09.07.2021

Dydd Gwener / Friday 09/07/21

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch i edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/5-7-21-9-7-21

Gwaith thema/ Topic work:

Gwrandewch ar Cyw a'i ffrindiau yn canu am yr haf. Gwyliwch y fideo'n ofalus i weld yr holl bethau maent yn mwynhau ei wneud. Meddyliwch am beth rydych chi'n mwynhau ei wneud yn yr haf a chofnodwch eich hoff bethau ar y daflen isod. / Listen to Cyw and friends singing about the summer. Watch the video carefully to see all of the things which Cyw and friends enjoy doing. Think of what things you enjoy doing in summer and draw pictures of them.

Cwblhewch y daflen/ Complete the sheet 'In the Summer I enjoy...'

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd / Knowledge and Understanding of the World:

Ydych chi'n gallu dod o hyd i ffeithiau diddorol am lindys? Gwyliwch y fideo ar y chwith sydd heb sain ond sydd yn dangos y cylch bywyd yn fanwl iawn. Mae yna lawer o ffeithiau am lindys a digon o wefannau ar gael yn debyg i'r un ar y dde isod.

Are you able to discover interesting facts about caterpillars? Look at the video on the left which is without sound but which shows its life cycle in detail. There are many interesting facts about caterpillars on plenty of websites similar to the one on the right below.

Gwaith creadigol / Creative work:

Beth am greu lindys lliwgar 3D gan ddefnyddio unrhyw eitemau 'jync' o'r tŷ neu bethau naturiol o'r ardd? Dyma rai syniadau isod;/ What about creating colourful 3D caterpillars using 'junk' items from around the house or objects from the garden? Here are some ideas below;

Lles (Bwyta'n iachus)/ Wellbeing (Healthy eating).

Os nad ydych am greu lindysyn 3D beth am greu un iachus? Mae yna rai syniadau isod ar gyfer creu byrbryd iachus yn seiliedig ar lindysyn gan ddefnyddio ffrwythau a llysiau/salad gwahanol. Ydych chi'n gallu meddwl am fwydydd eraill y gellid eu defnyddio- beth am ciwi, moron, tomatos a.y.y.b.?

If you don't want to create a 3D caterpillar how about creating a healthy caterpillar? There are some ideas below for healthy snacks based on a caterpillar, using different fruits/vegetables/salads. Can you think of any other vegetables/ salad foods that can be used- how about kiwi, carrots, tomatoes etc?

Gwaith cartref/ Homework:

Gwaith Iaith/ Language work:

Gêm - Tric a Chlic - Game

Beth am chwarae gêm Tric a Chlic? Gofynnwch i oedolyn i helpu amseru pa mor gyflyn rydych chi'n cwblhau'r gem yn gywir.

Why not play a Tric a Chlic game? Ask an adult to help time it takes you to complete the game correctly.

Tasg 2/ Task 2: Gwrandewch ar y stori 'Dewch i'r ardd', er mwyn eich atgoffa am ba fath o bethau sydd yn byw yno. Cofiwch rydyn ni wedi edrych ar nifer o lyfrau am anifeiliaid, trychfilod, blodau, llysiau a ffrwythau. Yna ewch ati i gwblhau'r dasg isod. / Listen to the story 'Dewch i'r ardd' ('Come to the garden'), in order to remind yourself about what type of things live there. Remember, we have looked at many books about animals, mini-beasts, flowers, vegetables and fruits. Then complete the task below.

  1. Beth sydd yn byw yn byw yn y gwair? What lives in the grass?

  2. Beth sydd yn byw yn y berth?/ What lives in the hedge?

  3. Beth sydd yn byw yng nghanol y blodau?/ What lives in the middle of the flowers?

  4. Beth sydd yn byw yn y pwll?/ What lives in the water pool?

  5. Beth sydd yn byw yn yr awyr?/ What lives in the sky?

  6. Beth sydd yn byw yn y sied?/ What lives in the shed?

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work:

Tasg 1/ Task 1: Dewch i ymarfer eich sgiliau mudol mȃn a chyfri wrth linynnu gleiniau/ gwrthrychau gwahanol ar gortyn. Gallwch chi ddefnyddio eitemau o'r gegin e.e. pasta (os oes peth sbȃr gyda chi), rils cotwm a.y.y.b. Mae'n bosib i droi'r weithgaredd i mewn i gêm Fathemateg fel yn y llun isod. /

Let's practise your fine motor and number skills by threading beads/ objects on to string/ chord/ribbon etc. You can use items from the kitchen e.g. pasta tubes (if you have spare), cotton reels etc. It is possible to turn the activity into a mathematics game as in the picture below.

Ysgrifennwch rifau ar ddarnau o bapur a'u gwasgaru pen i waered ar fwrdd. Dewisiwch un rhif o'r bwrdd a gosodwch y nifer cywir o rils a.y.y.b. ar gortyn/ edau/ ruban. /

Write numbers on pieces of paper and place upside down on a table/floor. Pick a number and thread the correct number of reels etc on to a string/ cotton/ ribbon.

Tasg 2- Cyfri symudiadau/ Task 2- Counting actions: Mae'r clip fideo isod yn gofyn i chi wneud nifer gwhanol o symudiadau e.e. 1 clap a.y.y.b. Gwyliwch y fideo a dilynwch y cyfarwyddiadau. Cyfrwch y symudiadau yn ofalus wrth wneud. / The video clip below asks you to perform different actions e.g. 1 clap. Watch the video and follow the instructions. Remember to count carefully.

Beth am feddwl am symudiadau eraill e.e. 5 tap ar y pen, 7 naid ar ddwy goes a.y.y.b? / Why not think of other movements e.g. 5 taps in the head, 7 jumps on two feet?

Diolch yn fawr!