1.2.2021-5.2.2021

Cofnodi eich gwaith/ Recording your work:

Cofiwch i ddangos eich gwaith drwy ei uwchlwytho ar 'Seesaw'. Gweler y llythyr yn eich llyfr gwaith cartref am ragor o fanylion.

Remember you can show your work by uploading it on 'Seesaw'. Please see the letter in your homework book for more information

Wythnos Iechyd Meddwl Plant/ Children's Mental Health Week:

1.2.2021-5.2.2021

Y Siarter Iaith:

Y Siarter Iaith / The Welsh language Charter

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-2/1-2-21-5-2-21

Gwasanaeth/ Assembly:

Mae’n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon. I ddechrau’r wythnos, dewch i wrando ar wasanaeth gan Mr Dobson, sy’n esbonio mwy am thema’r flwyddyn hon.

It’s Children’s Mental Health Week this week. To start the week, listen to Mr Dobson’s assembly explaining a little more about this year’s theme.

Gwasanaeth Wythnos Iechyd meddwl plant.mp4

Llyfr yr wythnos/ Book of the week:

Ein prif llyfr ar gyfer yr wythnos hon yw 'Dw i'n ddigon'. Dewch i wrando./ Our main book this week is 'I am Enough'. Come and listen.

1.02.21 Dw i'n ddigon..mp4

Dydd Llun 1.2.2021/ Monday 1.2.2021:

Gwaith Iaith/ Language work:

Dewch i wrando ar gân Cyw 'Sylwi a Thawelu'r Meddwl/ Come and listen to Cyw's 'Mindfulness Song'.

Gwaith darllen a deall/ Reading and understanding work:

Fel y ferch yn y llyfr 'Dw i'n ddigon', rydyn ni gyd yn unigryw ac yn wahanol ac yn dda yn gwneud pethau gwahanol. Mae rhai ohonom yn dda y nrhedeg, rhai yn dda yn tynnu lluniau ayb. Ydych chi'n gallu meddwl am bethau rydych chi'n dda/ hyderus yn eu gwneud a thynnwch lluniau'r pethu hynny yn y cymylau ar y daflen (neu yn syth i mewn i'ch llyfr gwaith). Efallai bod mwy na 5 peth. Gofynnwch i oedolyn i helpu chi labelu'r lluniau./Like the little girl in the book Dw i'n ddigon (I am enough) we are all unique and special and are good at doing different things. Some of us are good at running, some are good at drawing pictures etc. Can you think of things that you are good at/ confident doing and draw their pictures in the clouds on the sheet or straight in to your work book. Could you ask an adult to help you label the pictures? There are 5 clouds but maybe you can think or more than 5 things!

Dw i'n ddigon/ I am enough

Dw i'n dda am...../ I am good at .......

Gwaith Tric a Chlic/ Tric a Chlic work- Llythyren yr wythnos 'b'/ Letter of the week 'b':

Ein llythyren Tric a Chlic yr wythnos hon yw 'b'. Dyma wybodaeth ar sut i ynganu'r sain 'b'. Gwrandewch ar y gân hefyd./ Our Tric a Chlic letter this week is 'b'. Look below at how to pronounce 'b'. Listen to the song also.

Gwrandewch ar y fideo isod er mwyn adolygu'r llythrennau blaenorol a darllen rhai geiriau Tric a Chlic. Wedi gwrando ar y fideo, cwblhewch y dasg./ Listen to the video below in order to revise previous Tric a Chlic letters and read some Tric a Chlic words. Having listened to the video, complete the task.

1.02.21 T a Ch 'b'.MOV

Tynnwch lun o falŵn yn eich llyfr gwaith (neu ofynnwch i oedolyn eich helpu) a thynnwch lluniau o wrthrychau sydd yn dechrau gyda'r sain 'b' yn y balŵn. Defnyddiwch eiriadur neu edrychwch o gwmpas eich cartref am syniadau. Mae nifer fawr o bethau'n dechrau gyda'r sain 'b' ac mae rhai syniadau isod i'ch helpu./ Draw a picture of a balloon (balŵn) in your work book or ask an adult to help you and then draw objects which begin with the letter sound 'b' in the balloon. You can use a dictionary to help you or look for ideas around your home. A lot of objects begin with the 'b' sound. There are some ideas below to help you.

