyfforddwr ac mae'n awdur mwy na 50 o lyfrau a 200 o erthyglau ar destunau fel hyfforddi, asesu, ysgrifennu a rhoi safonau ar waith, gwybyddiaeth, arweinyddiaeth effeithiol ac ymyrraeth ysgolion.
Shaun Killian, November 2019
Evidence-Based Teaching
Principles of Instruction: Research Based Strategies That All Teachers Should Know
Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Codwyd yr egwyddorion hyfforddi a nodwyd gan Rosenshine o dri maes ymchwil:
Ymchwil ym maes gwyddoniaeth wybyddol.
Ymchwil i arferion ystafell ddosbarth athrawon meistrolgar.
Ymchwil i gymorth gwybyddol i helpu myfyrwyr i ddysgu tasgau cymhleth.
Gwnaeth ymchwil Rosenshine gyfraniad sylweddol o ran deall effeithiolrwydd gwahanol ddulliau hyfforddi, gan esgor yn y pen draw ar adnabod 10 egwyddor hyfforddi effeithiol. Bu ymchwil Rosenshine yn canolbwyntio ar hyfforddi dysgwyr, perfformiad athrawon a chyflawniad myfyrwyr. Mae'n creu cysylltiadau uniongyrchol rhwng ymchwil ac ymarfer - ac ysgrifennwyd pob un o'r 10 adran mewn dwy ran sef: canfyddiadau ymchwil ac yna’r gwaith yn y dosbarth. Mae'r papur wedi'i gyfeirnodi'n llawn ar gyfer gwaith dilynol yn y dyfodol.
Barak Rosenshine, 2012
American Educator
TES – Why You Have Got Direct Instruction Wrong
Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Dadl yr academydd Paul Kirschner yw bod hyfforddiant uniongyrchol wedi cael ei gamwerthu, ei gamddehongli ac wedi dioddef anfantais mewn addysg. Ac eto, medd Kirschner, bydd y rhan fwyaf o athrawon da yn darparu hyfforddiant uniongyrchol heb wybod hynny. "Beth yw cyfarwyddyd uniongyrchol/amlwg? Mae'n rhaid gosod y llwyfan ar gyfer dysgu, rhaid sicrhau bod gan ddysgwyr yr wybodaeth hanfodol er mwyn dysgu, sydd hefyd yn gallu cynnwys creu cyd-destun dysgu ar eu cyfer. Mae'n rhaid sicrhau bod yna esboniad clir o'r disgwyliadau a'r hyn yr ydych am iddynt ei wneud - er mwyn rhoi'r wybodaeth weithdrefnol iddynt gyflawni eu gwaith. Mae'n rhaid modelu'r broses, dangos iddynt sut y mae gwneud, a cheisio egluro'r hyn a wnaethoch a pham y gwnaethoch hynny. Mae'n rhaid darparu amser i ymarfer dan arweiniad. Bydd hynny'n arwain o dipyn i beth at ymarfer annibynnol. Yn olaf, dylech asesu'r gwaith, yn ffurfiol, yn anffurfiol ac yn ffurfiannol o'r dechrau i'r diwedd," eglura.
Podagogy (season3, episode 4)
TES – The Education Podcast
https://www.tes.com/news/why-you-have-got-direct-instruction-wrong
Utilising Direct Instruction to Train Primary School Children in Decision Making Skills in the Science Classroom
Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Erthygl sy'n trafod canfyddiadau ymchwil ynghylch sut y mae hyfforddiant uniongyrchol yn llawer mwy effeithiol na dysgu seiliedig ar ddarganfod wrth addysgu cysyniadau a phrosesau gwyddonol.
Maria Tsapali and Michelle R Ellefson, February 2019
Impact: Chartered College of Teaching