Dewis Iaith | Chose Language
Mae Sarah Holland-Curry yn Hyfforddwr Personol yn Flex Fitness North Wales ac mae yn frwdfrydig iawn ynghylch magu hyder drwy ffitrwydd a gwella ffordd o fyw ei chleient drwy eu hannog i ymgorffori Ymarfer i'w bywyd pob dydd ond gan ei wneud yn hwyl nid yn waith diflas. Fel cyn ddysgwr o Goleg Llandrillo, mae'n awyddus i helpu dysgwyr cyfredol i weld na ddylai fod unrhyw gyfyngiadau i'r hyn y medrwch wneud wrth symud/ymarfer, yn enwedig yn ystod eich mislif.
Wrth dyfu rhoddodd Sarah gynnig ar ystod o chwaraeon ac yn ei dauddegau hwyr syrthiodd mewn cariad gyda chodi pwysau, trosglwyddodd hyn wedyn i gyfuniad o hyfforddiant o ddycnwch, cryfder a chyflymdra gyda Crossfit, a dechreuodd gystadlu yn genedlaethol am tua 6 mlynedd. Yn ei thridegau, mae wedi newid i ymarferion Cryfhau'r Corff.
Ni fu ei thaith yn hawdd ac mae wedi dioddef nifer o rwystrau o ran anafiadau sydd wedi bod yn anodd i'w rheoli ac sydd wedi gadael bwlch mawr yn ei bywyd, gan ei fod yn fwy nag ymarfer yn unig, roedd hefyd ynglŷn â sut y llwyddodd i gynnal ei lles meddyliol a'i hamser iddi hi ei hun yn ystod y dydd. Fodd bynnag, dyfalbarhaodd a dal ati ac yn y pen draw llwyddodd i fynd nôl i godi pwysau a doedd dim yn mynd i'w hatal!