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work:

Dewch i wrnado ar y fideo cyn cwblhau'r dasg ysgrifenedig isod. Eich gwaith yw i ddod o hyd i'r rhifau coll. Dechreuwn ni hediw hyd at 10 cyn symud ymlaen at rifau uwch. Defnyddiwch y llinell rif i'ch helpu os oes angen./ Come and listen to the video before completing the written task. Your task is to work out which numbers are missing. We will start today with missing numbers up to 10 before moving on to higher numbers in due course. Use the number line to help if necessary.

1.02.21 Rhif coll.mp4

Gallwch chi naill ai torri a gludo'r anifeiliaid rhif yn y llefydd cywir neu ysgrifennwch y rhifau yn syth i mewn i'ch llyfr gwaith./ You can either cut and glue the number animals in to their correct places or write the numbers directly in to your work book.

Thema / Topic:

Ioga gyda Emma

Beth am gychwyn yr wythnos drwy ryddhau unthyw egni negyddol sydd gennym.

Yoga with Emma

Let's begin the week by releasing any negative energy we're holding within.

Caru canu - Symud i'r gan

Dewch i wrando a dawnsio i gân Mrs Wishi Washi.

Love to sing - move to the song

Come and dance and listen to the Mrs Wishi Washi song.

Gweithgareddau Chwefror / February Activities

Dydd Mawrth 2.2.2021/ Tuesday 2.2.2021

Gwaith Iaith/ Language work:

Dewch i wrando ar y gân 'Dal ati' gan Cyw. Neges y gân yw i ddyfal barhau hyd yn oed os ydych chi am roi lan dim ots pa mor fawr neu'n fach y'r dasg. Mi fyddwch chi'n llwyddo yn y diwedd!/ Come and listen to Cyw's 'Keep at it/Keep going' song. The message of the song is to keep persevering and trying your best even if you feel like giving up no matter how big or small the task! You will succeed in the end.

Gwaithgwrando a deall/ Listening and understanding work:

Dewch i wrando ar y stori am fachegn bach sydd yn mynd am dro ac yn dod ar draws anrheg(trysor) i'w fam. Mae'n teimlo nifer o bethau gwahanol e.e. yn grac, yn hapus ac mae pob un o'r teimladau gyda lliw arbennig e.e. coch pan yn teimlo'n grac. Rydyn ni i gyd yn teimlo pethau gwahanol- weithiau rydyn ni'n hapus, weithiau'n drist, weithiau'n ofnus ayb./ Come and listen to the story of a little boy who on a walk finds a present/ treasure for his mother. On his walk he feels many different things e.g. happy, sad, angry and each feeling has a different colour. We all feel different things- sometimes we are happy, sad, sometimes frightened.

21.02.02 Lliwiau hapus.mp4

Nesaf, meddyliwch am beth sydd yn eich gwneud chi yn hapus, crac, trist ac ofnus a chofnodwch rhain ar y daflen./ Now think about what makes you happy, sad, angry or sad and draw pictures of these things on the sheet.

Gwaith Tric a Chlic/ Tric a Chlic work.

Cofiwch ein llythyren yr wythnos hon yw 'b'. Yn ystod yr wythnos parhewch i chwilio am wrthrychau o gwmpas eich cartref/ y tu allan/ mewn cylchgronau ayb sydd yn dechrau gyda 'b' fel eich tasg dydd Llun./ Remember that our letter this week is 'b'. During the week continue to search for items beginning with the letter 'b' in your home/ outside/ in magazines etc as in Monday's task.

Eich tasg heddiw yw tasg darllen ac ysgrifennu rhai geiriau melyn Tric a Chlic. Mae'n bwysig ein bod ni'n adolygu'r rhain yn rheolaidd nid dim ond canolbwyntio ar y llythrennau glas!/ Your task today is to read and write some yellow Tric a Chlic words. It's important to continue to revise these regularly in case they are forgotten!

Ar y daflen isod mae angen 1. dweud beth yw'r gwrthrych yn y golofn gyntaf, 2. lliwio'r llythrennau i sillafu'r gair yn yr ail golofn, yna 3. ysgrifennu'r gair yn y golofn olaf. Mae'r geiriau isod./ On the sheet below you will need to 1. say each word in the first column, 2. colour the correct letters to spell the word in the middle column, then 3. write the word in the last column. The words are below.

mat, ham, map, cap

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work:

Dewch i wrando ar y llyfr cyfri 'Un, Dau, Pi-po!'./ Come and listen to the counting book' Un, Dau, Pi-po!'.

