Dewis Iaith | Chose Language
Unwaith rydych wedi lawrlwytho'r Ap neu fynd i'r wefan, dilynwch y cyfarwyddiadau ynghylch sut i greu cyfrif. Gallwch ddefnyddio'ch cyfrif Google neu Facebook, ond os hoffech gadw pethau ar wahân am resymau diogelwch neu breifatrwydd, gallwch greu cyfrif gyda'ch cyfeiriad e-bost.
Cofiwch fod eich proffil a'ch cyfrif yn ddau beth gwahanol, fel gyda gwasanaethau ar-lein eraill. Mae'ch cyfrif yn cynnwys popeth ar Strava sy'n gysylltiedig â chi'n unigol, ond dim ond y wybodaeth y bydd defnyddwyr eraill sy'n defnyddio'r Ap yn ei weld sydd yn eich proffil (enw, llun, lleoliad ac ati).
Fel gyda'r rhan fwyaf o blatfformau digidol, bydd angen i chi ystyried faint rydych am ei ddatgelu ar Strava, e.e. ydych chi am roi'r hawl i'r cwmni weld eich manylion, penderfynu beth all eich dilynwyr neu ddefnyddwyr eraill ei weld. Rhaid cael cydbwysedd rhwng diogelwch a hwylustod. Ond chi sydd i benderfynu.
Fel defnyddiwr newydd, bydd Strava yn gofyn i chi am wybodaeth sylfaenol ar gyfer eich proffil: llun, cadarnhad o'ch enw, eich dyddiad geni a'ch rhyw. Mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr Strava yn defnyddio llun proffil ohonynt yn cerdded, rhedeg neu feicio. Ond mae defnyddwyr sy'n dymuno bod yn fwy preifat yn aml yn dewis rhywbeth mwy amhersonol. Gall eich dyddiad geni a'ch rhyw gael eu defnyddio i'w rhoi ar dablau sydd wedi'u categoreiddio (ond nid yw hyn yn orfodol). Cewch anwybyddu'r cwestiynau eraill heb orfod gwneud fawr ddim – does yna ddim byd ar Strava sy'n gofyn i chi am wybodaeth na allwch ei newid yn nes ymlaen, a gwell yw gwneud y penderfyniadau hyn wrth ddysgu sut i ddefnyddio'r platfform.
I wneud hynny ar eich cyfrifiadur, ewch i'ch llun proffil yn y gornel dde uchaf a chlicio ar Gosodiadau. Ar ddyfais symudol, ewch i'ch proffil a chlicio ar yr icon "gear" yn y gornel dde uchaf. Yma gallwch roi faint bynnag o wybodaeth ag y dymunwch.
I addasu eich proffil ymhellach, porwch yn drylwyr drwy'r holl osodiadau. Nodwch pa hysbysiadau rydych am eu cael, neu ba esgidiau rydych yn eu gwisgo.
Rhowch sylw penodol i "Data Permissions" a "Privacy Controls", sydd ill dau'n isadrannau o dan Gosodiadau. Yn "Data Permissions", gallwch benderfynu a ydych am i Strava weld data personol am eich iechyd a all fod ar eich dyfeisiau eraill. Yn "Privacy Controls", gallwch:
• Benderfynu pwy all weld beth yn eich cyfrif.
• Gosod parthau preifatrwydd, creu parthau 'du' sy'n cuddio lleoliadau sensitif o'r map o'ch llwybr.
• Dewis peidio â chynnwys data eich gweithgaredd ym mapiau gwres cyfanredol Strava.
• Gwneud eich log hyfforddi, lle mae Strava'n cadw cofnod manwl o'ch gweithgareddau, yn gyhoeddus neu'n breifat.
• Gadael i Strava hysbysu pobl eraill am eich gweithgaredd (un o'r dulliau a ddefnyddir ganddynt i gynyddu'r rhyngweithio cymdeithasol sy'n digwydd ar y platfform).
Mae tair ffordd o gofnodi gweithgareddau ar Strava: mewngofnodi data â llaw, cofnodi eich rhediad gyda'r ap Strava ar eich ffôn wrth i chi wneud y gweithgaredd, neu gydamseru'r data a gofnodwyd gan draciwr ffitrwydd, fel oriawr GPS.
Mewngofnodi â llaw: Ar y ddau blatfform, dewiswch yr arwydd + ac yna'r opsiwn mewngofnodi â llaw. O'r fan hon, gallwch lenwi faint bynnag o fanylion ag y dymunwch.
Ap Strava: Tapiwch y tab "Record". Gallwch newid unrhyw osodiadau fel rydych angen, e.e. toglo "auto-pause" neu ddiffodd "audio cues" cyn pwyso "Start". Yna bydd y GPS ar eich ffôn clyfar yn cofnodi'r data. Unwaith rydych wedi gorffen eich ymarfer, bydd y manylion yn cael eu llwytho i fyny i'ch gweithgareddau pan fyddwch yn pwyso "Save".
