Dewis Iaith | Chose Language
gwneud sylwadau rhywiol, sylwadau, ystumiau, jôcs naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein
codi sgertiau neu dynnu llun o dan ddillad person heb iddynt wybod
gwneud sylwadau cas am gorff, rhyw, rhywioldeb rhywun neu achosi cywilydd, trallod neu ddychryn
cam-drin ar sail delwedd, megis rhannu llun neu fideo noeth / rhannol noeth heb ganiatâd y person yn y llun
anfon ffotograffau/fideos rhywiol, neu bornograffig digroeso at rywun
Yn torri ar eich urddas ac yn gwneud i chi deimlo'n ofnus, wedi'ch diraddio neu wedi'ch bychanu
Yn creu amgylchedd gelyniaethus neu dramgwyddus
Nid oes angen i chi fod wedi gwrthwynebu ymddygiad rhywun yn flaenorol er mwyn iddo gael ei ystyried yn ddigroeso
Oeddech chi’n gwybod bod aflonyddu rhywiol yn fath o wahaniaethu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Os cewch eich trin yn wael neu’n llai ffafriol oherwydd eich ymateb i aflonyddu rhywiol, mae’n bosibl y bydd gennych hawliad o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Gyda llawer o weithredoedd cyfreithiol ar waith, megis y Ddeddf Troseddau Rhywiol, y Ddeddf Camddefnyddio Telathrebu, y Ddeddf Cyfathrebiadau Maleisus a’r Ddeddf Cydraddoldeb, mae angen i unrhyw un sy’n meddwl eu bod yn rhydd rhag y gyfraith ystyried eu safbwynt yn ofalus. Gan y gallai unrhyw fath o aflonyddu, cam-drin neu ymosodiad rhywiol, emosiynol, corfforol neu faleisus arwain at achos troseddol.
Gall hefyd arwain at gamau disgyblu gan y coleg neu'ch cyflogwr.
Mewn rhai achosion, er enghraifft pan fydd rhywun yn dweud jôc rywiol amhriodol, efallai y byddwch yn gweld ei bod yn ddigon i roi gwybod iddynt fod eu hymddygiad yn eich gwneud yn anghyfforddus.
Mewn achosion o ailadrodd sylwadau neu gyffwrdd corfforol, mae'n syniad da cadw dyddiadur/cofnod o amseroedd ac unrhyw dystion i'r ymddygiad. Dylech ddweud wrth eich tiwtor/aseswr ar unwaith.
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech drafod ymddygiad rhywiol amhriodol, siaradwch â'ch tiwtor neu'ch aseswr; neu gallwch gysylltu â'r Tîm Lles a Diogelu. Maen nhw ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad i sicrhau bod unrhyw un sydd mewn perygl yn cael y cymorth cywir. Os ydych chi’n cael bywyd yn ystod dysgu neu hyfforddiant neu gartref yn anodd, ac nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel neu os oes gennych chi bryder am rywun arall, mae ein tîm Diogelu ar gael i helpu.
Gellir ymdrin ag ymosodiad rhywiol difrifol neu drais trwy sianeli cyfreithiol, ond os yw'n well gennych beidio â mynd at yr heddlu mae yna hefyd wasanaethau a sefydliadau arbenigol a all helpu. Mae’r rhain yn cynnwys:
Mae Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (Rasasc), Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth, cymorth arbenigol a therapi i unrhyw un 3 oed a hŷn sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol neu drais. Byddant yn eich cefnogi os digwyddodd hyn yn ddiweddar neu yn y gorffennol. Gallant hefyd ddarparu cymorth a therapi arbenigol i bartneriaid ac aelodau teulu'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan gam-drin rhywiol a thrais. Mae eu gwasanaeth yn anfeirniadol, yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Mae eithriadau i gyfrinachedd lle mae diogelwch plant neu oedolion agored i niwed yn y cwestiwn, ond byddant yn esbonio'r rhain i chi pan fyddant yn cwrdd â chi.
Eich meddyg teulu neu nyrs practis eich hun, neu ffoniwch GIG 111
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind, neu unrhyw un arall rydych chi’n poeni amdanynt wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth neu drafod eich opsiynau.
Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost