Dewis Iaith | Chose Language
Mae'r blaenasgellwr Rachel Taylor wedi bod yn gyfystyr gyda rygbi Merched Cymru. Dechreuodd ei thaith rygbi yn bump oed gyda Chlwb Rygbi Bae Colwyn, ac aeth ymlaen i chwarae yn yr Uwch Gynghrair yng Nghymru a Lloegr.
Ers ei chap cyntaf yn 2007 mae wedi ymddangos mewn nifer o gystadlaethau'r Chwe Gwlad ac wedi bod yn gapten ar Gymru mewn 5 ohonynt. Chwaraeodd Rachel hefyd ar gyfer tîm rygbi 7 bob ochr Cymru a chwaraeodd mewn 3 Cwpan Byd. Rachel yw'r unig chwaraewr yng Nghymru sydd wedi chwarae ar gyfer pob ochr rhanbarthol ac wedi capteinio'r ochrau Rhyngwladol saith bob ochr a 15 bob ochr.
Yn 2017 cyhoeddodd Rachel ei hymddeoliad rhyngwladol ac mae ers hynny wedi cael tipyn o ddylanwad wrth hyfforddi. Mae Rachel ar hyn o bryd yn Brif Hyfforddwr ar gyfer tîm dynion Bae Colwyn, yr Hyfforddwr Sgiliau Academi Rhanbarthol benywaidd cyntaf URC ac hefyd yn Hyfforddwr Tim Merched y Barbariaid.
Mae Rachel wedi gweithio yn ddiflino i gefnogi a thyfu rygbi merched yng Ngogledd Cymru ac mae'n disgrifio mynediad y Merched i bencampwriaeth Ranbarthol eleni fel un o uchafbwyntiau ei gyrfa. Nawr yn gweithio ar gyfer Undeb Rygbi Cymru fel Hyfforddwr Sgiliau Academi Rhanbarthol mae'n gobeithio parhau gyda datblygiad rygbi yng Ngogledd Cymru.
Mae Rachel wedi rhoi peth mewnwelediad ynglŷn â pha ddulliau mae'n eu defnyddio i gael ei symbylu.