Tymor 2 / Term 2

Dydd Llun Ionawr 4ydd 2021/ Monday 4th January 2021.

Gwaith Iaith / Language Work.

Ein thema ar gyfer y tymor yw Y Fferm. Byddwn yn dysgu am bob math o bethau!

Our theme for this term is 'The Farm. We will be learning about all sorts of things!

21.01.03 Enwau anifeiliaid y fferm

Gwrandewch ar y stori am Tedi Twt ar y fferm cyn cwblhau'r dasg isod./ Listen to the story of Tedi Twt on the farm before completing the task below..

Sut mae'r anifeiliaid fferm yn teimlo? Dyma'r eirfa i'ch helpu./ How do the farm animals feel today? Here's the vocabulary to help you.

wedi blino/ tired

bendigedig/ wonderful

gweddol/ fair

hapus/ happy

Ydych chi nawr yn gallu mynd ati i geisio cofio rhai o'r anifeiliaid sydd yn byw ar y fferm? Oes hoff anifail gyda chi? Os felly, pam? Ewch ati nawr i dynnu llun eich hoff anifail ar y daflen isod gydag unrhyw adnoddau sydd gyda chi adref?

Can you now try and remember some of the animals which may live on a farm? Do you have a favourite animal and if so why? Can you now draw a picture of your favourite farm animal below using whatever resources you have at home?

Mae'r fideo yma gydag enwau rhai anifeiliaid fferm yn y Gymraeg a'r Saesneg i'ch helpu chi i feddwl.

This video below names some farm animals in English and Welsh to help you to think of tour favourite farm animal.

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work.

21.01.03 Cyfri anifeiliaid y fferm
20.5.14 Rhifau 1-10.mp4

Mae'r fideo yma'n helpu chi i ynganu'r rhifau o 1-10 yn y Gymraeg ac i'ch hatgoffa am enwau'r rhifau gwahanol.

This video will help you to pronounce the numbers from 1-10 in Welsh and to remind you of the different number names.

Bowlio/ Bowling:

Bydd angen.../ You will need:

  • Boteli plastig neu gwydrau plastig neu hyd yn oed potiau blodau a phen marcio./ Plastic bottles or plastic cups or even flower pots and marker pen.

  • Pêl / Ball

Ysgrifennwch rifau ar y poteli (neu hyd yn oed smotiau niferoedd gwahanol) bowliwch y bêl. Y rhif sydd ar y poteli sydd wedi cwympo yw eich sgôr, cyfrwch eich sgôr! Pwy sydd wedi ennill y gem?

Write the numbers on the bottles (or even dots in various numbers), bowl the ball. The total number on the fallen bottles is your score, count your score! Who has won the game?


Gwaith Thema / Topic Work

Cwmwl Gobaith / Hope Cloud

Mae’r flwyddyn 2020 wedi bod yn un gwahanol iawn. Gwnewch lun o gwmwl gobaith a dangoswch i ni sut y byddech yn hoffi gweld y flwyddyn 2021. Ydych chi eisiau gweld blwyddyn wahanol i 2020? Sut ydych chi eisiau i 2021 fod yn wahanol?

The year 2020 has been a very different one to the usual. Draw a hope cloud and show us how you would like to see 2021. Do you want to see a different year to 2020? How do you want 2021 to be different?

Dydd Mawrth Ionawr 5ed 2021 / Tuesday 5th January 2021.

Gwaith Iaith / Language Work:

_Fferm ar ras llyfr - PowerPoint Slide Show - Fferm ar ras llyfr.mp4

Dyma rai geiriau C.Ll.C. Tric a Chlic, melyn i chi eu darllen. Mae gan bob un o'r geiriau y sain 'a' neu 'e' yn y canol. Gwrandewch ar y fideo a darllenwch y geiriau gyda fi. Mae un seren i bob sain yn y geiriau. Defnyddiwch eich bys i ddilyn y sêr/ llythrennau. Cofiwch, os ydych yn ansicr am sut i ynganu'r llythrennau cofiwch i ddefnyddio'r daflen/tabl isod.

