diogelu a prevent

betH yw ystyr diogelu?

Diogelu yw’r camau a gymerwn i hyrwyddo lles ein dysgwyr a’u hamddiffyn rhag niwed.

YSTYR niwed yw:

Unrhyw beth sy'n digwydd i beryglu dysgwr. Mae hyn yn cynnwys perygl o gam-drin a/neu esgeulustod seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol.

Mae'n cynnwys meithrin perthynas amhriodol, ymosod yn gorfforol, a gorfodi rhywun i wneud rhywbeth yn groes i'w ewyllys. Gall gynnwys bwlio.

Gall hyn ddigwydd yn y cartref, yn y coleg/yn ystod hyfforddiant, yn y gweithle, gyda ffrindiau, ar-lein, ar y stryd – yn rhywle.  Mae gennym ni a’n partneriaid Dysgu Seiliedig ar Waith weithdrefnau ar waith i gefnogi ein dysgwyr:

Os ydych chi'n ddysgwr seiliedig ar waith sy'n dilyn eich hyfforddiant gydag Arfon Dwyfor 

Training, North Wales Training  neu darparwr hyfforddiant arall, darllenwch eu polisi nhw.

Mae diogelu'n cwmpasu sawl maes, gan gynnwys y rhai a ganlyn: 

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod o dan 18 oed ac mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol, ac os ydych chi wedi siarad ag aelod o'r staff am hyn, mae'n rhaid i'r aelod o'r staff roi gwybod i Swyddog Diogelu. Yna, bydd y Staff Diogelu'n penderfynu ar y camau gorau i'w cymryd er mwyn sicrhau eich bod chi, neu'r unigolyn yr ydych yn ei adnabod, yn ddiogel.

Os ydych chi'n ddysgwr seiliedig ar waith sy'n dilyn eich hyfforddiant gydag Arfon Dwyfor Training, North Wales Training  neu darparwr hyfforddiant arall, cysylltwch â'ch tiwtor/aseswr am hyfforddiant Prevent.

Mae Prevent yn ymwneud â diogelu pobl a chymunedau rhag bygythiad terfysgaeth. Mae Prevent yn rhan o CONTEST, sef strategaeth wrthderfysgaeth y Llywodraeth. Prif fwriad Prevent yw atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth ac eithafiaeth dreisgar. Wrth wraidd Prevent mae diogelu plant ac oedolion a darparu ymyrraeth gynnar i amddiffyn a dargyfeirio pobl rhag cael eu denu i weithgarwch terfysgol.

Mae Gwerthoedd Prydeinig Sylfaenol yn greiddiol i’r hyn yw bod yn ddinesydd mewn Prydain Fawr fodern ac amrywiol gan werthfawrogi ein cymuned a dathlu amrywiaeth y DU. Y gwerthoedd hyn yw:

Hoffech chi drafod pryder diogelu?

ydych chi'n adnabod rhywun sy'n datblygu safbwyntiau eithafol neu sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio?

Os ydych chi'n ddysgwr seiliedig ar waith sy'n dilyn eich hyfforddiant gydag Arfon Dwyfor Training, North Wales Training  neu darparwr hyfforddiant arall, cysylltwch â'ch tiwtor/aseswr i gael cymorth.

Sylwch, Dim ond yn ystod tymor y coleg y mae Timau Lles y coleg ar gael. Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm a dydd Gwener 9am - 4.30pm.

Mewn argyfwng meddygol

Mewn argyfwng diogelwch

SAMARITANS  

Childline

Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol 

Meddyliau hunan-laddol

BYW HEB OFN Cam-drin domestig neu drais rhywiol