Cofiwch i ddangos eich gwaith drwy ei uwchlwytho ar 'Seesaw'. Gweler y llythyr yn eich llyfr gwaith cartref am ragor o fanylion.
Remember you can show your work by uploading it on 'Seesaw'. Please see the letter in your homework book for more information
Gwaith llafar(amser stori)/ Oral work (story time):
Dewch i wrando ar y stori am fachgen bach o'r enw Sam. Meddyliwch sut mae Sam yn teimlo yn y stori!/ Come and listen to the story about Sam. Think how Sam may feel in the story>
Gwaith llafar/ Oral work:
Edrychwch ar lun y fferm ac atebwch y cwestiynau isod./ Look at the picture of the farm and answer the questions below:
Dangoswch oen i mi./ Show me a lamb.
Dangoswch y tractor i mi./ Show me the tractor.
Pa liw ydy'r tractor?/ What colour is the tractor?
Pa anifail sydd ar dreilar y tractor?/ What animal is on the trailer of the tractor?
Ble mae'r hwyaid?/ Where are the ducks?
Pwy sydd yn sefyll wrth ymyl y ffermwr? /Who is standing next to the farmer?
Anifeiliaid doniol y fferm/ Funny farm animals.
Ydych chi'n cofio ni'n darllen y llyfr Siang-Di-Fang yn ein cyfarfod cyn hanner tymor.? Beth am greu anifeiliaid doniol yn debyg i'r rhai yn y llyfr? Mae rhai syniadau isod./ Do you remember us reading the book Siang-di-Fang in our meeting before half term about all the funny animals on the farm? Why not create similar animals yourself? Thera are examples below.
Gwaith cyfri/ Counting work.
Gan ddefnyddio llun uchod y fferm atebwch y cwestiynau isod./ Using the picture of the farm above, answer the following questions.
Sawl buwch sydd yn y llun?/ How many cows are there in the picture?
Sawl llo sydd yn y llun? How many calves are there in the picture?
Sawl porchell sydd yn y llun?/ How many piglets are in the picture?
Sawl dafad sydd yn y llun?/ How many sheep are in the picture?
Sawl oen sdd yn y llun?/How many lambs are in the picture?
Sawl mochyn sydd yn y llun?/How many pigs are in the picture?
Dewch i gyfri gyda Peppa!/ Come and count with Peppa!
Gwaith ymarfer ffurfio rhifau/ Number formation work:
Beth am ymarfer ffurfio eich rhifau mewn ffordd hwyl ac ymarferol. Os yw hi'n sych beth am wneud hyn y tu allan gyda e.e. brws paebt a dwr, sialc ayb./ Why not practise forming you numbers in a fun practical way. If the weather is favourable why not do this outside using a paint brush and water, chalk etc?
Gallwch ch ddefnyddio 'gel gwallt' neu rhywbeth tebyg mewn bag heb dyllau!/ You could use hair gel or something similar in a bag with no holes!
Ein thema newydd ar ol dychwelyd i'r ysgol yw 'Y Goedwig'. Byddwn ni'n dysgu am yr anifeiliaid ayb. sydd yn byw yno. Ydych chi'n gallu creu 'map meddwl' gyda rhai syniadau am beth mae'r term coedwig yjn golygu i chi er mwyn i ni drafod yn y dosbarth?/ Our new theme when we return to school will be 'The Forest'. Can you create a 'mind map' of the various things you associate with the forest in order for us to discuss in class? You are welcome to draw pictures/ create a list.
Gwrando a deall/ Listening and understanding:
Ein stori heddiw ydy 'Mae Mam ar Goll', stori am amrywiaeth o anifeiliaid y jwngl ond yn bennaf y mwnci bach sydd wedi colli ei fam. Rydyn ni wedi darllen nifer o lyfrau am bethau sydd yn byw yn yr ardd, felly beth am i ni ddarllen am yr anifeiliad gwahanol sydd yn byw yn y jwngl?
