Dewis Iaith | Chose Language
Caiff y cynllun ei redeg yn unol â Chanllawiau Fraser (Safonau Gillick) ynghylch sut mae pobl ifanc yn cael cyngor am ddulliau atal cenhedlu a Pholisi Diogelu Grŵp Llandrillo Menai sy'n rhan greiddiol o Adduned Lles y Coleg .
Mae'r Cynllun Cerdyn-C yn darparu condomau am ddim i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn helpu i leihau'r perygl o feichiogi'n anfwriadol, i leihau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac i hyrwyddo perthnasoedd rhywiol diogelach.
Ar bob safle gall aelod hyfforddedig o'r Tîm Lles gofrestru myfyrwyr ar gyfer y cynllun gan sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth a'r arddangosiadau cywir, neu ddosbarthu condomau am ddim i'r rhai sydd eisoes wedi cofrestru. Gall dysgwyr sydd wedi ymuno â'r cynllun gael condomau am ddim o unrhyw ganolfan sy'n rhan o'r cynllun yng Ngogledd Cymru.
Gwasanaethau a gwybodaeth iechyd rhywiol yng Nghymru mewn un lle! Cyfoeth o wybodaeth yn ymwneud ag atal cenhedlu, profion STI, perthnasoedd, lles mislif a mwy.