Here are some C.V.C. Tric a Chlic, yellow words for you to read. Each of the words has an 'a' or an 'e' sound in the middle. Listen to the video and read the words with me. There is one star for each letter sound in the words. Use your finger to follow the stars/letters. Remember, if you are uncertain about how to pronounce some of the letters use the sheet/table below.

Edrychwch ar y daflen isod sydd yn cynnwys enwau rhai o'r anifeiliaid sydd yn byw ar y fferm. Mae sain cychwynol bob un o'r geiriau ar goll. Mae pob un o'r llythrennau sydd ar goll yn dod o'r cynllun ffoneg Tric a Chlic (Melyn) ac rydyn ni wedi bod yn eu dysgu yn y dosbarth. Defnyddiwch stori Tedi Twt o ddoe a'r fideos i'ch helpu.

Look at the following worksheet containing the names of various animals which live on the farm. The initial letter sound of each is missing. Each missing letter is one from our Tric a Chlic (Yellow) phonics scheme of work which we have been learning in class. Use the Tedi Twt story from yesterday and the videos to help you remember.

Gwaith Mathemateg / Mathematics work:

Dewch i wrando ar gân cyfri Cyw! / Come and listen to Cyw's counting song

Nawr gwrandewch ar yr fideo isod er mwyn i chi ymarfer eich cyfri. Yn wahanol i fideo ddoe nid yw'r rhifau yn y drefn cywir felly mae angen i chi edrych a gwrando'n astud!/ Now listen to the following video in order to practise your counting. Unlike yesterday's video the numbers are not in the correct order so you will therefore need to look and listen carefully!

21.01.04 Cyfri anifeiliaid dim trefn

Edrychwch ar y rhifau a'r anifeiliaid fferm gwahanol a lliwich y nifer cywir i gyfatebu gyda'r rhif wrth eu hymyl.

Look at the various numbers and farm animals and colour the correct number of animals to correspond with the number bedside them.

Gwaith Thema / Topic Work

Didoli anifeiliaid ac ailgylchu

Didoli anifeiliaid y fferm ac eitemau ailgylchu

Edrychwch ar y llun “Ar y fferm”, mae sawl peth ar gaeau y fferm. Beth a ddylai fod ar y caeau a beth ddylai ddim? A allwch chi ddidoli yr eitemau yn gywir?

Sorting farm animals and recycling material

Take a look at the picture “Ar y fferm”, what can you see? What should be wandering the fields and what should be in a recycling bin? Can you sort out the items correctly?

Dydd Mercher Ionawr 6ed/ Wednesday 6th January.

Gwaith Iaith / Language Work:

Dewch i wrando ar y stori am ddau blentyn sydd yn mynd am dro i'r fferm ac yn gweld llawer o anifeiliaid gwahanol yno./ Let's listen to a story about two children who go on a walk to a farm and see lots of different animals there.

21.01.05 Llyfr Lawr i'r fferm aeth pam a fi

Ydych chi’n gallu cofio pa anifeiliaid gwelodd y ddau blentyn ar y fferm? Ydych chi’n gallu cofio yn y drefn cywir? / Can you remember what animals the children saw on the farm? Can you remember in which order they saw them?

Gwaith gwrando a deall./ Listening and understanding work.

Beth am i ni chwarae gêm ‘Pwy ydw i?’ Gwrandewch ar y fideo ac ar y cliwiau am yr anifeiliaid gwahnol. Mae’n rhai i chi ddyfalu enw’r anifail o’r cliwiau sydd ar gael. Rydw i’n darllen y cliwiau yn y Gymraeg ond mae yna gyfieithiaid Saesneg yno hefyd rhag ofn, i helpu gyda’r eirfa. Gwrandewch yn astud! / Let us play a game ‘Who am I?’ Listen to the video and to the clues about the various animals. You have to guess the name of each animal based on the clues given. I have read the clues in Welsh but there is an English translation also to help with the vocabulary. Listen carefully!

