EA 3 - defnyddio cymysgedd o ddulliau sy’n cynnwys addysgu uniongyrchol.
Eglurhad o'r Myfyrdod Cyn Cychwyn
Mae'r Myfyrdod Cyn Cychwyn yma i'ch cefnogi ar eich taith wrth i chi ddechrau gweithredu mewn rhai achosion, a datblygu mewn achosion eraill, yr Egwyddorion Addysgegol a amlinellir yn nogfen Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.
Gellir defnyddio'r cwestiynau Cyn Cychwyn hyn gyda'r staff yn eich Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) i hyrwyddo trafodaethau ynghylch eich pwnc a thrawsnewidiad eich MDPh tuag at Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd yn eich annog i ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen i chi eu defnyddio i gefnogi'r dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Bydd hefyd yn eich cefnogi wrth i chi gynllunio addysgeg ar gyfer eich ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod y dysgu a'r addysgu yn ystyried y ‘pam’ a'r ‘sut’ yn ogystal â'r ‘beth’.
Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n golygu archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.
Gallai eich cefnogi i nodi cryfderau addysgegol eich MDPh neu eich maes pwnc penodol, ynghyd â'r blaenoriaethau i fynd i'r afael â nhw wrth i ni symud tuag at fis Medi 2022.
"Dylai'r broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr o bob oed a gallu fod yn seiliedig ar egwyddorion addysgegol. Mae'r rhain yn adlewyrchu tystiolaeth hysbys am addysgeg effeithiol."
Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 2020
Cwestiynau myfyrio cyn cychwyn:
Beth yr wyf yn ei ddeall am 'addysgu uniongyrchol'?
Pa elfennau y byddaf yn eu defnyddio'n rheolaidd ac yn effeithiol yn fy addysgu?
Wrth gynllunio tasgau a gweithgareddau, a yw pwrpas y dysgu'n glir? Sut y gwn i hynny?
Sut y byddaf yn sicrhau cymhelliad ac ymgysylltiad y dysgwyr?
Pa strategaethau a ddefnyddiaf i wirio dealltwriaeth? A fyddaf yn caniatáu i'r myfyrwyr gyfleu ac arddangos eu dysgu mewn amryw o ffyrdd?
Pa mor effeithiol yw fy strategaethau adborth?
A fyddaf yn modelu 'sut' yn fedrus ac yn rheolaidd?
Pa mor aml y byddaf yn adolygu'r dysgu?