Rhoddwyd cyfle i grwp o ddysgwyr o ledled y Grŵp sydd yn chwarae rygbi yn eu hamser sbar, i ddod at ei gilydd yng Ngholeg Llandrillo ar gyfer sesiwn hyfforddi rygbi hwyl gyda Hyfforddwr Sgiliau Rhanbarthol RGC a Chyn Gapten Cymru Rachel Taylor a chwaraewr Sgwad Saith bob Ochr Rygbi Cymru Bethan Davies wrth gymryd rhan yn y ffilmio o'r ymgyrch “Nid yw’n rhwystr”.
Darparodd y sesiwn y cyfle i'r dysgwyr gael eu hyfforddi a'u cefnogi gan fodelau rôl benywaidd a chyfredol yn y gamp.
Roedd yn ffordd ardderchog i'r dysgwyr ddod at ei gilydd i rannu ychydig o amser; dysgu sgiliau newydd, cael hwyl, a dod i nabod ei gilydd tra'n mwynhau'r gamp maent yn ei charu.
Rhoddodd y sesiwn y cyfle iddynt gael sgwrs agored ynglŷn â mislif mewn amgylchedd diogel, a sut i daclo'r tabŵs ynghylch trafod cylch y mislif.
O'r Chwith i'r Dde: Ffion Haf Jones (Lefel 3 Amaethyddiaeth, Glynllifon), Seren Brown (Lefel 3 BTEC Chwareon a Hyfforddi Llandrillo-yn-Rhos), Harriet Rowlands(Lefel 3 Chwaraeon a Hyfforddi, Bangor), Tirion Thomas (Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dolgellau, nawr ym Mhrifysgol Abertawe), Kira Rodgers (Lefel 3 Gofal Anifeiliaid, Glynllifon nawr ym Mhrifysgol Bangor), Kristina Aguilar (Lefel 3 Gwyddoniaeth Bio Feddygol, Bangor), a Lowri Haf Hughes (Lefel 3 Amaethyddiaeth, Glynllifon).