18.1.2021-22.1.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh language Charter

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-2/18-1-21-22-1-21

Dydd Llun 18.1.2021/ Monday 18.1.2021.

Gwiath Iaith/ Language work:

Gwaith Darllen (Gwrando a deall)/ Reading work (Listening and understanding).

Ein llyfr newydd ydy Mrs Wishi Washi, stori am ffarmwraig sydd yn byw ar fferm gyda anifeiliaid sydd yn hoffi chwarae yn y mwd. O diar, mae Mrs Wishi Washi'n grac!/ Our new book is Mrs Wishi Washi, a story about a farmer who lives on a farm with animals who love to be muddy. Oh dear, Mrs Wishi Washi is very cross!

21.01.18 Mrs Wishi Washi

Gadewch i ni weld pa mor astud rydych chi wedi gwrando ar y stori! Gwrandewch ar y fideo ac atebwch y cwestiynau. Mae'r cwestiynau a'r atebion yn y Gymraeg, ond mae cyfieithiad Saesneg hefyd./ Let's see how carefully you have listened to the story! Listen to the video and answer the questions. The questions and answers are in Welsh but there is an English translation also.

Ydych chi'n gallu creu map stori o'r digwyddiadau yn y llyfr yn y drefn cywir? Mae esiampl yma. Does dim rhaid i chi gopio'r esiampl yma. Cofiwch aeth yr anifeiliaid i'r twb un ar y tro. Ydych chi'n gallu tynnu llun Mrs Wishi Washi yn sgrwbio'r anifeiliad?/ Can you create a story map of the events in the book in the correct order? Here is an example. You don't have to copy this example. Remember, the animals went in to the tub one at a time. Can you draw a picture of Mrs Wishi Washi scrubbing all the animals?

Dewch i ymarfer eich sgiliau pensil gyda'r anifeiliaid o'r stori./ Come and practise your pencil skills with the animals from the story!

Gwaith darllen/ Reading work:

Dewch i ddarllen y llyfr geiriau a llythrennau Tric a Chlic melyn gyda fi! Rydyn ni wedi gweld yr holl eiriau eisoes. Defnyddiwch eich bys i bwyntio at y llythrennau a geiriau ar y sgrin/ Let's read together the Tric a Chlic letters and words book. We have read all of the words previously. Use you finger to point at the letters and words on the screen.

Gwaith llythrennau/ Letter work (Tric a Chlic)- Melyn/ Yellow

Rydyn ni wedi cwblhau ein llythrennau Cam 1 Melyn Tric a Chlic ac yn symud ymlaen nawr i edrych ar lythrennau Cam 1 Glas. Fodd bynnag, byddwn ni dal i edrych ar y llythrennau melyn rhag ofn ein bod ni'n anghofio nhw! Cofiwch ein llythrennau Tric a Chlic Melyn yw m, a, p, h, t, e, c, r, y. /We have completed our Tric a Chlic Stage 1 Yellow letters and are moving on now to the Stage 1 Blue letters. However, we will continue to look at the yellow letters in order that we don't forget them! Remember, the Tric a Chlic Yellow letters are m, a, p, h, t, e, c, r, y.

Creu geiriadur ymarferol.Creating a practical dictionary.

Beth am greu gweithgaredd yn debyg i'r un yma? Gosodwch llythrennau melyn Tric a Chlic ar botiau, cwpanau ayb. Pob tro rydych chi'n gweld gwrthrych gyda sain cychwynol un o'r llythrennau tynnwch lun ohono a'i osod yn y pot llythyren cywir. Byddwch yn creu geiriadur ymarferol! Cadwch i fynd dros amser gyda'r weithgaredd fel ffordd o gofio'r llythrennau gwahanol!/

Why not create an activity similar to this one? Place the yellow Tric a Chlic letters on pots, cups etc and when you see an object beginning with an initial yellow letter sound why not draw a picture and place it in the pot? You can also cut out pictures from comics etc. It will be like having your own practical dictionary! Keep going over time in order to remind yourself of the letters!

Gwaith llythrennau/ Letter work (Tric a Chlic)- Glas/ Blue

Rydyn ni erbyn hyn wedi gorffen y llythrennau melyn Tric a Chlic ond mae'n bwysig i ni barhau i ymarfer y seiniau gwahanol rhag ofn i ni anghofio! Gwyliwch y fideo isod o Mrs Sennitt yn adolygu'r seiniau melyn gwahanol ac yn cyflwyno'r llythyren glas cyntaf sef 'th'./ We have now come to the end of the yellow Tric a Chlic letters, but it's important to keep practising them in case we forget! Watch the video below of Mrs Sennitt revising the various yellow letter sounds and introducing the first 'blue' letter which is 'th'.

21.01.18 Tric a Chli adolygu

Adnabod llythrennau/ Recognising letters.

Edrychwch ar y llythrennau Tric a Chlic ar y daflen. Dewisiwch eich hoff liw pensil a lliwich y llythrennau 'th' yn unig ar y daflen. Wrth wneud ymarferwch dweud y sain 'th' bob tro./ Look at the Tric a Chlic letters on the sheet. Choose your favourite coloured pencil and highlight/colour the 'th' letters only. As you do so, repeat the 'th' sound each time.

