Mae llawer o ffyrdd i ni deimlo bod gennym gysylltiad â’r lle rydym yn byw. Mae hyn yn ein helpu i deimlo ein bod yn perthyn.
Ydych chi'n gallu meddwl am ffyrdd yr ydych chi'n perthyn i'r Gymuned? Trafodwch gydag oedolyn y gwahanol ffyrdd yr ydych chi'n perthyn.
Edrychwch ar y lluniau i'ch helpu.
There are many ways for us to feel connected with where we live. This helps us feel that we belong.
Can you think of ways you belong to your local area/community? Discuss with an adult the different ways you belong.
Look at the pictures to help you.
Cliciwch ar y linc i wylio'r fideo am y gymuned.
Click on the link to watch the video about community.
Fedrwch chi dynnu llun o un peth rydych yn hoffi gwneud yn eich cymuned neu lle rydych chi'n hoffi mynd yn eich ardal leol?
E.e. y parc, gardd, cae rygbi, ffrindiau ac ysgol ayyb.
Can you draw one thing you like to do in your community or where you like to go in your local area?
E.g. the park, garden, rugby pitch, friends and school etc.
Yr wythnos hon rydyn ni'n canolbwyntio ar gydbwyseddd.
Cliciwch ar y linc i wylio y fideos ac ymarfer cydbwyso.
This week we are concentrating on balance.
Click on the link to watch the videos and practise balancing.
Ein thema cyn y gwyliau Pasg oedd 'Y Goedwig'. Rydyn ni'n parhau gyda'r thema am yr wythnosau nesaf. Eich gwaith cartref yw i greu ‘Coedwig mewn bocs’.
Meddyliwch am beth sydd yn tyfu yn y goedwig, pa anifeiliaid sydd yn byw yno ayb. Cofiwch am lyfrau Wil Wiwer a'i ffrindiau! Peidiwch â phoeni am brynu adnoddau siop– defnyddiwch unrhyw adnoddau ‘jync’ sydd gennych adref a pheidiwch â phoeni am orffen y gwaith dros y penwythnos- does dim brys!
Beth am ddefnyddio adnoddau o'r ardd, fel brigau i greu coed? Mae rhai esiamplau a syniadau isod. Rydw i'n edrych ymlaen at weld y goedwig felly cofiwch i roi lluniau o'ch gwaith ar gyfrif Trydar yr Ysgol neu ar Seesaw!
Our class topic before the Easter holiday was 'The Forest'. We are continuing with this theme for the next few weeks. Your homework is to create a 'Forest in a box'.
Think about what grows in a forest, what animals you may see there etc. Remember the stories about Wil Wiwer (squirrel) and his friends. Don't worry about buying shop bought resources- use any items of 'junk' that you may have at home and don't worry about completing the work over the weekend- there's no rush!.
Why not use natural resources from the garden, such as twigs to create trees etc? There are some examples and ideas below. I'm looking forward to seeing the forest, therefore remember to upload any pictures of your work to the School's Twitter account or to Seesaw!