ein hamgylchedd

Dyma gyflwyniad ar effaith Grŵp Llandrillo Menai ar yr amgylchedd a rhai o'r dulliau y gallwn helpu lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

PROSIECT YR AMGYLCHEDD UNDEB Y MYFYRWYR

Mae ein Hundeb Myfyrwyr wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Dyfodol Cynaliadwy ac maent yn ddiweddar wedi derbyn dros £22,000 ar gyfer eu prosiect.

Ar gyfer yr ymgynghoriad cychwynnol, creodd yr Undeb Myfyrwyr Badlet ar-lein a holodd y myfyrwyr beth mae Cymru yn ei olygu iddynt. Un o'r ymatebion mwyaf poblogaidd oedd harddwch y wlad a phwysigrwydd teulu. Dywedodd ein myfyrwyr wrthym eu bod eisiau edrych ar ôl ein hamgylchedd a sicrhau ei fod hefyd yn cael ei warchod am genedlaethau i ddod.


cwis amgylcheddol undeb y myfyrwyr


Cyngor ar sut i fod yn amgylcheddol gynaliadwy

Un awgrym syml i'w ychwanegu bob mis i'ch bywyd dyddiol ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn dros gyfnod o flwyddyn. Mae pob mis yn canolbwyntio ar rywbeth gwahanol er mwyn datblygu'n raddol drwy gydol y flwyddyn.

prynwch yn lleol

Lle'n bosib cefnogwch fusnesau lleol.

tynnwch y gwefryddion

o'r plwg unwaith maent wedi eu gwefru yn llawn. Gan eu bod yn parhau i ddefnyddio ynni, hyd yn oed os nad yw'r ddyfais wedi ei chysylltu mwyach.

beth am ail-lewni?

Prynwch botel y gellir ei hail-lenwi â dŵr yn llen prynu dŵr potel.

cynlluniwch o'ch blaen

Rhewch fwydydd os na fyddwch yn eu defnyddio. New meddyliwch am fyrdd o ddefnyddio eich sbarion.

Gwiriwch dymheredd

A throwch y gwres i lawr 1°c i weld a welwch y gwahaniaeth.

AIL-LAW

os oes gennych bethau nad ydych mo'u hangen bellach,chwiliwch am ffyrdd o'u diweddaru neu rhowch nhw i ffrind a allai elwa ohonynt.

Ar Eich beIC

Gwenewch yn fawr o'r tywydd da ac yn lle mynd mewn cerbyd rhowch gynnig ar gerdded neu seiclo.

Gwnewch eich sgrin

yn llai llachar. Mae hyn nid yn unig yn arbed ynni ond yn llai o straen i'ch llygaid.

gwiriwch y label

mae modd ail-gylchu mwy o bethau mewn gwirionedd nag a gredwch. Gwiriwch y label i weld a fedrir ei ail-gylchu.

dysgwch yr iaith

fel nad ydych yn gwastraffu bwyd.

Defnyddier Erbyn: y dyddiad hyd at y mae'r cynnyrch yn ddiogel i'w fwyta; mae bwyd ar ôl y dyddiad hwn yn anniogel. Ar Ei Orau Cyn: pan fod cynnyrch yn blasu oray a bydd o hyd yn ddiogeli i'w fwyta felly peidiwch â'i daflu hyd new fod y dyddiad defnyddier erbyn wedi mynd heibio. Dangoswch hyd at: mae hyn yn gofnod ar gyfer yr archfarchnad felly anwybyddwch ef.

berwch yn ôl yr angen

Peidiwch â berwi mwy yn y tecell nag sydd ei angen arnoch.

Diffoddwch y goleuadau

Os oes digon o olau naturiol, ceisiwch ddiffodd y golau.