21.02.02 Llyfr Pipo.MOV

Gwaith rhif/ Number work:

  1. Tasg 1. Er mwyn ymarfer adnabod rhifau beth am greu gemau syml fel y rhai isod? Defnyddiwyd cwpanau plastig/papur yn y gêm olaf. Gallwch chi addasu nhw e.e. defnyddio 2 ddis yn lle un, a rhifau dros 10 hefyd.

Task 1. In order to practise your number recognition why not create simple number games like the ones below? Paper/plastic cups can be used in the last game shown. You can adapt the games if you wish e.g. using 2 dice and numbers above 10 also.

Tasg 2/ Task2 - Gwaith rhif/ Number work:

Fel eich tasg ar ddydd Llun eich tasg heddiw yw i lenwi'r bylchau gyda'r rhifau coll. Mae rhai o'r rhifau ar y dechrau, rhai ar y diwedd a rhai yn y canol felly mae'n rhaid edrych yn ofalus ar y llinell rif./ As with your task on Monday your task today is to fill in the missing numbers. Some of the numbers are at the beginning, some at the end amd some in the middle so you will need to look carefully at the number line.

Torrwch a gludwch y rhifau neu ysgrifennwch yn syth yn eich llyfr gwaith./ Cut and glue the numbers or write straight in to your book.

Thema / Topic:

Ioga gyda Casi

Beth am gychwyn heddiw drwy wneud bach o ymarferion ioga gyda Casi?

Yoga with Casi

Let's begin today by doing some yoga exercises with Casi.

Diolchgar / Thankful - Meithrin

Bod yn ddiolchgar:

Tynnwch lun 1 peth rydych yn ddiolchgar amdano. Tynnwch lun o'r peth hyn a'i roi mewn man amlwg e.e. rydych yn ddiolchgar am deulu, am gael bwyd, am gael tŷ i fyw ynddo, am gael anifail anwes os oes un gennych ac am gael dillad i wisgo a.y.b.

Being thankful:

Draw 1 thing you're grateful for. Draw a picture and place it in a prominent place e.g. you're grateful for your family, for food, for having a house to live in, for having a pet if you have one and for having clothes to wear etc.

Caredigrwydd:

Gwnewch un weithred o garedigrwydd i rhywun, fel mynd a rhywun allan am dro i gerdded.

Kindness:

Do one act of kindness for someone, like taking someone out for a walk.

2k Rhithiol

Dydd Mercher 3.2.21/ Wednesday 3.2.21

Gwaith Iaith/ Language work:

Dewch i wrando ar y gân 'Pethau Pwysig' gan Cyw. Neges y gân yw ein bod ni mor brysur ar adegau nes ein bod yn anghofio am y pethau pwysig mewn bywyd fel ffrindiau. Rhaid rhoi amser i'r pethau pwysig hynny a chofio i gadw amser ar gyfer rhoi cwtch!/ Come and listen to Cyw's 'Important things' song. The message of the song is that we are so busy at times that we can forget about the important things in life such as friends. We must always find time for those important things and remember to always find time to give a cwtch (hug).

Gwaith gwrando a deall/ Listening and understanding work:

Beth sydd yn bwysig i ch?/ What is important to you?- Ble Mae Gwalch?

Dewch nawr i wrando ar stori 'Ble Mae Gwalch?'. Mae Gwalch yn hoff gi Cadi a Jac ond mae e ar goll. Tybed sut mae Cadi a Jac yn teimlo am hyn? Mae Cadi a Jac yn crwydro'r fferm tan ddod o hyd iddo ac yn gweld nifer o bethau diddorol ar y ffordd./ Come and listen to the story 'Ble Mae Gwalch?' (Where is Gwalch?). Gwalch is Cadi and Jac's favourite dog but he is missing. I wonder how Cadi and Jac feel? Cadi and Jac search the farm looking for Gwalch and see many interesting things.

21.02.03 Ble Mae Gwalch.MOV

Cwblhewch y daflen isod (neu yn syth i mewn i'ch llyfrau gwaith) wedi meddwl am y pethau hynny sydd yn bwysig i chi e.e. Mam, Dad, brawd, chwaer, anifail anwes, tedi ayb. Tynnwch lun a labelu cymaint a hoffech chi!/ Complete the sheet below (or straight in to your work book) having given some thought to what is important to you e.g. Mam, Dad, brother, sister, pet, teddy etc. Draw and label as many as you wish!