Mae’n amser i ymarfer eich sgiliau pensil. Ceisiwch ymarfer ffurfio llinellau crwm fel yn y llun. Dechreuwch ar ochr chwith y dudalen a chadwch eich pensil ar y papur i greu un llinell crwm hyd at ochr arall y dudalen.

It’s time to practise your pencil skills. Try and practise forming rounded lines as in the picture. Start on the left hand side of the page and keep your pencil on the paper to create one long rounded line.

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work:

Dewch i wrando ar lyfr am gyfri ac am nifer o anifeiliaid gwahanol./ Come and listen to a book about numbers and various animals.

21.01.05 Llyfr Rhigwm a rhif 123

Dewch i ymarfer eich sgiliau rhif a sgiliau mudol mân! Mae angen i chi dorri allan y teils rhif a’u gosod yn y drefn cywir er mwyn creu llun y fferm. Yna gallwch chi liwio’r teils er mwyn creu llun y fferm lliwgar./ Come and practise your number and fine motor skills. You will need to cut out the numbered tiles and place them in the correct order in order to create a picture of a farm. You can then colour the tiles to create a colourful farm.

HER- beth am ofyn i rywun newid y rhifau ar y teils e.e. 6-10, 10-15 neu hyd yn oed cymysgedd o rifau sydd ddim yn dilyn a’u gosod o’r lleiaf-mwyaf/ mwyaf-lleiaf. Gallwch chi wneud hyn sawl gwaith.

CHALLENGE- why not ask someone to change the numbers on the tiles e.g. 6-10, 10-15 or even a combination of numbers and place them in the correct order from lowest-highest/ highest-lowest. You can repeat this several times.


Gwaith Thema / Topic Work

Diwrnod adar y byd / National Bird Day

WL-T-T-5279-Perbwynt-Fideo-Adar-Bach-yr-Ardd
Adar yr ardd - cyfri.pdf

Ddoe roedd hi'n ddiwrnod adar y byd. Diwrnod i gydnabod pwysicrwydd adar. Tra bod adar yn anhygoel, maen nhw hefyd yn grŵp anifeiliaid enfawr sydd dan fygythiad penodol. Ac enwyd yr ymadrodd “canary in the coal mine” ar ôl adar am reswm - nhw yw baromedrau iechyd amgylcheddol ein planed. Mae'r ffaith bod cymaint o rywogaethau adar dan fygythiad diolch i'r fasnach anifeiliaid anwes anghyfreithlon, afiechyd a cholli cynefinoedd yn golygu ei bod hi'n bwysicach nag erioed i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o anghenion adar. Mae goroesiad cannoedd o rywogaethau yn dibynnu arno! Gwyliwch y pwerbwynt uchod i ddysgu mwy am adar yr ardd.

Beth am i chi ddefnyddio neu greu taflen tebyg i hon i gyfri'r adar sydd yn eich gardd chi?

T-T-5279-Birds-Video-Powerpoints
Garden Birds Count.pdf

Yesterday was World Bird Day. A day to recognize the importance of birds. While birds are amazing, they are also a huge group of animals that are under particular threat. And the phrase "canary in the coal mine" was named after birds for a reason - they are the barometers of our planet's environmental health. The fact that so many bird species are threatened by the illegal pet trade, disease and habitat loss means that it is more important than ever to raise public awareness of the needs of birds. The survival of hundreds of species depends on it! Watch the power point above to learn more about garden birds.

Why not use or create a leaflet similar to this one to count the birds in your garden?

Dydd Iau Ionawr 7fed/ Thursday 7th January.

Gwaith Iaith / Language Work:

Dewch i wrando ar y fideo isod sydd yn rhoi rhai ffeithiau am anifeiliaid gwahanol y fferm. Mae angen i chi wrando'n astud gan fod tasg i ddilyn./ Listen to the following video containing facts about some farm animals. You will need to listen carefully as there is a task to follow.

