Cynhwysion
1 llwy fwrdd o olew llysiau
2 sleisen o facwn (neu facwn llysieuol) wedi eu torri’n fân
1 winwnsyn bach wedi ei dorri yn fân
1 moronen fach wedi ei dorri yn fân
½ coesyn o helogan wedi ei dorri yn fân
1 ewin o arlleg wedi ei wasgu
1 deilen llawryf neu 1 llwy de o berlysiau cymysg (mixed herbs)
125g (4oz) o friwgig cig eidion (neu Quorn)
1 tun 400g o domatos wedi eu mannu
2 lwy de o burée tomato
150ml (¼ peint) o stoc ( ½ ciwb stoc wedi ei doddi mewn ¼ peint o ddŵr berwedig)
125g (4oz) o basta
Pupur a halen
Caws parmesan neu cheddar wedi ei gratio
Dull
Paratowch y bacwn a’r llysiau a’u rhoi mewn dysglau yn barod i’w defnyddio. Paratowch y stoc.
Cynheswch yr olew yn y badell ffrio. Ffriwch y bacwn am 5 munud. Wedyn ychwanegwch y llysiau a ffrio’r cyfan am 8 munud pellach (defnyddiwch llwy bren i’w troi).
Ychwanegwch y briwgig gan dorri trwy unrhyw lympiau a’i goginio tan ei fod wedi brownio.
Ychwanegwch y tomatos tun, purée tomato, perlysiau a’r stoc. Gadewch i fudferwi am tua 20 munud, gan ei droi pob hyn a hyn.
Golchwch lan a chlirio.
Rhowch ½ llond sosban o ddŵr ac ychydig halen ynddo i ferwi. Rhowch y pasta i ferwi am tua 10 – 12 munud neu tan ei fod yn barod. Draeniwch y pasta a’i weini gyda’r saws bolognese.
Golchwch lan a chlirio.