Oeddech chi'n gwylio'r fideo yn ofalus? Ydych chi'n cofio ymhle roedd yr hwyaden fach yn cuddio? Dewch i ateb y cwestiynau ar y fideo./ Were you watching the video carefully? Can you remember where the duck was hiding? Come and answer the questions on the video.

Gwaith Tric a Chlic/ Tric a Chlic work- letter 'b'/ llythyren 'b'.

Dewch i wylio'r fideo er mwyn adolygu'r llythrennau melyn Tric a Chlic a seinio allan rhai geiriau glas./ Come and watch the video in order to revise the yellow Tric a Chlic letters and sound out some blue words.

21.02.03 T a Ch.MOV

Tasg/ Task:

Dewch o hyd i'r geiriau gyda'r sain cychwynol 'b' ar y daflen isod a'u huwch oleuo./ Find the words beginning with the 'b' letter sound on the sheet below and highlight.

Mae'r geriiau 'b' i gyd ar fideo dydd Llun ar wahân am/ The 'b' words are all on Monday's video apart from

barf-beard bara-bread

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work:

21.02.03 Llyfr Rhifau Cyntaf

Cyn cwblhau eich tasg dewch i gyfri a darllen y llyfr rhif gyda fi. Mae esboniad am y dasg hefyd./ Before completing your task come and count and read the number book with me. There is an explanation about the task also.

Beth am i ni orffen ein gwaith rhifau coll yr wythnos hon gan fentro i rifau heibio i 10? Fel y ddau dasg flaenorol mae'n rhaid i chi lenwi'r bylchau gyda'r rhifau cywir. Mae rhai o'r cwestiynau gyda 1 rhif ar goll a rhai gyda 2. Mae'n rhaid edrych yn ofalus ar y llinell rif./ Why don't we finish this week's work on missing numbers by venturing to numbers beyond 10? As with the two previous tasks you will need to fill the gaps with the correct missing numbers. You will need to look carefully at the number line.

Torrwch a gludwch y rhifau neu ysgrifennwch yn syth yn eich llyfr gwaith./ Cut and glue the numbers or write straight in to your book.

Thema / Topic:

Helfa Drysor Yr Ardd.

Dyma sialens a allwch ei wneud gydag aelod arall o'r teulu. Cyntaf i ddod o hyd i'r mwyaf o'r eitemau sydd ar y daflen. Efallai, os oes oedolyn ar gael, medrwch fynd am dro i chwilio am eitemau nad ydych wedi dod o hyd iddynt. Pob lwc a rhannwch eich helfa gyda ni.

Garden Treasure Hunt

Here's a challenge you can do with another family member. First to find the most of the items on the sheet. Perhaps, if an adult is available, you can go for a walk looking for items you haven't found. Good luck and share your hunt with us.

Yr Helfa Drysor

Mae Mam-gu Iet-wen a'i ffrindiau yn mynd ar helfa drysor. Ydych chi am ddod hefyd? Dewch, mae croeso i bawb!

The Treasure Hunt

Iet-wen's grandmother and her friends go on a treasure hunt. Do you want to come too? Come, everyone is welcome!

Dydd Iau 4.2.21 / Thursday 4.2.21

Gwaith Iaith / Language work:

Gwaith darllen a deall / Reading and understanding work:

Wedi gwrando ar y llyfr 'Dw i'n ddigon' ble mae'r ferch yn gweld pa mor bwysig yw hi, dewch i wrando a y llyfr 'Mae gan bawb ei gorff i hun'. Mae pawb yn edrych yn wahanol ond mae pawb yn bwysig. Mae rhai cymeriadau gwahanol iawn yn y llyfr! / Having listened to the story 'Dw i'n ddigon' (I am enough), where the little girl realises how important and unique she is, listen to the story 'Mae gan bawb ei gorff ei hun'. All the characters in the story look very different but all are important. There are some very unusual characters in the story.

21.02.04 Mae gan bawb ei gorff ei hun.mp4

Tasg / Task:

Fel y gwelch chi yn y llyfr, er ein bod ni gyd yn wahanol rydyn ni gyd yn unigryw ac yn bwysig, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar ôl ein hun ar y tu mewn a'r tu allan. Meddyliwch am sut y gallwn ni gadw'n hun yn hapus ac yn iach e.e. bwyta bwyd iachus, ymarfer corff, dweud wrth rywun os ydyn ni'n poeni am rywbeth, bod yn ffrind at eraill ayb. Cofnodwch eich syniadau trwy luniau ar y daflen isod neu yn syth i mewn i'ch llyfrau. / As you can see in the book, even though we all look different we are all unique and important, so it's important that we look after ourselves inside and out. Think of ways in which we can make ourselves happy/healthy e.g. eating healthy foods, playing outdoors, cycling, telling someone if we are worried, being friends with others etc. draw (or write)your ideas on the sheet below or straight in to your books.

