Dewis Iaith | Chose Language
Defnyddiwn y term 'profiad o fod mewn gofal' i gwmpasu amrediad o amgylchiadau byw gwahanol. Efallai y byddwch chi wedi clywed y termau Plentyn sy'n Derbyn Gofal/ Person sy'n Gadael Gofal. Efallai fod gennych chi, neu y bu gennych chi, weithiwr cymdeithasol, cynghorydd personol neu efallai eich bod chi'n cofio mynd i gyfarfodydd o'r enw adolygiadau Plentyn sy'n Derbyn Gofal neu gyfarfodydd Cynllun Addysg Personol.
Lle bo ymgeisydd neu ddysgwr wedi'i adnabod fel unigolyn â phrofiad o fod mewn gofal byddwn yn darparu'r cymorth canlynol:
Unigolyn cyswllt dynodedig a fydd yn cefnogi'r pontio ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng yr ymgeisydd/dysgwr a'r tîm addysg ac unrhyw asiantaethau cymorth, fel bo'n briodol, a chyfrannu at unrhyw adolygiadau Cynllun Addysg Personol
Cymorth ariannol ar ffurf bwrsariaethau a chymorth â chostau offer hanfodol. Rhoddir bwrsari ychwanegol i ddysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal sy'n graddio er mwyn cyfrannu at gostau graddio
Gall ymgeiswyr nodi eu profiad o fod mewn gofal ar y ffurflen gais neu drwy gysylltu â ni trwy: staysafe@gllm.ac.uk
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn deall y gall bod yn ofalwr fod yn heriol iawn. Os oes gennych gyfrifoldebau gofalu, rydym yn ymroddedig i gefnogi eich lles cyffredinol ac i'ch helpu i gydbwyso eich addysg â'ch cyfrifoldebau gofalu.
Gofalwr yw unrhyw un sy'n gofalu'n ddi-dâl am aelod o'r teulu neu ffrind na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed, ymdopi heb ei gymorth.
Os ydych o dan 18 oed rydych chi'n Ofalwr Ifanc, os ydych chi rhwng 18 a 25 oed rydych chi'n Ofalwr sy'n Oedolyn Ifanc, ac os ydych chi dros 25 oed rydych chi'n Ofalwr.
Gall rôl gofalu amrywio'n sylweddol, ond gall gynnwys y canlynol:
tasgau ymarferol, megis coginio, gwaith tŷ a siopa
gofal corfforol, megis helpu rhywun allan o'r gwely
gofal personol, megis helpu rhywun i wisgo
helpu rhywun i gymryd meddyginiaethau
rheoli cyllideb y teulu
rheoli presgripsiynau a meddyginiaethau
helpu rhywun i gyfathrebu
darparu cefnogaeth emosiynol.
Rydym yn deall y gall gofalwyr ifanc / gofalwyr sy'n oedolion ifanc fod angen mathau arbennig o gymorth weithiau. Bydd ein Tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr a'ch Tiwtor Personol bob amser yn gweithio'n agos gyda chi i ddeall eich anghenion ac er mwyn rhoi cynllun cymorth unigryw mewn lle i chi. Gall y cymorth gynnwys:
● Cymorth dysgu: byddwn yn gweithio gyda chi a'ch tiwtoriaid i'ch helpu i gadw eich dysgu ar y trywydd iawn. Gall hyn gynnwys edrych ar derfynau amser gwaith cwrs, arholiadau ac asesiadau, presenoldeb, deall y gallech fod yn hwyr i'r coleg o dro i dro a llawer mwy.
● Cymorth lles: eich helpu chi i gael mynediad at wasanaethau lles y coleg os oes angen
● Cymorth allanol: eich helpu chi neu eich teulu i gael cymorth gan wasanaethau allanol os ydych chi eisiau, e.e. Gofalwyr Ifanc
● Cymorth ariannol: eich helpu chi i gael mynediad at gymorth ariannol gan y coleg
Cynigir cymorth i Ofalwyr Ifanc / Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc sy'n astudio gyda Grŵp Llandrillo Menai, a gellir cael mynediad ato ar unrhyw adeg.
Siaradwch a'ch tiwtor personol. NEU
Galwch i mewn i Wasanaethau i Ddysgwyr, cysylltwch â diogelu@gllm.ac.uk, NEU cliciwch y dolen hunan-atgyfeiriad; a byddwn yn cysylltu â chi.
Os ydych chi'n ddysgwr seiliedig ar waith sy'n dilyn eich hyfforddiant gydag COPA neu darparwr hyfforddiant arall, cysylltwch â'ch tiwtor/aseswr i gael cymorth.
Coleg Menai: Sioned Weaver, Swyddog Lles
Coleg Meirion Dwyfor: Alison Owen, Rheolwr y Gwasanaethau i Ddysgwyr
Coleg Llandrillo: John Verrall, Mentor Lles