Dewis Iaith | Chose Language
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i greu amgylchedd dysgu a gweithio iach, ac i ddarparu cyfleoedd a chefnogaeth i alluogi ein staff a’n dysgwyr i gryfhau eu gwytnwch a hunan-ofal, a chyrraedd eu llawn botensial.
Bydd y strategaeth yn adeiladu ar y datblygiadau lles sydd eisoes yn digwydd ar draws y Grŵp. Rydym wedi sefydlu grwpiau llywio staff a dysgwyr ac wedi creu cynlluniau gweithredu i’n galluogi i wireddu nodau’r strategaeth ac i sicrhau bod iechyd a lles cadarnhaol yn rhan annatod o bopeth a wnawn.