Dewis Iaith | Chose Language
Ro'n i eisiau helpu pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a chael cymaint o brofiad â phosib ym maes hyfforddi a dyfarnu. Ro'n i eisiau gwneud gwahaniaeth yn fy nghymuned ac annog mwy o ddysgwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chwaraeon.
Dw i wedi gwirfoddoli mewn nifer o ddigwyddiadau cyn-ymrwymo RGC, wedi cefnogi digwyddiad Cwpan Rygbi'r Byd ILS, digwyddiadau Undeb Rygbi Cymru i bobl fyddar ym Mharc Eirias ac wedi hyfforddi sesiynau rygbi mewn ysgolion cynradd a gwersylloedd gwyliau wrth hyrwyddo'r rhaglen llysgennad actif. Hefyd, dw i wedi gwirfoddoli mewn digwyddiadau rygbi cymunedol yng nghlybiau rygbi Caernarfon a Bethesda, wedi recriwtio chwaraewyr ac wedi eu cefnogi nhw gydag ymgyrchoedd a'u cyfryngau cymdeithasol.
Mi wnes i hefyd fynd i gynhadledd dysgwyr GLlM i gyflwyno (rhywbeth nad oeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n gallu ei wneud ) gan fynegi ein syniadau a'n gweledigaeth ar gyfer y rhaglen. Dw i hefyd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch Urddas yn ystod Mislif a chynnwys hyn yn sesiwn rygbi'r merched.
Dw i wedi bod yn gweithio'n agos gyda Kristina hefyd i drefnu cyfarfodydd Llysgennad yn ystod y cyfnod clo i feddwl am syniadau a chefnogi ein gilydd. Dw i hefyd wedi dechrau datblygu cwmni gwneud 'brownies'!
Bod yn rhan o weithgareddau a digwyddiadau a gweld y gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud wrth helpu a chefnogi pobl eraill i ddysgu. Mae hefyd yn braf cyfarfod a siarad gyda llysgenhadon eraill ar safleoedd a chyrsiau eraill.
Mae'r cyfle i fynd i gyfarfodydd diddorol a lleoliadau gwahanol yn dda hefyd gan ein bod yn cael mynd ar dripiau!
Wnewch chi ddim difaru ymgeisio i fod yn Llysgennad Actif ac mi allwch chi wneud ychydig neu lot fawr o waith gwirfoddol. Mae'r ffordd dda o ymarfer cydbwyso eich sgiliau rheoli amser, ac mae hefyd yn ffordd dda o ennyn profiadau newydd a chael llawer iawn o hwyl.