****Cofiwch ddod a disgyl gwrth sefyll gwres i wneud y quiche****
****Remember to bring an ovenproof quiche dish*****
200g (8oz) o flawd plaen / Plain Flour
50g (2oz) o fargarîn caled / Hard margarine
50g (2oz) o lard / Lard
Tua 2/3 llwy fwrdd o ddŵr oer
100g (4oz) o facwn wedi ei dorri’n fân / Bacon cut into small pieces
1 winwnsyn / 1 onion
2 ŵy canolig / 2 medium eggs
150ml (1/4) peint o laeth / milk
75g (3oz) o gaws cheddar / Cheddar Cheese
Nodyn / Note:- Mae’n bosib newid llenwad y quiche i’w wneud yn addas ar gyfer eich anghenion dietegol / It is possible to replace the content of the quiche to make it suitable for your dietary requirements i.e Broccoli could be used to replace the bacon)
Gwres ffwrn: 180oC neu nwy 4
Dull:
Gwnewch y crwst brau:
Rhwbiwch y braster i mewn i’r blawd ac yna ychwanegwch ddwr oer, ychydig ar y tro, i wneud toes.
Tylunwch yn ysgafn.
Gadewch y toes yn yr oergell am hanner awr.
Ffriwch y bacwn (a’r winwns) yn sych mewn padell ffrio.
Curwch y ddau ŵy mewn jwg ac ychwanegwch y llaeth atynt.
Gratiwch y caws yn barod.
Rholiwch y crwst allan a leinio dysgl neu dun pwrpasol (18cm/7modfedd ar draws).
Rhowch y bacwn (winwns a perlysiau) a hanner y caws yn y casyn crwst.
Ychwanegwch yr ŵy a’r llaeth yn ofalus (peidiwch gor-lenwi’r casyn).
Rhowch gweddill y caws ar yr wyneb ac yna rhowch yn syth yn y ffwrn.
Coginiwch am tua 40-45 munud.