Dewis Iaith | Chose Language
Ar ôl clywed am y rhaglen Llysgenhadon Actif mi benderfynais fy mod i eisiau cymryd rhan ynddi, ac mi ymunais i yn ystod Wythnos y Glas er mwyn parhau â'r daith.
Mi wnes i ymuno â'r Rhaglen Llysgenhadon Actif oherwydd rydw i wastad wedi mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd, cynorthwyo'r genhedlaeth iau a dysgu sgiliau newydd iddyn nhw. Roeddwn i hefyd yn gwybod y byddai'n gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd ac i wneud ffrindiau newydd.
Rydw i wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a digwyddiadau dros y blynyddoedd, ces i gyfle i gefnogi digwyddiadau chwaraeon Cenedlaethol fel Marathon Eryri, Ras Eryri a Tour Britain. Roeddwn i hefyd yn rhan o'r tîm a drefnodd rasys ieuenctid y digwyddiadau. Rydw i wedi bod yn hyfforddi ac yn dyfarnu gemau pêl-rwyd mewn ysgolion lleol yn Nyffryn Nantlle ac wedi ennill cymhwyster hyfforddi Lefel 1.
Hefyd es i Gynhadledd Genedlaethol Llysgenhadon Ifanc yng Nghaerdydd yn 2017-18 i gynrychioli Gwynedd.
Rydw i hefyd yn gwirfoddoli unwaith yr wythnos yn hyfforddi, hyrwyddo a chefnogi hwb rygbi i ferched (Môr Ladron) yng Nghaernarfon ac wedi ennill cymhwyster Arweinwyr Rygbi TAG. Yn ogystal â hyn rwyf yn gwirfoddoli gyda Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle ac yn trefnu digwyddiadau chwaraeon bob blwyddyn.
Yn ddiweddar, mi gefnogais ymgyrch Urddas yn ystod Mislif gyda thîm Rygbi Merched y Coleg a chefnogi Hannah i gyflwyno sesiwn blasu rygbi yn yr Hostel yng Nglynllifon.
Y peth gorau am y rhaglen o bell ffordd ydy cwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau a meithrin cysylltiadau ar yr un pryd. Gallu dysgu a chynorthwyo eraill a'u gweld yn llwyddo ar heriau gwahanol, mae hynny'n rhywbeth arbennig i'w weld!
Drwy fod yn llysgennad, rydw i wedi datblygu llawer o sgiliau ac wedi gweld fy hyder yn tyfu hefyd. Rydw i hefyd wedi cael nifer o brofiadau a chyfleoedd newydd e.e. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael fy newis i gael fy noddi fel RAB Young Alpinist a mynd ar daith unigryw i fynyddoedd y Swistir yn 2019. Rab Young Alpinists 2019
Fy hoff beth am y coleg yw bod modd i barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon a dysgu sgiliau newydd ym maes amaeth ar yr un pryd. Rydw i'n cael y gorau o ddau fyd!
Rydw i'n breswylydd yn hostel Glynllifon ac yn gweithio ar y fferm ond gallaf fynd i sesiynau hyfforddi rygbi a phêl-droed a chwarae gemau yn ystod y penwythnos.
Fy nghyngor ar gyfer llysgenhadon yn y dyfodol fyddai, ewch amdani! Fyddwch chi ddim yn difaru gwneud cais! Rydw i wrth fy modd fy mod i'n llysgennad oherwydd yr holl brofiadau dw i wedi'u cael!
Mae fy rôl fel Llysgennad yn parhau ond yn rhithiol gan amlaf! Rydw i wedi bod yn rhannu fy awgrymiadau a lluniau ffermio oherwydd rydw i wedi bod yn gweithio llawer ar y fferm yn ystod y cyfnod clo (dydy gwaith ffermio ddim yn stopio!)
Rydw i hefyd wedi bod yn mynd i'r afael â gweithgareddau newydd fel coginio prydau gwahanol/pwdinau a gwneud yn siŵr fy mod yn cynnal fy lefelau cymhelliant drwy wneud gwaith ffitrwydd yn ystod fy amser sbâr.