Our story today is 'Mae Mam ar Goll' (Mam is lost) a story about various jungle animals but in particular a little monkey who has lost his mother in the jungle. We have read a number of books about creatures and animals which live in the garden, therefore why not read about ones which live in the jungle?
Ydych chi nawr yn gallu ateb y cwestiynau isod?/ Are you now able to answer the following questions?
Oes coesau gan y neidr? / Does the snake have legs? (Oes/Nac oes/ Yes/No)
Pa liw ydy'r parot? / What colour is the parrot?
Sawl coes sydd gan yr eliffant?/ How any legs does the elephant have?
Ydych chi'n gwybod beth yw enw trwyn hir yr eliffant?/ Do you know what the elephant's long nose is called?
Ym mhle mae'r neidr yn eistedd?/ Where is the snake sitting? (Yn y goeden/ In the tree).
Pa anifail bach sydd yn ceisio helpu'r mwnci i ddod o hyd i'w fam?/ What little animal is trying to help the monkey find his mother? (Pili-pala/ Butterfly).
Sut i ynganu enwau rhai o anifeiliaid y jwngl. / How to pronounce the names of some of the jungle animals.
Gwaith Tric a Chlic/ Tric a Chlic work: llythyren yr wythnos 'w'/ Letter of the week 'w':
Ein llythyren Tric a Chlic yr wythnos hon yw 'w'. Dyma wybodaeth ar sut i ynganu'r sain 'w'. Gwrandewch ar y gân hefyd./ Our Tric a Chlic letter this week is 'w'. Look below at how to pronounce 'w'. Listen to the song also.
Ceisiwch adeiladu rhai o'r geiriau Tric a Chlic (C.Ll.C) o'r pecyn melyn neu'r un glas. Os nad oes llythrennau magnetig gyda chi, does dim ots. Gofynnwch i oedolyn ysgrifennu'r llythrennau ar ddarnau o bapur./ Try and build some of the yellow or blue (CVC) Tric a Chlic words by using a three space grid or something simple like this from the kitchen. If you don't have magnetic letters, don't worry, maybe you can ask an adult to write the letters out for you on pieces of paper?
Beth am ymarfer y patrwm i fyny ac i lawr gyda phensil fel yn yr esiampl yma? Cofiwch i gadw eich pensil ar y llinellau'n ofalus./ Why not practise an 'up and down' pattern like this one? Remember to keep your pencil carefully on the line.
Wedi ymarfer y patrwm 'i lawr ac i fyny' ewch ati i ymarfer ffurfio 'w' yr holl fford o gwmpas y rhif 8? Beth am ddefnyddio pensiliau lliw gwahanol i greu enfys lliwgar?/ Having practised the 'down and up' pattern, why not practise writing 'w the whole way round the number 8, pronounced 'wyth'. You could also use different coloured pencils to create a colourful rainbow.
Wyth (8).
Gwaith rhif (tynnu i ffwrdd)/ Number work (subtraction):
Dewch i wrando ar y fideo yn seiiedig ar anifeiliaid y sw. Ydych chi'n cofio sut i osod allan swm tynnu i ffwrdd yn ysgrifenedig?/ Come and listen to the video about zoo animals. Can you remember how to set out a subtraction sum?
Ydych chi nawr yn gallu ysgrifennu'r cwestiynau sydd ar y daflen ar y chwith isod allan yn gywir ar y dalfen ar y dde (neu yn syth yn eich llyfrau gwaith) a gosod yr atebion yno hefyd?/ Are you now able to write out the questions on the sheet on the left, out correctly on the sheet on the right (or directly in to your work books) and place your answers there also?
Gyferbyn mae taflen weithgaredd Masnach Deg. Ynddo mae lluniau o eitemau masnach deg fedrwch ei brynu. A fedrwch chi liwio yr eitemau hyn yn gywir?
Opposite is the Fairtrade activity sheet. It contains photos of fair trade items you can buy. Can you colour these items correctly?