Dewis Iaith | Chose Language
Mae CYNNYRCH MISLIF RHAD AC AM DDIM a DILLAD SBAR ar gael gan y Gwasanaethau i Ddysgwyr.
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai gall dysgwyr gael cynnyrch mislif am ddim i oresgyn y rhwystrau hyn, ond gwyddom fod rhagor y gallwn ei wneud i fynd i'r afael ag oblygiadau ariannol tlodi mislif.
Rydym wedi lansio'r ymgyrch "Urddas yn ystod Mislif" i gael gwared ar yr hyn sy'n rhwystr diangen i addysg ac i annog dysgwyr i ddelio'n hyderus â'u mislif. Rydym hefyd am gael gwared ar y tabŵs sy'n gysylltiedig â mislif ac i wneud sgyrsiau am fislif yn fwy arferol, fel nad yw dysgwyr yn teimlo embaras neu gywilydd wrth ofyn am help.
Yn Chwefror 2019, cyn y cyfnod clo a chyfyngiadau'r llywodraeth, fe wnaethom ni ffilmio a chyfweld athletwyr amrywiol o bob cwr o Ogledd Cymru i rannu eu profiadau am ddelio â'u mislif tra hefyd yn hyfforddi.
Fel rhan o'r ymgyrch hon rydym am dynnu sylw at bwysigrwydd gwneud gweithgareddau corfforol gan fod hyn yn lleihau symptomau'r mislif. Y neges yn syml yw na ddylai'r mislif fod yn rhwystr i gymryd rhan mewn addysg na gweithgareddau corfforol.
Gan weithio gyda hyfforddwr personol a chyn-fyfyriwr yn GLlM, rydym wedi datblygu 12 o dechnegau ymarfer corff byr i helpu gyda hyn.
Ceir ymarfer gwahanol ar gyfer bob mis, ac fe all y rhain helpu i leddfu peth o'r anesmwythder. Gallwch roi cynnig arnynt gartref, gyda ffrindiau neu ar eich pen eich hun – beth bynnag sy'n gweithio orau i chi.