Scones
Sgoniau
Scones
Sgoniau
225g (8oz) o Flawd Codi (Self Raising Flour)
50g (2oz) o Fargarîn neu Fenyn (Margarine/Butter)
50g (2oz) o Siwgr Mân (Caster Sugar)
150ml (1/4 peint) o Laeth (Milk)
50g o Ffrwythau sych
Dull
Casglwch yr offer fydd eu hangen arnoch
Gofalwch fod y ffwrn wedi ei throi i 220oC/Nwy marc 7
Rhidyllwch y blawd i mewn i’r fowlen fawr
Ychwanegwch y margarîn a’i rwbio i mewn i’r blawd gyda blaen y bysedd
Ychwanegwch y siwgr mân a’i gymysgu fewn
Gwnewch does drwy ychwanegu’r llaeth, llwy fwrdd ar y tro, gan gymysgu gyda chyllell - peidiwch ddefnyddio eich dwylo na llwy bren
Ysgeintiwch flawd ar y bwrdd a thylinwch y does yn ysgafn yna ei rolio i tua 2cm (3/4 modfedd) o drwch - peidiwch â’i rolio yn rhy denau na gwasgu’r does gyda’r rholbren
Torrwch eich sgoniau allan a’u gosod ar hambwrdd pobi wedi ei iro
Brwsiwch eu topiau gydag ychydig o’r llaeth sydd ar ôl
Rhowch yn y ffwrn am 10 munud (edrychwch arnynt ar ôl 8 munud)
Tynnwch o’r tun gyda cyllell balet a’u rhoi i oeri ar weiren oeri.
Cofiwch ddod a bocs i gario'r bwyd adre/ Please remember to bring a box to carry the food home