RHAGLEN
Llysgenhadon LLES
Ydych chi'n angerddol am iechyd a lles, neu weithgareddAU corfforol? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth?
dyma'ch cyfle i arwain, ysbrydoli a dylanwadu ar weithgareddau a newid yn y coleg!
Y Rhaglen Llysgenhadon LLES
Lluniwyd y Rhaglen Llysgenhadon Lles i feithrin arweinwyr y dyfodol yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ac i hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles. Fel llysgennad byddwch yn arwain, yn ysbrydoli ac yn dylanwadu, ac:
bod yn llais y dysgwr dros les yn y coleg a’r gymuned
hyrwyddo gwerthoedd iechyd a lles cadarnhaol
bod yn fodel rôl ar gyfer hyrwyddo lles a ffyrdd iach o fyw
cynyddu cyfleoedd cyfranogiad cynhwysol a ffyrdd iach o fyw i bawb
Fel rhan o’r rhaglen byddwch yn:
cwblhau oriau gwirfoddol yn y coleg neu'r gymuned ehangach
cael mynediad at gyfleoedd a chefnogaeth newydd
cymryd rhan mewn syniadau prosiect a bod yn rhan o grŵp llywio lles dysgwyr
CAEL mynediad at hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol
Sut ydw i'n cofrestru? A beth sy'n digwydd nesaf?
Cwblhewch y ffurflen gais isod neu anfonwch e-bost atom yn lles@gllm.ac.uk
Cael cyfweliad anffurfiol dros y ffôn, ar-lein neu wyneb yn wyneb. (Peidiwch â gadael i hyn eich digalonni, mae'n rhan o'r broses i helpu i ddatblygu sgiliau a hyder a bydd yn ein helpu i benderfynu pa rôl sydd orau i chi.
Unwaith y byddwn wedi gwneud hyn gallwn benderfynu pa rôl fydd orau i chi a byddwn yn darparu rhywfaint o hyfforddiant i chi.
Yna byddwn yn eich cefnogi yn eich rôl fel llysgennad.
CLICK HERE to read more!
Heriau'r Llysgenhadon
Rhowch gynnig ar un o'r heriau hyn gan lysgenhadon blaenorol!