Dewis Iaith | Chose Language
Iechyd meddwl a lles
Di-gartref
Gamblo
Cam-drin domestig
Cyffuriau ac alcohol
Iechyd rhywiol
Perthnasoedd diogel a iach
Pwrpas Tiwtoriaid Personol yw gwneud yn siŵr eich bod yn dod i arfer â bywyd Coleg. Bydd eich tiwtor yn eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau a all fod gennych o ran astudio, a bydd yn cynllunio ac yn adolygu'r cynnydd a wnewch er mwyn sicrhau eich bod yn cyflawni'ch amcanion.
Mae Mentoriaid Cefnogaeth Dysgu wrth law i weithio gyda myfyrwyr er mwyn gwella eu presenoldeb a'u sgiliau bywyd (e.e. bod yn brydlon). Byddant yn helpu myfyrwyr i fagu hyder a gwella eu cymhelliant a'u hagwedd at ddysgu. Gall myfyrwyr elwa ar wasanaeth yr Mentoriaid Cefnoaeth Dysgu drwy fynd i sesiynau galw heibio. Gall Tiwtoriaid Personol hefyd gyfeirio myfyrwyr i gael cymorth.
Fel myfyriwr, cewch gyfle i ddweud eich dweud ynghylch y modd y caiff eich Coleg ei redeg. Fe wnawn yn siŵr y byddwch yn gwybod ble i gael gwybodaeth a sut i leisio'ch barn ar wahanol bynciau. Byddwn yn gwrando arnoch ac yn dweud wrthych beth wnaethom yn sgil eich sylwadau.
Gall Dysgwyr Seiliedig ar Waith sy'n dilyn hyfforddiant gydag COPA neu ddarparwyr hyfforddiant eraill gael mynediad i rai o wasanaethau Grŵp Llandrillo Menai trwy gysylltu â'u haseswr.