Dewis Iaith | Chose Language
Cwpan hyblyg sy'n cael ei wisgo yn y fagina yn ystod y mislif yw cwpan mislif ac mae'n cael ei ystyried yn fwy caredig i'r amgylchedd na thamponau neu dyweli.
Yn hytrach nag amsugno, mae'r cwpan yn casglu a dal gwaed eich mislif tan rydych chi'n barod i gael gwared arno i lawr y toiled.
Mae cwpanau mislif yn dod mewn amrywiaeth o feintiau a siapiau i weddu i'ch corff a'ch oedran.
Y cwpanau sydd ar gael yn y Gwasanaethau i Ddysgwyr yw'r cwpanau Hey Girls, sy'n argymell defnyddio cwpan bychan os ydych dan 25 oed a heb eni'n naturiol, neu gwpan mwy os ydych dros 25 oed neu wedi geni'n naturiol.
Gallant, ac fel gydag unrhyw gynnyrch mislif arall, mae gennych ryddid i wisgo beth bynnag sydd fwyaf cyfforddus i chi. Fodd bynnag, byddai'n syniad treialu'r cwpan cyn i'ch mislif ddechrau fel eich bod yn gwybod sut i'w ddefnyddio.
Os oes gennych goil neu IUD, siaradwch â'ch meddyg teulu i wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel i chi wisgo cwpan.
Fel gydag eitemau mislif eraill, fe all gymryd ychydig o amser ac amynedd i chi ddod i arfer â defnyddio cwpan.
I dynnu'r cwpan, pinsiwch ben blaen y cwpan a'i ysgwyd yn ofalus nes y byddwch yn teimlo'r pwysau'n dechrau rhyddhau. Dylai'r cwpan symud i ffitio siâp eich corff, ond os ydych yn cael anhawster i'w dynnu, dewch â'r cwpan i lawr yn ddigon isel i binsio'r gwaelod a'i dynnu allan gan afael ynddo'n dynnach.
Gwagio a glanhau'r cwpan bob 10 i 12 awr yw'r cyngor arferol, ond wrth gwrs mae hyn yn dibynnu ar ba mor drwm yw llif y gwaed.
Cyn gwisgo eich cwpan, rhaid i chi ei sterileiddio mewn dŵr berw am tua 5 munud. Rhwng pob defnydd, golchwch eich cwpan mewn dŵr cynnes i wneud yn siŵr ei fod yn lan cyn ei wisgo eto (peidiwch â'i roi yn y peiriant golchi llestri).
Yn y cyfnodau rhwng eich mislif gwnewch yn siŵr fod eich cwpan yn lân a sych gan ei gadw mewn bag neu gynhwysydd glân ac anadladwy.
Gelli.
Fel arfer, allwch chi ddim cael rhyw tra ydych chi'n eu gwisgo, ond mae yna rai'n cael eu gwerthu sydd wedi'u cynllunio'n benodol i chi allu eu gwisgo tra ydych chi'n cael rhyw.
Daw'r cynghorion hyn oddi ar wefan Hey Girls.
Gwnewch yn siŵr fod eich dwylo'n lân, a chyn gwisgo'r cwpan rhaid i chi ei sterileiddio mewn dŵr berw am o leiaf dri munud.
Cyngor da yw gwlychu'r cwpan cyn ei wisgo gan fod hyn yn ei wneud yn haws i'w ddefnyddio.
Gosodwch y cwpan yn ofalus y tu mewn i'r fagina nes ei fod yn cyrraedd gwddf y groth. Rhowch dro i'r cwpan i helpu i'w gadw yn ei le. Bydd y cwpan yn agor yn naturiol i ffitio siâp eich corff.
Gallwch addasu'r handlen ar y gwaelod fel ei fod yn ffitio'n gyfforddus. Dylai'r pen blaen hwn fod o fewn cyrraedd. Ond efallai y bydd angen i chi addasu'r maint neu'r gosodiad os yw'r cwpan yn rhy isel. Gallwch wneud hyn drwy docio peth o'r pen blaen os yw'r cwpan yn rhy hir. Ni ddylech allu ei deimlo wrth eistedd neu fynd o gwmpas eich pethau bob dydd.