Cynhwysion
2 gwpan o fflwr plaen
4 llwy fwrdd o siwgr
4 llwy de o bowdr pobi
2 gwpan o laeth
2 wy
4 llwy fwydd o fenyn
Dull
Golchwch eich dwylo yn gyntaf ac yna paratowch y cyhwysion a’r offer i gyd. Ar ôl i chi fesur y cynhwysion toddwch y menyn mewn sosban neu yn y popty ping a’i adael i oeri. Chwisgiwch yr wyau a’r menyn mewn powlen arwahan. Rhowch y blawd, y siwgr a’r powdr pobi yn y cymysgwr bwyd. Ychwanegwch gymysgedd y llaeth a’r wyau. Cymysgwch yn dda. Yn olaf, ychwanegwch y menyn sydd wedi toddi. Cymysgwch eto ac yna mae’r gymysgedd yn barod. Gallwch ychwanegu darnau siocled i’r gymysgedd os dymunwch. Rhowch ychydig o fenyn i uro’r ffreipan ac i ffwrdd a chi! Cofiwch byddwch yn ofalus a gofynnwch am help oedolyn! I orffen gallwch weini rhain gyda lemwn a siwgr, ffrwythau ffres, mafon a Nutella, Nutella a banana . . . .unrhywbeth! Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r crempogau campus cymaint a finne!