18.6.2021

Dydd Gwener / Friday - 18.6.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/14-6-21-18-6-21

Thema/ Topic:

Gwaith Llafar/ Oracy work.

Mae Cyw a'i ffrindiau wedi bod yn brysur iawn yn yr ardd heddiw! Edrychwch ar y llun isod yn ofalus ac yna atebwch y cwestiynau sydd yn dilyn. / Cyw and his friends have been very busy in the garden today! Look carefully at the picture below in order to answer the questions which follow.

Trafodwch y llun a meddyliwch am gwestiynau gwahanol i'w trafod. Mae rhai esiamplau isod. Mae geirfa i'ch helpu ar ben y llun./ Discuss the picture and think about different questions to discuss. There are some examples below. There is vocabulary to help you at the top of the picture

  • Sawl blodyn weli di?/ How many flowers can you see?

  • Pa liwiau ydy'r blodau?/ What colours are the flowers?

  • Pwy sydd yn y sied?/ Who is in the shed?

  • Sawl malwoden sydd yno?/ How many snails are there?

  • Beth sydd yn tyfu ar y coed?/ What is growing on the trees?

  • Pa ffrwythau wyt ti'n hoffi?/ What fruit do you like?

  • Sawl cwmwl sydd yno?/ How many clouds are there?

  • Pwyntiwch at y malwod yn ôl maint o'r mwyaf i'r lleiaf,/ Point to the snails according to size, from the biggest to the smallest.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd / Knowledge and Understanding of the World:

Dewch o hyd i o leiaf 5 ffaith am falwod. Mae digon o wefannau ar gael yn debyg i'r rhai isod.

Try and discover at least 5 facts about snails. There are plenty of websites available similar to the ones below.

Gwaith creadigol / Creative work:

Beth am greu malwoden lliwgar gan ddefnyddio unrhyw eitemau 'jync' o'r ? Gallwch chi hefyd ddefnyddio eitemau naturiol o'r ardd neu eitemau rydych chi'n casglu wrth fynd am dro yn yr ardal leol. Mae rhai syniadau isod.

What about creating a colourful snail using 'junk' items from around the house? You can also use natural objects from the garden or items collected from a walk in your local area. There are some ideas below.

Gwaith cartref/ Homework:

Gwaith thema / Topic work:

Ein thema newydd ar gyfer tymor yr haf yw 'Yr Ardd'. Beth am greu 'map meddwl' yn seiliedig ar y thema. Gallwch chi restri pethau rydych chi'n cysylltu gyda'r ardd (neu dynnu lluniau ohonynt) e.e. offer chwarae, sied, blodau o bob math, trychfilod yr ardd a.y.y.b. Gallwch chi gofnodi ar y daflen neu yn eich llyfr gwaith. Beth am fynd ati wedyn i ddysgu'r gân Cyw isod am drychfilod yr ardd?

Our new theme for the summer term is 'The Garden'. Help your child to create a 'mind map' of things they associate with the garden. You can create a list of things associated with the garden (or draw pictures of them) e.g. play equipment, flowers of all kinds, mini-beasts etc. You can record your answer on the sheet or in your work book. How about now learning the Cyw song below about garden mini-beasts?

Cliciwch ar y linc i wrando ar, a dysgu'r gân am drychfilod yr ardd.

Click on the below to listen to, and learn the song about garden mini-beasts.

Map meddwl/ Mind map.

Gwaith Iaith/ Language work:

Gwaith darllen/ Reading work:

Ein stori yr wythnos hon yw 'Bili Broga', stori am froga sydd yn chwilio am gartref. Does dim cartref ar gael yn unman tan iddo greu un ei hun!

Our story this week is Bili Broga, a story about a frog who is looking for a home, but there is none to be found until he creates his own!

Dewch i wrando unwaith eto ar y stori./ Come and listen to the story once again:

Ydych chi wedi bod yn gwrando'n astud ar y stori? Nawr atebwch y cwestiynau isod. / Have you been listening carefully to the story? Now answer the questions below:

  1. Beth yw enw'r broga yn y stori? / What is the name of the frog in the story?

  2. Beth yw enw'r falwen yn y stori? / What is the name of the snail in the story?

  3. Beth yw enw'r gwningen yn y stori?/ What is the name of the rabbit in the story?

  4. Beth yw enw'r llygoden yn y stori?/What is the name of the mouse in the story?

  5. Beth yw enw'r aderyn yn y stori?/ What is the name of the bird in the story?

Ydych chi nawr yn gallu medwl yn ôl i'r stori a chofio ym mha drefn gwelodd Bili Broga y cymeriadau? Ydych chi'n gallu torri a gludo'r lluniau neu dynnu eich lluniau eich hun?/ Can you now think back to the story and remember in what order Bili Broga saw the different characters? Can you print and glue the pictures in to the correct order or draw your own pictures?


Diolch!