Dewis Iaith | Chose Language
Credwn fod gan BOB dysgwr yr hawl i beidio â chael eu bwlio neu aflonyddu a bod bob amser yn annerbyniol. Dylai ein staff, dysgwyr a rhieni fod yn sicr yr ymatebir yn briodol i ddigwyddiadau hysbys o unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu. Ethos Grŵp Llandrillo Menai yw meithrin disgwyliadau uchel o ymddygiad rhagorol a bydd yn herio’n gyson unrhyw ymddygiad sy’n disgyn islaw hyn.
Nid yw’r Coleg a'i bartneriaid hyfforddi yn goddef unrhyw Fwlio neu Aflonyddu gan gynnwys aflonyddwch rhywiol.
Os ydych chi'n ddysgwr seiliedig ar waith sy'n dilyn eich hyfforddiant gydag COPA neu darparwr hyfforddiant arall, darllenwch eu polisi nhw.
Bwlio yw brifo un person neu grŵp yn fwriadol dro ar ôl tro gan berson neu grŵp arall, lle mae’r berthynas yn cynnwys anghydbwysedd pŵer. Gall ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Cynghrair Gwrth-fwlio
Mae bwlio/aflonyddu yn rhywbeth y mae rhywun yn ei wneud yn fwriadol gyda'r nod o'ch niweidio. Mae bwlio yn ymddygiad sarhaus, bygythiol neu maleisus. Pan ddaw'r ymddygiad hwn yn barhaus ac yn fygythiol, yna gall bwlio ddod yn broblem fawr i bawb dan sylw. Gall ymddygiad bwlio fod yn:
Corfforol – gwthio, procio, cicio, taro, brathu, pinsio, cymryd eiddo neu arian ac ati.
Ar lafar - galw enwau, pryfocio, coegni, lledaenu storïau cas, bygythiadau, pryfocio, bychanu. Anfon negeseuon testun neu e-byst creulon
Emosiynol – ynysu eraill, poenydio, cuddio llyfrau, ystumiau bygythiol, gwawdio, bychanu, brawychu, gwahardd, trin a gorfodi.
Rhywiol – cyswllt corfforol digroeso, cyffwrdd amhriodol, sylwadau difrïol, cam-drin homoffobig, dod i gysylltiad â ffilmiau amhriodol ac ati.
Ar-lein / seiber – postio pethau creulon ar gyfryngau cymdeithasol, rhannu lluniau, anfon negeseuon testun cas, allgáu cymdeithasol
Anuniongyrchol - gall gynnwys camfanteisio ar unigolion.
Aflonyddu yw pan fydd rhywun yn mynd yn groes i urddas rhywun arall yn bwrpasol neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus i berson arall.
Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n fwli? Fyddwch chi'n pigo ar bobl neu'n eu gwthio o gwmpas? Fyddwch chi'n pryfocio neu'n gwneud hwyl ar ben rhywun yn aml, neu ydych chi'n aelod o grŵp sy'n gwneud hynny? Os ydych, mae gofyn i chi stopio.
Mae yn bobl ifanc yn y DU sydd yn cyflawni hunanladdiad bob blwyddyn ac mae llawer yn rhagor yn colli ysgol, coleg neu gyfnodau o addysg. Gall effeithiau tymor hir bwlio gynnwys diffyg hyder a hunan-barch isel. Gall pobl newid y ffordd maen nhw'n ymddwyn ond rhaid delio â'r hyn sy'n achosi'r ymddygiad yn y lle cyntaf.
Am gymorth a chefnogaeth gweler "Cysylltwch â" isod.
Os gweloch chi rywun yn cael eu bwlio neu aflonyddu ac os na wnaethoch chi unrhyw beth yna rydych chi'n cefnogi'r bwli. Byddwch yn ddewr a dadlau â'r nhw, dyna sut y dangoswch chi i'r dioddefwr nad ydyw ar ei ben ei hun. Ni fyddwn yn rhannu eich enw wrth ymdrin â'r sefyllfa a byddwch yn cael cynnig yr un lefel o gefnogaeth â'r dioddefwr.
DS: Nid yw Grŵp Llandrillo Menai'n gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan allanol.
Os hoffech hunan-atgyfeirio ar gyfer cymorth lles, siaradwch a'ch tiwtor personol, galwch i mewn i Wasanaethau i Ddysgwyr, cysylltwch â diogelu@gllm.ac.uk, NEU cliciwch y dolen hunan-atgyfeiriad; a byddwn yn cysylltu â chi.
Os ydych chi'n ddysgwr seiliedig ar waith sy'n dilyn eich hyfforddiant gydag COPA neu darparwr hyfforddiant arall, cysylltwch â'ch tiwtor/aseswr i gael cymorth.
DS: Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol.
Os mae bwlio yn eich poeni ac mae angen siarad gyda rhywun amdano yna gallwch ein ffonio ni yma yn Meic (neu tecstiwch neu IM). Mae ein cynghorwyr cyfeillgar yma i'ch helpu a'ch arwain i leoedd a all eich helpu.
Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru yw Meic. Rydym ar agor rhwng 8am a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â ni am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges destun (84001) neu sgwrs ar-lein.