Cyllid a rheoli eich arian
BRECWAST AM DDIM!
Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n cynnig brecwast am ddim i'r holl fyfyrwyr?
Mae'r brecwast am ddim yn cynnwys:
un diod (te, coffi neu sudd ffrwythau)
a DWY eitem i'w bwyta:
tost a menyn, bar grawnfwyd neu ddarn o ffrwyth
Er mwyn manteisio ar y cynnig hwn:
Ewch at y cownter a dewis eich eitemau bwyd, a bydd y staff wrth y til yn cofnodi eich brecwast, neu sganiwch y cod QR gyda'ch ffôn symudol a chofnodwch eich rhif dysgwr.
Cofiwch wisgo eich cerdyn adnabod dysgwr a laniard, os gwelwch yn dda.
Edrychwch ar y poster i weld yr amseroedd y cynigir y brecwast am ddim ym mhob campws.
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
CYLLID MYFYRWYR
Os hoffech gael gwybodaeth, cyngor neu arweiniad ynghylch unrhyw un o wasanaethau'r coleg, yn cynnwys trafod unrhyw gymorth ariannol a allai fod ar gael, cysylltwch gydag un ai eich Tiwtor Personol, eich Aseswr neu'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr.
RHEOLI EICH ARIAN
CREU CYLLIDEB REALISTIG
Beth yw cyllideb?
Cyllideb yw cynllun ar gyfer sut rydych chi'n dymuno gwario eich arian.
Os yw eich arian yn darfod cyn diwedd y mis neu os ydych chi'n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd gall llunio cyllideb eich helpu i fynd yn ôl ar y trywydd cywir.
Yn arferol mae llunio cyllideb yn cynnwys penderfynu faint i'w wario ar bethau sy'n bwysig i chi - er enghraifft, rhent, bwyd a chymdeithasu.
Mae cynllunio ar gyfer y rhain ymlaen llaw yn ffordd wych o gadw trefn ar eich arian.
Cam 1 - Dewis lle i lunio eich cyllideb
Ysgrifennwch eich cyllideb ar ddarn o bapur neu mewn llyfr
Defnyddiwch raglen fel Microsoft Excel fel eich bod yn medru diweddaru eich cyllideb a chael y meddalwedd i gyfrifo ar eich rhan.
Defnyddiwch becyn rhyngweithiol ar-lein fel cynlluniwr cyllideb Money Advice Service.
Cam 2 - Rhestrwch eich incwm
Nodwch yr arian rydych chi'n ei dderbyn bob mis. Gallai hyn gynnwys:
Cyllid Myfyrwyr
Cyflog gan eich cyflogwr
Budd-daliadau lles
Cyfraniadau gan eich rhieni
Cam 3 - Tracio eich gwario
Os nad ydych chi'n siŵr faint rydych chi'n ei wario, edrychwch ar eich datganiadau banc neu eich derbynebau yn ogystal ag unrhyw apiau bancio rydych chi'n eu defnyddio, neu defnyddiwch y rhestr hon o wariant myfyrwyr i'ch helpu.
Cam 4 - Gwnewch i'ch cyllideb weithio
Y syniad y tu ôl i lunio cyllideb yw sicrhau eich bod yn gwario llai na'ch incwm bob mis.
Os oes gennych chi arian dros ben, gallai fod yn fuddiol ystyried rhoi'r swm yma mewn cyfrif cynilo bob mis i greu cronfa wrth gefn.
Os ydych chi'n ei chael yn anodd, peidiwch â phoeni, mae adnoddau ar gael i'ch helpu chi.
Daliwch ati
Does dim rhaid i'ch cyllideb fod yn berffaith ar yr ymgais gyntaf. Fel unrhyw beth arall, mae'r broses yn dod yn haws wrth ymarfer.
Unwaith y dewch i arfer, dylech bennu targed ariannol i chi eich hun. Gallai hyn ymwneud â chryfhau eich sefyllfa ariannol neu weithio tuag at gyllideb gytbwys erbyn diwedd bob mis. Os oes gennych chi ddigon o incwm efallai y byddwch yn dymuno dewis rhywbeth i gynilo ar ei gyfer. Gallai fod yn gronfa argyfwng neu rywbeth i'ch gwobrwyo am eich gwaith caled.
Penderfynwch faint i'w roi o'r neilltu bob mis. Neu heriwch eich hun i leihau unrhyw wario diangen, a rhoi'r arbedion tuag at eich targed.
Mae targedau ariannol yn rhoi ymdeimlad o gyfeiriad i chi, ac yn eich annog i ddal ati, ac yn y bôn, dyna holl bwrpas cyllidebau.
DEFNYDDIO GWEFANNAU CYMHARU YN EFFEITHIOL
Peidiwch â defnyddio un wefan cymharu prisiau yn unig a chofiwch efallai nad yr un gyntaf fydd yr orau, felly peidiwch â thybio mai'r canlyniad cyntaf yw'r gorau. Yn enwedig oherwydd gallai'r canlyniad ar frig y rhestr fod wedi'i 'noddi', felly bydd yn ymddangos yn gyntaf er nad dyna'r canlyniad gorau o bosib.
Gwiriwch am gytundeb ffôn symudol cystadleuol
Mae gwneud yn siŵr eich bod chi derbyn y fargen orau, a ddim yn talu am alwadau, negeseuon testun a data nad ydych chi'n eu defnyddio, nac yn talu mwy am oresgyn eich terfynau'n rheolaidd, yn ffordd wych o dorri costau.
Gwiriwch eich biliau yn rheolaidd fel y medrwch adnabod unrhyw dueddiadau neu gostau annisgwyl.
Meddyliwch am gytundeb SIM yn unig os yw eich ffôn yn gweithio'n iawn, gan y gallai hyn arbed arian i chi!
Enghreifftiau o wefannau cymharu cytundebau ffôn symudol
Voxi Student Sim Only Plans - yn eiddo i Vodafone
Switcheroo - gwarantu'r contractau ffôn symudol gorau
Compare the market - Ffonau symudol
Yswiriant car
Sut fedrwch chi gael yswiriant car rhatach? Ystyriwch y pwyntiau isod:
Yswiriant telematig
Yswiriant talu wrth fynd
Lleihau nifer eich milltiroedd gyrru
Yswiriant sy'n enwi gyrrwr penodol
Dewis car o grŵp yswiriant isel
Osgoi gwneud hawliadau yswiriant bach
Cadw eich car mewn man diogel
Enghreifftiau o wefannau cymharu yswiriant car
Moneysupermarket - Yswiriant i fyfyrwyr
Endsleigh - Yswiriant car i fyfyrwyr