Dewis Iaith | Chose Language
Yn ogystal â'r gefnogaeth a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai, mae cymorth ychwanegol gyda'ch lles meddyliol ar gael ledled Cymru, ar-lein a dros y ffôn. Mae'r adnoddau hyn yn ddiogel ac yn cael eu darparu am ddim. Does dim angen i chi gael eich atgyfeirio atynt felly cymerwch olwg ar beth sydd ar gael i'ch helpu.
Ni ddylech ddibynnu ar y wybodaeth hon yn lle gofyn am gyngor, diagnosis neu driniaeth feddygol broffesiynol. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am eich iechyd, dylech bob amser siarad â'ch meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol arall ym maes gofal iechyd. Ni ddylech ddiystyru, osgoi nac oedi cyn cael cyngor meddygol gan eich meddyg teulu.
Beth bynnag yr ydych yn mynd drwyddo, bydd Samariad yn ei wynebu gyda chi. Rydyn ni yma 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ydych chi, neu berson ifanc rydych chi'n ei adnabod, ddim yn ymdopi â bywyd? I gael cyngor cyfrinachol ar atal hunanladdiad, cysylltwch â HOPELINEUK. Rydym ar agor rhwng 9am a hanner nos bob dydd.
Adnodd iechyd meddwl a lles yw myf.cymru sydd wedi’i anelu at fyfyrwyr addysg uwch Cymraeg eu hiaith sy’n astudio yng Nghymru a thu hwnt.
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd neb arall yn gwneud hynny. Ni fyddwn yn eich barnu a byddwn yn helpu drwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud newid.
Mae Llinell Gymorth LHDT+ Cymru yn wasanaeth sy’n darparu cwnsela a chefnogaeth i Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Traws, Rhyngrywiol, Cynghreiriaid a theuluoedd yng Nghymru.
Cwrs ar-lein yw SilverCloud sy’n cynnig cymorth ar gyfer gorbryder, iselder a llawer mwy, y cwbl yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol.
Mae CALL yn darparu llinell wrando a chymorth emosiynol ar gyfer iechyd meddwl sydd ar agor 24 awr y dydd, bob dydd. Gall hefyd eich cyfeirio at gymorth lleol a gwybodaeth amrywiol ar-lein.
Ffoniwch : 0800 132 737
Tecstiwch “help” i : 81066
Beat – llinell gymorth ar gyfer anhwylderau bwyta.
Mae Beat yn darparu llinellau cymorth a gwybodaeth i oedolion a phobl ifanc, gan gynnig amgylchedd cefnogol i siarad am anhwylderau bwyta a sut i gael help.
Ffoniwch: 0808 801 0677
MAE Hwb ICAN GISDA yn darparu cymorth therapiwtig, hawdd a chynnar i bobl ifanc 16 i 25 oed sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl a’u lles.
Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu chwe wythnos o hunangymorth dan arweiniad ar gyfer gorbryder, iselder, hunan-barch a mwy.
I ddechrau arni, siaradwch â’ch meddyg teulu, unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol arall neu cofrestrwch yn uniongyrchol yma:
Mae’r cwrs fideo ar-lein “Bywyd ACTif” yn rhannu ffyrdd ymarferol o ymdopi â meddyliau a theimladau sy’n achosi gofid, gan helpu i fyw bywyd gyda mwy o hyder.
Mae’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cysylltu pobl ifanc, rhwng 11 a 25 mlwydd oed, â gwefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy i feithrin cadernid.
Os ydych chi'n berson ifanc sy'n cael trafferth ymdopi, tecstiwch YM i 85258 am ddim, cefnogaeth 24/7. Beth bynnag yr ydych yn mynd drwyddo, os yw'n bwysig i chi, mae'n bwysig i ni.
The Mix yw prif wasanaeth cymorth y DU i bobl ifanc. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i ymgymryd ag unrhyw her rydych chi'n ei hwynebu - o iechyd meddwl i arian, o ddigartrefedd i ddod o hyd i swydd, o dorri i fyny i gyffuriau. Siaradwch â ni trwy ein cymuned ar-lein, ar gymdeithasol, trwy ein llinell gymorth gyfrinachol am ddim neu ein gwasanaeth cwnsela.
Mae Calm Harm yn ap sydd wedi cael ei ddylunio i helpu pobl i wrthsefyll yr ysfa i hunan-niwedio. Mae'n gwbl breifat ac wedi'i ddiogelu â chyfrinair. Cofiwch mai cefnogi yn hytrach na disodli triniaeth feddygol yw bwriad yr ap.
Mae'n defnyddio Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) i'ch helpu i ddygymod ag Iselder, Gorbryder, Straen ac ati. Defnyddiwch y traciwr arferion cadarnhaol a negyddol i gadw arferion da, ac i roi stop ar y rhai sy'n wrthgynhyrchiol.
Canllaw defnyddiol yn rhestru'r apiau ar ffonau clyfar sy'n cynorthwyo defnyddwyr i reoli a chynnal eu Lles Meddwl.