Cynhwysion
5 oz o siocled tywyll
4 oz o fenyn
7 oz o siwgr
1 llwy de o fanila
2 wy
3 1/2 oz o flawd codi
Dull
Toddwch y siocled a'r menyn i mewn i bowlen ar ben dŵr poeth. Gadewch i oeri ar ôl toddi. Chwisgiwch yr wyau, siwgr a'r fanila gyda'i gilydd nes ei fod yn lliw golau. Cymysgwch y siocled a'r menyn sydd wedi oeri i mewn gyda'r wyau, siwgr a'r fanila. Cymysgwch y fflwr (yn ofalus) gan ddefnyddio chwisg. Rhowch y gymysgedd i mewn i dun wedi ei iro. Coginiwch y gymysgedd mewn tun 8"x 8" ar 150°c am 35 munud. (Dyblwch y gymysgedd ar gyfer tun 10"x13" a choginiwch am 50 munud). Gadewch y gymysgedd i oeri yn y tun yna torwch i mewn i sgwariau. Bwytewch a mwynhewch!