Dewis Iaith | Chose Language
Mae Eabhan yn addysgu sgiliau hanfodol ac ysgrifennu creadigol yn yr adran Dysgu Gydol Oes ar dri o safleoedd Grŵp Llandrillo Menai: Caernarfon, Bangor a Llangefni. Mae Eabhan wedi astudio Reiki ar lefel 3 ac mae ganddi ddiploma mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar.
Isod ceir rhai o fyfyrdodau a drychddelweddau Eabhan sy'n gwneud cryn ddefnydd o'r traddodiad shamanic lle rhoddir pwyslais ar natur fel ffordd o gael mynediad at eich doethineb a'ch greddfau mewnol.
Y ddamcaniaeth sy'n sail i ymwybyddiaeth ofalgar yw'ch bod drwy ddefnyddio technegau amrywiol i roi eich holl sylw i'r presennol (fel arfer drwy ganolbwyntio ar eich corff a'ch anadlu), yn gallu:
Sylwi ar sut mae meddyliau'n mynd a dod. Byddwch yn dysgu nad oes rhaid i chi ddiffinio eich hun, na'ch profiad o'r byd ac y gallwch adael iddynt fynd.
Sylwi ar yr hyn mae'ch corff yn ei ddweud wrthych. Er enghraifft, rydych yn aml yn teimlo tensiwn a phryder yn eich corff (drwy guriad calon cyflym, cyhyrau tynn neu ddiffyg anadl).
Rhoi gofod rhyngoch chi a'ch meddyliau, fel eich bod yn gallu ymateb yn fwy pwyllog.