Gwith Tric a Chlic / Tric a Chlic work:

Fel eich tasg adnabod/ysgrifennu ar ddydd Mawrth, eich tasg heddiw yw tasg darllen ac ysgrifennu rhai geiriau melyn Tric a Chlic. Mae'n bwysig ein bod ni'n adolygu'r rhain yn rheolaidd nid dim ond canolbwyntio ar y llythrennau glas!/ As with you reading/ writing task on Tuesday, your task today is to read and write some yellow Tric a Chlic words. It's important to continue to revise these regularly in case they are forgotten!

Ar y daflen isod mae angen 1. dweud beth yw'r gwrthrych yn y golofn gyntaf, 2. lliwio'r llythrennau i sillafu'r gair yn yr ail golofn, yna 3. ysgrifennu'r gair yn y golofn olaf. Mae'r geiriau isod./ On the sheet below you will need to 1. say each word in the first column, 2. colour the correct letters to spell the word in the middle column, then 3. write the word in the last column. The words are below.

het, car, pam, tap

Gêm geiriau Tric a Chlic / Tric a Chlic word game:

Beth am fynd ati i greu gêm syml yn debyg i un y ferch fach yn y llun? Gofynnwch i rywun i ysgrifennu'r geriau Tric a Chlic rydyn ni wedi bod yn eu darllen ar ddarnau o bapur fel siapiau pyllau dŵr. Defnyddiwch ymbarel fel 'prop' a phan fod rhywun yn gweiddi allan gair, neidiwch o un 'pwll' i'r nesaf./ Why not create simple game like the little girl's game in the picture? As someone to write the Tric a Chlic words we have been reading on puddle shaped pieces of paper. Use an umbrella as a 'prop' if you wish and as someone shouts out the words, jump from one 'pool' to another!

HER/CHALLENGE:

Beth am amseru'r dasg- sawl naid/ gair mewn e.e. 2 funud? / Why not time the task- how many jumps/words in e.g. 2 minutes?

Gwaith Mathemateg / Mathematics work:

Gwaith safle / Positional work:

Ydych chi'n cofio ateb y cwestiynau ddoe am ble roedd yr hwyaden fach yn y llyfr 'Ble Mae Gwalch?'. Heddiw rydyn ni'n mynd i edrych eto ar waith lleoliad (ble mae pethau?). Gwrandewch ar y fideos a cheisiwch gofio yr eirfa bwysig. /Do you remember answering questions yesterday about the little duck in the book 'Ble mae Gwalch?'. Today we are going to look again at the location of objects- where is...? Listen to the videos and try and remember the main vocabulary.

20.12.10 Ble_mae_Morlais_.mp4

Gwrandewch ar 'Ble Mae Morlais?'/ Listen to 'Ble Mae Morlais?' (Where is Morlais?).

Ble Mae Tedi? (Where is Teddy?)

Dewch i wrando'n ofalus ar y fideo am Tedi. Mae'r fideo yn un cwestiwn ac ateb. Ydych chi'n gallu ateb y cwestiynau? / Come and listen to the video about Tedi which is question and answer. Are you able to answer the questions?

21.02.04 Ble Mae Tedi.mp4

Tasg ymarferol / Practical task:

Ydych chi nawr yn gallu defnyddio un o'ch tedis/ doliau neu unrhyw degan arall a gosod y tegan mewn llefydd gwahanol o gwmpas y tŷ / pan allan am dro ayb? Ymarferwch brawddegau megis, 'Mae Tedi o dan y teledu', 'Mae doli yn y bocs', 'Mae Spiderman o flaen y bocs' ayb.

Can you now use one of your teddies/ dollies and place it in different places around the house/ when out for a walk etc? You can then practise sentences such as, 'Mae Tedi o dan y teledu' ('Teddy is under the television'), 'Mae doli yn y bocs' ('Dolly is in the box'), 'Mae Spiderman o flaen y bocs' ('Spiderman is in front of the box').

Thema / Topic:

Dydd Miwsig Cymru (DMC)

Byddwn ni'n dathlu #DyddMiwsigCymru ddydd Gwener 5 Chwefror. Rydyn ni'n edrych ymlaen i ddarganfod a dathlu'r holl fiwsig Cymraeg anhygoel sydd ganddon ni.

