Cynhwysion
150g o Oreos - tua 13 bisged
40g o fenyn
235ml o hufen dwbl
235g caws hufen (Philadelphia)
75g siwgr mân
115g o Oreos - tua 10 bisged
Dull
Yn gyntaf, gwnewch y sylfaen, ac wedyn toddwch y menyn a malwch y bisgedi Oreo. Cymysgwch y bisgedi wedi'u malu a'r menyn wedi'i doddi gyda'i gilydd. Malwch eich bisgedi Oreo yn fân a chwipiwch yr hufen dwbl nes ei fod yn ffurfio brigau anystwyth. Ychwanegwch y caws hufen a'r siwgr mân a chwisgwch eto nes bod y gymysgedd yn gopaon anystwyth. Ychwanegwch y bisgedi Oreo wedi'u malu at y gymysgedd. Dychwelwch y gacen gaws i'r oergell am o leiaf 2 awr i oeri. Mwynhewch!