Cynhwysion
450g briwgig cig oen neu Cig Eidion
1 llwy fwrdd olew
1 nionyn mawr, wedi'i blicio a'i dorri
3 moronen canolig, wedi'u plicio a'u torri'n giwbiau bach
1 llwy fwrdd piwrî tomato
500ml stoc cig oen/eidion neu stoc llysiau
1 llwy de orlawn gronynnau grefi llysiau
900g tatws, wedi'u plicio a'u torri'n ddarnau
50g o menyn
Pinsiad o bupur
Sblash o laeth (neu rhowch 4 llwy fwrdd)
Disgyl mawr sy'n gwrthsefyll gwres / Ovenproof dish
Dull
Rhowch y tatws mewn sosban a'u gorchuddio â dŵr oer. Dewch â nhw i'r berw yna rhoch gaead ar y badell a throi'r gwres i lawr i fudferwi neu eu bod nhw'n dyner/meddal (tua 20 munud)
Tra mae'r tatws yn coginio cynheswch yr olew mewn padell ffrio neu sosban ffrio ganolig, ychwanegwch y nionod a'r moron, ffriwch am y ychydig funudau.
Ychwanegwch y briwgig cig oen, defnyddiwch y llwy i dorri'r briwgig a chynyddu'r gwres i frownio'r briwgig.
Ychwanegwch y piwrî tomato, y stoc a'r gronynnau grefi, trowch yn dda a dod â nhw i'r berw yna rhowch gaead ar y badell a'i fudferwi am tua 25 munud nes bod y moron wedi meddalu.
Cynheswch y popty i 180oc. Pan fydd y tatws yn feddal, draeniwch y dŵr yn ofalus a'u dychweldy i'r babell, ychwanegwch y menys, yr halen a'r pupur a'r llaeth a stwnsio'r tatws nes eu bod yn hufennog ac yn ffluwchog
Pan fydd y moron yn feddal rhowch y gymysgedd briwgig mewn disgyl mewn dysgl ffwrn. Rhowch y tatws wedi'u stwnsio dros ben y briwgig a defnyddiwch fforc i daenu'r stwnsh dros y gymysgedd, gwnewch batrwm gan ddefnyddio'r fforc. Rhowch yn y popty am tua 20 munud new bod y tatws yn neis ac yn frown euraidd a'r llenwad yn byrlymu.