Mae #Miwsig yn ffordd o helpu pawb i ddysgu rhagor o Gymraeg.
Dyma'r rhestr chwarae rydyn ni'n gwrando arni: https://open.spotify.com/playlist/48ivzmxylZVwn50RavxO7a?nd=1


Welsh Language Music Day

We’ll be celebrating #DyddMiwsigCymru - #WelshLanguageMusicDay on Friday 5th February. We can’t wait to discover and celebrate amazing #Miwsig made in the Welsh language.
Listening to #Miwsig is helping us learn even more Welsh.
Check out the playlist we’re listening to.
https://open.spotify.com/playlist/48ivzmxylZVwn50RavxO7a?nd=1

Lliwio Poster Seren a Sbarc DMC

Helpwch Seren a Sbarc liwio eu poster Dydd Miwsig Cymru. Byddwch mor greadigol a lliwgar a phosib. Cofiwch rannu eich gwaith gyda ni, naill ai ar ‘Drydar’ neu ei yrru ar ‘Seesaw’. Diolch, a phob lwc i chi.


Colour a Seren a Sbarc Poster for DMC

Help Seren a Sbarc to colour in their DMC poster. Be as creative and colourful as possible. Remember to share your work with us, either on 'Twitter' or send it on 'Seesaw'. Thank you, and good luck to you.

Dydd Gwener Lles / Well-being Friday:

Lles / Well-being:

Thema ein sesiwn lles yr wythnos hon yw ‘emosiynau’. Dewch i wrando ar y stori, ‘Weithiau dwi’n teimlo’n heulog’, yn cael ei darllen.


The theme of this week’s well-being session is ‘emotions’. Listen to the story, ‘Weithiau dwi’n teimlo’n heulog’, being read.

Cymraeg - Weithiau dwi'n teimlo'n heulog.mp4
Saesneg - Weithiau dwi'n teimlo'n heulog.mp4

Mae’r stori yn cyfeirio at wahanol emosiynau a’r pethau sy’n gwneud i ni deimlo fel hyn. Weithiau mae’n anodd i ni ddangos ein hemosiynau a dydy rhai ddim yn hoffi trafod eu hemosiynau.

Creu cymeriadau emosiynau: Eich tasg chi yw i greu cymeriadau emosiynau fel y rhai isod gan ddefnyddio pethau sydd gyda chi yn y tŷ. Gallwch ddefnyddio y rhain pan rydych chi eisiau dangos eich emosiynau.

The story refers to different emotions and the things that make us feel like this. Sometimes, we find it hard to express and show our emotions.

Creating emotion characters: This task will help you show and explain your emotions. Make emotion characters similar to the ones below using things that you have at home.

Addysg Gorfforol a Meddwlgarwch / P.E and Mindfuless:

Beth am gymryd rhan mewn sesiwn Addysg Gorfforol heddiw? Ceir nifer o syniadau am weithgareddau ar y wefan hon. Mae ail wers Meddwlgarwch Mr Dobson ar gael ar y wefan hefyd.

How about taking part in a P.E session today? There are many ideas for activities on this website. Mr Dobson’s second Mindfulness lesson is on the website too.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/tudalen-addysg-gorfforol-ygc/hafan-home

Celf / Art:

Tasg: Cliciwch ar y ddolen er mwyn dysgu sut i arlunio wynebau yn dangos gwahanol emosiynau. Beth am greu mwgwd ‘emoji’, tynnu llun o’ch hunain yn ei wisgo a’i anfon i ni?

Task: Click on the link to learn how to draw faces showing different emotions. Why not create an ‘emoji’ mask, take a picture of yourself wearing it and send it to us?

Tasg ychwanegol / Extra task:

Cofiwch am y digwyddiad hwn sy’n fyw, bob prynhawn dydd Gwener:


Remember about this event, which takes place live, every Friday:

Disgo'r Urdd / Urdd disco:

Am 12:30 heddiw, mae’r Urdd yn cynnal disgo yn fyw o Lan-llyn i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Cliciwch ar y ddolen isod er mwyn ymuno mewn.

At 12:30 today, the Urdd will be holding a live disco from Glan-llyn to celebrate Dydd Miwsig Cymru. Click on the link below at 12:30 to join in.

Mwynhewch! / Enjoy!

Mwynhewch y penwythnos!

Enjoy the weekend!