225g o Fenyn wedi'i feddalu
225g Siwgr Man
275g o Flawd Codi
2 lwy de o bowdwr pobi
4 wy
4 llwy fwrdd o Laeth
Croen 2 lemwn wedi gratio'n fan
Ar gyfer y crwst:
175g o Siwgr Gwyn
Sudd 2 Lemwn
Dull
Paratowch dun hirsgwar 30x23x4cm gyda phapur gwrthsaim. Trowch y ffwrn arno i 160°C. Rhowch yr holl gynhwysion mewn powlen a chymysgwch yn dda am 2 funud gyda chymysgwr trydan nes bod y gymysgedd wedi ei gymysgu'n dda. Rhowch y gymysgedd i mewn i'r tun gan wneud yn siwr ei fod yn mynd i'r corneli. Coginiwch yng nghanol y ffwrn am 35-40 o funudau nes bod y gacen yn barod. Gadewch i'r gacen i oeri yn y tun am ychydig o funudau. Tynnwch y gacen allan o'r tun ac yna tynnwch y papur saim i ffwrdd yn ofalus a'i rhoi ar weiren dros hambwrdd (i gasglu'r sudd o'r crwst). I wneud y crwst- cymysgwch y siwgr gwyn a'r sudd lemwn mewn bowlen fach. Arllwyswch y sudd dros y gacen gyda llwy tra bydd y gacen yn dal yn gynnes. Torrwch yn sgwariau bach ar ol iddi oeri. Mwynhewch!