21.01.06 Ffeil o ffeithiau fferm

Ewch ati nawr i ddeiws unrhyw ddau anifail fferm er mwyn creu 'ffeil o ffeithiau' amdanynt. Meddyliwch am y llyfrau a'r fideos rydych chi wedi eu gweld yn ystod yr wythnos. Ceisiwch feddwl am 5 ffaith ar gyfer y ddau anifail ond os ydych chi'n gallu meddwl am fwy mae hynny'n wych! Gallai rheini fod yn bethau syml fel lliw y corff, nifer y coesau ay.y.b.

Now choose any two farm animals in order to create a basic 'list of facts' about them. Think of the books and videos that you have seen this week. Try and think of 5 facts for each animal if you can but if you can think of more that's great! The facts can be simple things such as their body colour or how many legs etc.

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work:

Dewch i wrando ar y fideo isod a chyfri gyda fi!/ Come and listen to the following video and count with me!

21.01.06 Pa rif ar goll

Eich tasg yw i ddidoli/ gosod mewn i ddau set gwahanol pethau sydd yn byw ar y fferm (gan gynnwys y ffarmwr!). Mae angen i chi feddwl beth sydd gyda 2 goes a beth sydd dya 4 coes. Gallwch chi naill ai dynnu lluniau yn eich llyfr gwaith neu os oes anifeiliaid y fferm gyda chi adref gallwch chi wneud y dasg yn ymarferol!/ Your task is to place things which live on a farm (including the farmer!) into two sets, one set having two legs, the other having four legs! You can draw these in your work book, or if you have a set of farm animals at home you can make it a practical task!

Mae rhai syniadau ar y daflen i'ch helpu!

There are some ideas on the sheet to help you with the task!

Gwaith Thema / Topic Work

Tywydd

Y Tywydd.

Sut mae'r tywydd heddiw? Edrychwch a gwrandewch ar y pwerbwynt i gael cymorth.

The Weather.

How is the weather today? Take a look and listen to the powerpoint for some help.

Llun y Tywydd

Edrychwch mas trwy'r ffenestr neu ewch allan i edrych ar y tywydd heddiw. Ydych chi'n gweld siapiau anifeiliaid yn y cymylau? Tynnwch lun o'r tywydd heddiw.

Look through your window or head outside to see what the weather's like today. Can you see animal shapes in the clouds? Draw a picture of the weather today.

Dydd Gwener Ionawr 8fed / Friday 8th January.

Gwaith Iaith / Language Work:

Gwaith gwrando a deall/ Listening and understanding work:

Dewch i wrando ar y stori am gi bach sydd yn mynd ar daith o gwmpas y fferm yn dweud 'Helo' wrth yr holl anifeiliaid sydd yn byw yno./ Come and listen to the story of a little dog who goes for a walk around a farm saying 'Hello' to all of the animals that he meets there.

21.01.08 Llyfr Helo Anifeiliaid
  • Pa anifail sydd yn deffro'r fferm yn y bore?/ What animal wakes the farm in the morning? (Y ceilioig/ The cockerel).

  • Pa anifal/anifeiliaid sydd yn byw yn y twlc? / What animal(s) live in the sty? (Y mochyn/moch. /The pig/pigs).

  • Sawl cyw bach sydd yn cuddio o dan y brigau?/ How many chicks are hiding under the twigs? (Pedwar/ Four).

  • Pa anifail sydd yn padlo yn y pwll?/ What animal is paddling in the pool? (Yr hwyaden/ The duck).

  • Pa anifail sydd gyda smotiau i gyd dros ei got?/ What animal's coat is covered in spots? (Y ceffyl/ The horse).

Gwaith ysgrifennu/ Writing work.

