Dewis Iaith | Chose Language
Os ydych yn defnyddio tamponau neu badiau hylendid, fel arfer nid ydynt i gael eu defnyddio am fwy nag ychydig oriau. Dilynwch y cyfarwyddiadau ynghylch pa mor aml y dylech newid yr eitemau hyn. Pan fydd gennych lif trwm mae'n well newid yr eitemau’n amlach er mwyn sicrhau hylendid da.
Os nad oes gennych eitemau ar ôl, neu os nad oes gennych ddigon, dewch i'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr a byddwn yn gallu rhoi cynnyrch am ddim i chi.
Mae defnyddio eitemau ffres yn eich helpu i osgoi dod i gyswllt â bacteria a all fod mewn tyweli/tamponau gwlyb. Er bod Syndrom Sioc Tocsig yn gyflwr prin fe all beryglu bywyd ac fe'i hachosir wrth i facteria fynd i'r corff a rhyddhau tocsinau niweidiol. Mae'n gysylltiedig â defnyddio tamponau a gall fod yn angheuol os na chaiff ei drin yn iawn. Os oes gennych symptomau Syndrom Sioc Tocsig (TSS), gofynnwch am gymorth meddygol ar unwaith. I gael rhagor o wybodaeth am Syndrom Sioc Tocsig, dilynwch y ddolen hon.
Defnyddiwch sebon plaen a dibersawr i olchi o gwmpas y fagina. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw eich fagina yn iach a glân, dilynwch y ddolen hon.
Mae bob amser yn ddefnyddiol cadw dillad isaf sbâr yn eich bag, yn enwedig os oes gennych staen neu os ydych wedi gollwng ychydig. Gall pâr glân eich helpu i deimlo'n sych a ffres am weddill y dydd. Mae detholiad bychan o ddillad isaf ar gael yn y Gwasanaethau i Ddysgwyr.
Gall golchi eich dwylo cyn ac ar ôl newid eich pad, tampon neu gwpan sicrhau'r glendid mwyaf posib - yn enwedig gan fod eich dwylo yn dod i gyswllt gyda phob math o bethau yn ystod y dydd.
Os oes gennych ddiwrnod hir o'ch blaen yn y gwaith neu'r coleg, efallai y byddwch yn penderfynu 'dyblu' drwy ddefnyddio tampon a phad, rhag ofn i'r tampon ddechrau gollwng. Nid ydym yn eich cynghori i wneud hyn oherwydd fe all olygu nad ydych yn newid eich cynnyrch yn ddigon aml. Yn hytrach, gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o amser i newid eich cynnyrch .
Mae'n bwysig eich bod yn cadw eich cwpan mislif yn lân. Dilynwch y canllawiau ynghylch defnyddio'r cynnyrch. Fel arfer, gallwch olchi'r cwpan gyda dŵr cynnes a sebon ysgafn rhwng y troeon y byddwch yn ei wisgo.
Ar ôl eu defnyddio, mae'n bwysig eich bod yn taflu eich padiau neu'ch tamponau yn y ffordd gywir. Mae eu lapio'n dda cyn eu taflu'n sicrhau nad yw arogleuon a heintiau'n ymledu. Gwell peidio rhoi padiau neu damponau i lawr y toiled oherwydd fe allant flocio'r bibell. Mae yna finiau hylendid i chi gael gwared ar eitemau mislif ar y campws.
· Gwnewch yn siŵr bod gennych arferion cysgu da ;
· Gwisgwch ddillad cyfforddus;
· Rhowch gynnig ar ymarferion anadlu;
· Gwnewch ymarferion ymestyn ysgafn ;
· Ysgrifennwch am eich teimladau;
· Ymlaciwch drwy wrando ar gerddoriaeth, darllen neu wylio ffilm;