Dewis Iaith | Chose Language
Rydym wedi sefydlu grŵp GLlM ar Strava lle gallwch gofnodi'r hyn rydych wedi'i gyflawni.
Newidiwch yr amgylchedd rydych yn cerdded ynddo. Beth am roi cynnig ar lwybr mwy heriol.
Dechreuwch fynd i gerdded yn amlach er mwyn magu arferiad ac edrychwch am ffyrdd o gynyddu nifer eich camau.
Traciwch eich taith ar Strava i weld a allwch gerdded yn bellach neu'n gynt bob tro.
Mae i ymarfer corff fanteision corfforol a meddyliol ac mae'n llawer haws nag y byddech yn tybio, yn enwedig os yw'n dod yn rhan o'ch trefn ddyddiol
Er mwyn cadw'n iach, dylech geisio bod yn actif bob dydd a cheisio gwneud o leiaf 30 munud o weithgareddau corfforol amrywiol. I'r rhan fwyaf o bobl, y ffordd orau o wneud hyn yw drwy wneud gweithgarwch corfforol yn rhan o fywyd bob dydd, e.e. drwy gerdded neu feicio yn hytrach na defnyddio'r car. Gorau po fwyaf y byddwch yn ei wneud, a bydd cymryd rhan mewn chwaraeon a sesiynau ymarfer corff yn eich gwneud yn iachach.
Er mwyn i unrhyw weithgaredd wella eich iechyd, mae angen i chi symud yn ddigon cyflym i godi cyfradd curiad y galon, i anadlu'n gynt ac i deimlo'n gynhesach. Gelwir y lefel ymdrech hon yn weithgaredd dwysedd cymedrol. Os ydych yn gweithio ar lefel dwysedd cymedrol dylech dal allu siarad ond ni ddylech allu canu geiriau cân.
Dengys tystiolaeth bod ymddygiad llonydd, fel eistedd neu orwedd am gyfnodau hir yn niweidiol i'n hiechyd. Yn ogystal â cheisio gwneud mwy o ymarfer corff, dylech geisio lleihau'r amser y byddwch chi a'ch teulu'n ei dreulio ar eich eistedd. Mae enghreifftiau cyffredin o ymddygiad llonydd yn cynnwys gwylio'r teledu, defnyddio cyfrifiadur, defnyddio'r car i fynd ar siwrnai fer, ac eistedd i ddarllen, siarad neu wrando ar gerddoriaeth. Credir bod y math hwn o ymddygiad yn eich gwneud yn fwy tebygol o ddioddef clefydau cronig fel clefyd y galon, strôc a diabetes math 2. Rydych hefyd yn fwy tebygol o fagu pwysau a mynd yn ordew.
Beth am wrando ar gerddoriaeth, podlediad neu lyfr llafar newydd wrth gerdded?
Beth am roi cynnig ar un o'r rhestrau cerddoriaeth a awgrymir isod gan ein Llysgenhadon Actif?
Gwnewch ychydig o ymchwil er mwyn dod o hyd i ffeithiau diddorol am yr ardal rydych yn cerdded ynddi neu'r bywyd gwyllt.
Yma yng Ngogledd Cymru mae gennym ddewis helaeth o olygfeydd, pentrefi, trefi, traethau, coedwigoedd, llynnoedd ac afonydd wrth garreg ein drws – mae'r rhestr yn ddiddiwedd.
Gwisgwch esgidiau a dillad cyfforddus, yn enwedig os ydych yn mynd ar daith gerdded hir. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi'n iawn a'ch bod yn gwybod y ffordd.
Os ydych yn mynd ar daith gerdded hir, gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi'n iawn. Ewch a dŵr, byrbrydau iach ac eli haul gyda chi.
I'ch helpu ar eich taith, mae'n Llysgenhadon wedi rhoi rhestrau chwarae at ei gilydd, felly... mwynhewch!
Os nad yw cerdded yn ddigon o her i chi, beth am wneud yr her soffa i 5K. Mae'r rhaglen hyfforddi hon gan y Gwasanaeth Iechyd ar gael i'w lawrlwytho oddi ar yr App Store neu Google Play, neu lawrlwythwch bodlediad. Gallwch hefyd dracio eich cynnydd ar Strava.