Nawr ein bod ni wedi dod i ddiwedd dysgu'r llythrennau Cam 1 melyn Tric a Chlic, beth am greu gêm syml yn eich llyfr/ar ddarn o bapur yn debyg i'r un isod er mwyn adolygu enwau'r llythrennau (a lliwiau)? Defnyddiwch bensiliau lliw i uwcholeuo'r llythrennau yn y grid i gydfynd ȃ'r lliwiau priodol. Mae'n bosib i amrywio'r llythrennau a'r lliwiau fel y dymunwch.

Now that we have come to the end of learning the yellow Tric a Chlic letters, why not create a simple game like the one below in order to revise the letters (and colours)? You will need to use coloured pencils to highlight the letters in the boxes to match the colours chosen. You can vary the letters and colours as you choose.

Dyma rai o'r geiriau o'r pecyn melyn Tric a Chlic rydyn ni eisoes wedi darllen. Edrychwch yn ofalus a chofnodwch yn eich llyfr/ar ddarn o bapur y sain terfynol i bob un. / Here are some of the yellow Tric a Chlic words we have previously read. Look at them carefully and write in the final letter sound for each in your book/ on a piece of paper.

Y geiriau / The words:

mat, map, mam, ham.

Mae'r bachgen yn y llun wedi creu gêm er mwyn ei helpu i adnabod geiriau. Ewch ati i greu un tebyg gan ddefnyddio'r geiriau mat, map, mam, ham fel yn y dasg uchod. Gofynnwch i oedolyn i weiddi allan y geiriau ac ewch ati i daro'r geiriau cywir mor gyflym ȃ phosib!

The boy in the picture has created a game to help him identify Tric a Chlic words. Why not create a similar game using the words mat, map, mam, ham as in the above task? Ask an adult to shout out the words for you and try to 'hit' the correct words as quickly as possible.

Gwaith Mathemateg / Mathematics Work:

O diar, mae ci bach drwg wedi difetha'r llinell rif! Dewch i wrando ar y fideo i ddysgu mwy. / Oh dear, a naughty little dog has damaged the number line! Listen to the video to learn more.

21.01.08 Trefnu bananas

PA RIF SYDD AR GOLL? Mae'r dasg heddiw yn un ymarferol. Ydych chi'n gallu creu gweithgaredd fel yr un mae Mrs Sennitt wedi creu gan ddefnyddio ffyn loli a phegiau? Mae angen i chi feddwl am linell rif hyd at 10 a gosod y peg rhif cywir yn y blwch cywir. Wedi creu y gêm cadwch yn ddiogel er mwyn ymarfer tro ar ôl tro! /

WHAT IS THE MISSING NUMBER? Today's task is a practical one. Can you create an activity like the one Mrs Sennitt has created using lolly sticks and pegs? You will need to remember the number line to 10 and place the correct numbered peg in the correct gap. Having created the game, keep it safe so that you can practise over and over again!

Os nad yw'r adnoddau yma gyda chi adref, does dim ots, rydych chi'n gallu creu'r un weithgaredd gan ddefnyddio nifer o adnoddau gwahanol e.e. papur, cardfwrdd, pensiliau lliw a.y.y.b. Gweler y syniadau yma. /

Don't worry if you don't have the resources at home, you can create the same activity and outcome using whatever you may have at home e.g. paper, cardboard, pencils, felt pens etc. There are some ideas below.

Gwaith Thema / Topic Work:

wl-ea-33-gweithgaredd-torri-a-gludo-siapiau-2d-anifeiliaid_ver_1.pdf

Celf:

Dyma dudalennau y gallwch eu hargraffu sydd yn cynnwys siapiau i'w torri mas i greu anifail fferm. Gallwch ddefnyddio'r tudalennau hyn neu greu rhai eich hunain. Pob lwc a rhannwch eich creadigaeth gyda ni.

Art:

Here are some pages you can print that contain shapes to cut out to create a farm animal. You can use these pages or create your own. Good luck and share your creation with us.