Dewis Iaith | Chose Language
Tirion oedd y Llysgennad Actif GLlM Platinwm benywaidd cyntaf (2019/20) a chwblhaodd ei hastudiaethau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor gyda Rhagoriaeth a bellach mae hi wedi dechrau astudio cwrs Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.
Cafodd Tirion ei derbyn fel y Llysgennad Actif cyntaf ar Grŵp Llywio Llysgenhadon Ifanc Cenedlaethol ac fel aelod gwnaeth gyfraniad gwerthfawr i nifer o brosiectau yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru a Youth Sport Trust (2019) ac yn rhan o'r tîm sydd wedi datblygu'r ymgyrch genedlaethol 'We're On It Period' gyda Chwaraeon Cymru.
Mae Tirion yn hoff iawn o chwarae rygbi ac mae hi wedi bod yn gapten ar dîm merched dan 18 RGC (2018) ac wedi chwarae dros y rhanbarth - Tîm Merched RGC (2019). Yn ogystal â chymryd rhan mewn chwaraeon a chwblhau ei hastudiaethau wedi Tirion wedi gwirfoddoli am dros 500 o oriau i ddatblygu ac i arwain Hwb Rygbi Merched y Bala (Gwylliaid Meirionnydd), wedi hyfforddi fel hyfforddwr rygbi a dyfarnwraig cymwys ac wedi cefnogi nifer fawr o ddigwyddiadau cymunedol URC.