Traciwr ffitrwydd: Gallwch gysylltu Strava i'r oriawr fel bod y gweithgareddau'n cael eu cofnodi'n awtomatig a'u llwytho i fyny i Strava.
Yn awr eich bod yn gwybod sut mae Strava'n gweithio mae'n bryd i edrych ar yr hyn sy'n gwneud Strava'n unigryw: yr elfen gymdeithasol. Awgrymwn eich bod yn edrych ar y nodweddion hyn ar yr ap.
Gallwch ymuno â her lle byddwch yn cystadlu yn erbyn miloedd o ddefnyddwyr eraill i gwblhau tasg fel rhedeg hyn a hyn o filltiroedd mewn mis neu ddringo i uchder penodol mewn wythnos. Cliciwch ar "Clubs"i weld pa glybiau Strava sydd yna'n agos atoch chi. Cliciwch ar y rhai sydd o ddiddordeb i chi, ac yna dewis "Join".
Mae clybiau Strava'n ffordd dda o gysylltu â ffrindiau a chydweithwyr newydd na fyddwch efallai byth yn cwrdd â nhw wyneb yn wyneb. Mae hefyd yn ffordd o weld sut hwyl mae'ch ffrindiau cerdded neu redeg yn y byd go iawn yn ei gael arni.
Ffordd arall o weld y wybodaeth ddiweddaraf gan eich ffrindiau yw drwy chwilio am eu proffiliau er mwyn eu dilyn, yn union fel ar Instagram neu Twitter. Byddwch wedyn yn gallu gweld eu gweithgareddau.
Cofiwch roi “kudos” iddynt, sef yr hyn sy'n cyfateb i "hoffi" ar Strava. I gael hyd iddynt, cliciwch ar y symbol o ddau gorff yn y gornel dde uchaf er mwyn mynd i'r sgrin "Find Friends". Gallwch sgrolio drwy'r rhestr o bosibiliadau ar sail eich cysylltiadau Strava blaenorol, ffrindiau Facebook, neu'r rhestr cysylltiadau yn eich ffôn.
Unwaith y byddwch yn dechrau cofnodi eich gweithgaredd, byddwch yn sylwi bod eich perfformiad ar "segmentau" penodol yn cael ei gadw. Dyma ddarnau o'ch llwybr sydd mor boblogaidd gyda rhedwyr fel bod Strava wedi creu tabl ar eu cyfer (neu mae defnyddiwr wedi eu creu). Os ydych yn cerdded/rhedeg ar yr un llwybrau'n aml, efallai y sylwch fod yr un enwau'n ymddangos o hyd, ac efallai y byddwch yn dechrau cystadlu am le ar frig y tabl. Mae gan Strava ddau fath gwahanol o dabl – mae un yn seiliedig ar yr amseroedd cyflymaf ac mae'r llall, “Local Legends” yn rhestru'r bobl sydd wedi rhedeg y segment gyflymaf yn ystod y 90 diwrnod diwethaf.
Mae'r rhwydweithiau cymdeithasol yn ymwneud â rhannu, felly gall rhywbeth rydych yn feddwl eich bod yn ei rannu'n gyfrinachol gael ei rannu eto ac eto. Cofiwch y dywediad Saesneg, "When in doubt, leave it out".
Synnwyr cyffredin efallai, ond mae hyn yn dal i ddigwydd. Mae hyd yn oed rhannu eich cyfrinair â ffrind neu bartner yn risg.
Rydych yn rhoi eich hun mewn perygl o gael eich bygwth, o gael dwyn eich hunaniaeth, o fyrgleriaeth a phob math o beryglon personol eraill
Gall rhannu eich cynlluniau cymdeithasol roi gwybod i bobl nad ydych gartref neu i lle rydych chi'n mynd.
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n sylweddoli bod gan y Rhyngrwyd a thechnolegau newydd y gallu i gynnig pob math o gyfleoedd – i ddysgu, i feithrin sgiliau newydd, i gyfathrebu ac i gael hwyl. Fodd bynnag, mae yna bryderon am anghyfartaledd o ran mynediad i dechnoleg, effaith sgiliau digidol isel, a bygythiadau posibl i ddiogelwch dysgwyr a all fodoli ar-lein. Dylai staff a dysgwyr gysylltu â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr i gael rhagor o arweiniad. Rhaid rhoi gwybod i'r Swyddogion Diogelu am unrhyw bryderon am risgiau i ddysgwyr.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau dysgu ar gael i staff, dysgwyr a rhieni/gofalwyr eu lawrlwytho o wefannau CEOP ThinkUKnow a SWGfL Cymru . Rydym hefyd wedi creu adnoddau trawsgwricwlaidd mewnol ar e-ddiogelwch sydd ar gael i staff a dysgwyr ar dudalennau e-ddiogelwch Moodle.