EA 11 - hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a chydberthnasau cadarnhaol.


Cyd-destun

Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.

DYFODOL LLWYDDIANNUS

Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015

Pennod 5: Addysgeg

11. Mae addysgu a dysgu da yn hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasoedd cadarnhaol

Ceir yr awgrym hwn mewn adroddiad gan yr OECD a gyhoeddwyd yn 2013: ‘…learning cannot – and should not – be understood as a purely cognitive activity: practitioners need to be aware of and responsive to students’ emotions and motivations in order for successful learning to happen…They need to feel competent to do what is expected of them and learn better when they experience positive emotions’. Mae addysgeg sy’n hybu agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu yn bwysig ym mhob agwedd ar y cwricwlwm ac yn hanfodol ar gyfer cyflawni’r dibenion cwricwlwm. Mae hefyd yn agwedd bwysig ar y diffiniad o’r cwricwlwm sydd wedi’i fabwysiadu gan yr Adolygiad hwn: mae’r hinsawdd ar gyfer dysgu yn rhan o’r profiad dysgu. Bydd dulliau sy’n hybu lles cymdeithasol ac emosiynol y dysgwyr yn cynnig cyfleoedd i feithrin deallusrwydd emosiynol a metawybyddiaeth. O ganlyniad, bydd dysgwyr yn gallu myfyrio ar eu dysgu eu hunain a deall y byddant yn gallu cael effaith gadarnhaol ar y dysgu gan bobl eraill.

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf

Virtual Lab School: Promoting Social-Emotional Development: Positive Relationships

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Mae yna dystiolaeth gynyddol fod datblygiad emosiynol gymdeithasol plant yn gysylltiedig â gwell deilliannau gartref, yn yr ysgol ac yn y gymuned. Mae datblygiad emosiynol gymdeithasol yn cyfeirio at y modd y mae plant yn dysgu mynegi eu teimladau, meithrin perthnasoedd, ac ymarfer sgiliau cymdeithasol. Bydd y wers hon yn eich cyflwyno i ddatblygiad emosiynol gymdeithasol, gan ganolbwyntio ar berthnasoedd cadarnhaol ac arwyddocâd hynny ar gyfer datblygiad cyffredinol a dysgu plant.

Gwers 5 (o bump) yw hon – mae pob un yn canolbwyntio ar hyrwyddo datblygiad emosiynol gymdeithasol.

https://www.virtuallabschool.org/school-age/social-emotional/lesson-5


Fideo:

Sut y gall perthnasoedd cadarnhaol effeithio ar ddatblygiad emosiynol gymdeithasol mewn rhaglen oedran ysgol.


3277-480.mp4

Promoting Academic Achievement through Social and Emotional Learning

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Yn y cyfnod hwn o gynnal profion budd uchel, mae addysgwyr yn awyddus i ddarganfod polisïau, dulliau cyfarwyddol ac arferion addysgol newydd i wella perfformiad academaidd, ac maent hyd yn oed yn bryderus ynghylch hynny. Wrth chwilio, maent wedi ailarchwilio polisïau megis ardystio athrawon, dewis ysgol, cynnal graddau, ysgolion haf, a'r dulliau diweddaraf ar gyfer addysgu pynciau academaidd penodol. Fodd bynnag, mae addysgwyr a'r rhai sy'n llunio polisïau hefyd, yn gynyddol, yn darganfod pwysigrwydd newidynnau cymdeithasol ac emosiynol ar gyfer perfformiad a chyflawniad academaidd. O ganlyniad, maent yn rhoi eu sylw i ddulliau ac arferion sy'n meithrin datblygiad cymdeithasol ac emosiynol myfyrwyr.

Katharine Ragozzino, Hank Resnik, Mary Utne-O’Brien, a Roger P. Weissberg

https://pdfs.semanticscholar.org/fd54/aabc6fa1e0a80b9f6e48991bd693e06538bc.pdf

The Importance of Teacher-Student Relationships

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Mae yna wybodaeth ddefnyddiol iawn ar gyfer y rheiny y mae angen iddynt wybod am bwysigrwydd y berthynas rhwng yr athro a'r myfyriwr. Yma, byddwch yn dod o hyd i'r ffyrdd o feithrin perthynas gadarnhaol a chefnogol rhwng yr athro a'r myfyriwr.

Locus Assignments

https://www.locusassignments.com/the-importance-of-teacher-student-relationships/