Dewis Iaith | Chose Language
Mae eich lles emosiynol, cymdeithasol a chorfforol yn effeithio ar eich iechyd. Er mwyn i chi deimlo'n iawn mae'n bwysig eich bod chi'n teimlo'n dda (e.e. teimladau o hapusrwydd, bodlonrwydd, mwynhad, chwilfrydedd, ymgysylltu) a gweithredu'n dda (profi perthnasoedd cadarnhaol, cael rhywfaint o reolaeth dros fywyd rhywun, bod â synnwyr o bwrpas).
Mae'r arolwg yn gofyn 15 cwestiwn ynghylch sut rydych chi'n teimlo am eich lles, ac mae'n cynnwys tri maes: lles emosiynol, cymdeithasol a chorfforol.
Unwaith yr ydych wedi cwblhau'r arolwg, bydd Cynllun Lles Personol yn cael ei gynhyrchu'n syth. Bydd y Cynllun Lles yn cynnig awgrymiadau ynghylch sut y gallwch ofalu amdanoch eich hun mewn ffordd iach neu ble i fynd am ragor o wybodaeth.
Byddwn yn cynnal yr arolwg dair gwaith y flwyddyn i weld a yw'ch teimladau'n newid yn ystod y cyfnod hwn ac yw'ch lles yn gwella.
Bydd rhai o'ch atebion yn cael eu plotio ar Seren Lles, felly pan fyddwch yn ail-wneud yr arolwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn gallwch weld pa gynnydd rydych wedi'i wneud. Mae'r Cynllun Lles ar gael i chi ei weld drwy gydol y flwyddyn academaidd ar Edrac.