Cwnsela yn y Coleg

cwnsela yn y coleg

Beth yw therapi/cwnsela?

Mae therapi yn darparu lle diogel a chyfrinachol i chi siarad â gweithiwr proffesiynol hyfforddedig am eich materion a'ch pryderon. Bydd eich therapydd yn eich helpu i archwilio eich meddyliau, eich teimladau a'ch ymddygiadau fel y gallwch chi ddatblygu dealltwriaeth well ohonoch chi'ch hun ac o eraill. Ni fydd cwnselydd yn rhoi ei farn na chyngor i chi nac yn rhagnodi meddyginiaeth. Byddant yn eich helpu i ddod o hyd i’ch atebion eich hun – gall gynnwys gwneud newidiadau effeithiol yn eich bywyd neu’n dod o hyd i ffyrdd o ymdopi â’ch problemau. (Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain - BACP).

Beth fydd yn digwydd?

Byddwch yn cael cynnig sgwrs gychwynnol gyda'r swyddog lles neu gwnselydd lle gallwch siarad am eich anawsterau a thrafod a allai cwnsela fod yn ddefnyddiol. Gall hyn hefyd fod yn fan cychwyn i ffynhonnell arall o gymorth os yw hynny'n fwy priodol. Mae staff cymwys ar gael i roi cymorth cyfrinachol i'ch helpu ar adegau o anhawster neu argyfwng personol.

Mae cwnsela yn gyfrinachol

Mae’r gwasanaeth cwnsela’n cael ei redeg yn unol â Fframwaith Moesegol BACP ar gyfer Arfer Da mewn Cwnsela a Seicotherapi. Nid yw cwnselwyr yn cyfathrebu â thrydydd parti am berson sy’n cael cwnsela, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol iawn.

Os oes angen i chi siarad â rhywun neu i gael gwybod mwy:

Os ydych chi'n ddysgwr seiliedig ar waith sy'n dilyn eich hyfforddiant gydag Arfon Dwyfor Training, North Wales Training neu darparwr hyfforddiant arall, cysylltwch â'ch tiwtor/aseswr i gael cymorth.

Os hoffech hunan-atgyfeirio ar gyfer cymorth lles, siaradwch a'ch tiwtor personol, galwch i mewn i Wasanaethau i Ddysgwyr, cysylltwch â diogelu@gllm.ac.uk, NEU cliciwch y dolen hunan-atgyfeiriad; a byddwn yn cysylltu â chi.


Os ydych chi'n ddysgwr seiliedig ar waith sy'n dilyn eich hyfforddiant gydag Arfon Dwyfor Training, North Wales Training neu darparwr hyfforddiant arall, cysylltwch â'ch tiwtor/aseswr i gael cymorth.