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work:

Dewch i gyfri gyda Mrs Sennitt a Smot y Ci!/Come and count with Mrs Sennitt and Smot y Ci!

21.01.18 Llyfr Cyfri Smot a chyfri defaid

Ymarfer ffurio rhifau./ Practising forming numbers.

Beth am ymarfer ffurfio rhifau hyd at 10 gyda blociau Duplo/ Lego fel yn y lluniau isod? Teimlwch siapiau gwahanol y rhifau wrth ffurfio; bydd hynny'n helpu chi i gofio sut i'w ffurfio pan yn ffurfio gyda phensil./ Why not practise forming numbers up to 10 using Duplo/ Lego as in the pictures below? Feel the different shapes of the numbers whilst forming them; this will help you to remember their different shapes when forming with a pencil.

Fel y dangoswyd yn y fideo, cyfrwch y nifer o ddefaid yn y caeau gwahanol a chofnodwch y rhif cywir wrth ymyl y cae. Ceisiwch eich gorau glas i ffurfio'r rhifau yn daclus. Mae llinell rif Mrs Wishi Washi yma i'ch helpu chi./ As shown in the video, count the number of sheep in each field. Try your hardest to form the numbers correctly. There is a Mrs Wishi Washi number line to help you.

Thema/Topic

wl-m-76-taflenni-gwaith-trychfilod-lliwio-gyda-rhifau_ver_1.pdf

Lliwio gyda rhifau

Dyma daflen gyda thrychfilod sydd i'w darganfod yn ein gerddi ac ar ffermydd. A fedrwch chi liwio'r trychfilod yma'n gywir drwy gyfateb y lliw i'r rhif?

Colour by numbers

Here is a worksheet with insects that can be found in our gardens and on farms. Can you color these insects correctly by matching the color to the number?

wl-m-75-cwblhewch-daflen-weithgaredd-olion-bysedd-pili-pala-cymesurol_ver_1.pdf

Her

A fedrwch chi liwio'r pili-pala yn gywir drwy ddefnyddio sgiliau cymesuredd a gwneud y ddwy ochr yr un peth?

Challenge

Can you colour the butterfly correctly by using symmetry skills and doing both sides the same?

Dydd Mawrth 19.01.2021/ Tuesday 19.01.2021

Gwaith Iaith/ Language work:

Beth am i ni ddysgu cân am Mrs Wishi Washi? Mae'r fuwch yn neidio i mewn i'r mwd, mae'r mochyn y rhowlio mewn mwd ac mae'r hwyaden yn cerdded mewn mwd. O diar mi! Mae Mrs Wishi Washi yn grac iawn!/ Why not let us learn a song about Mrs Wishi Washi? The cow jumps in to the mud, the pig rolls in the mud and the duck walks in the mud. Oh dear me! Mrs Wishi Washi is now very cross!

21.01.19 Can Mrs Wishi Washi

Gwaith Tric a Chlic/ Tric a Chlic work (Letters/ Llythrennau)

Cofiwch, mae angen i chi seinio'r llythrennau Tric a Chlic yn rheolaidd rhag ofn i chi anghofio!/ Please remember that you must sound out the Tric a Chlic letters constantly in case you forget the letter sounds!

Mae'r dasg yma yn debyg i un ddoe gyda'r llythyren 'th' ond heddiw mae angen i chi edrych yn fanwl iawn ar y geiriau ac uwcholeuo'r geiriau sydd yn cynnwys y llythyren/sain 'th'. Mae'r geiriau heb 'th' yn rhai Tric a Chlic melyn, felly darllenwch nhw'n ofalus!/ This task is similar to yesterday's with the letter 'th' but today you will need to look very carefully at the words and highlight the ones containing the 'th' sound. The words not containing the 'th' sound are all Tric a Chlic yellow words, so when completing the task read all the words carefully!

Dewch i wrando ar stori am fachgen bach sydd yn frwnt iawn, iawn./ Let's listen to a story about a very dirty boy. Listen carefully in order to answer the question which follows.

Beth aeth i mewn i'r periant golchi? Ydych chi'n gallu creu rhestr/ tynnu lluniau o'r gwrthrychau?

What items went in to the washing machine? Are you able to create a list or draw pictures of the different items?

Gwaith Ysgrifennu./Writing work. (Sgiliau mudol mân/ Fine motor skills).

Mae'r taflenni isod yn datblygu eich sgiliau yn y llythrenau 'n' ac 'm' ond hefyd yn helpu gyda'r llythyren 'h' yn y sain 'th'. / The following work sheets help with your formation of the letters 'n' and 'm' but also help with the formation oof the 'h' in the letter sound 'th'.

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work:

21.01.19 Cyfri Mrs WW

Gwaith adio (Y cyfanswm ar ddau ddis). /Addition work (Combining the total of two dice).

Ydych chi'n gallu herio oedolyn yn eich tŷ gyda'r gêm fferm yma? Mae angen dau ddîs a phensiliau lliw- un lliw yr un. Rhowlich y ddau ddîs a chyfrwch y nifer o smotiau. Wedi rholio'r dîs, cyfrwch y smotiau a lliwiwch y rhif cywir. Y person sy'n ennill yw'r un gyda'r nifer mwyaf o anifeiliaid lliw! Ydych chi'n gallu rhoi gwybod i mi pwy sydd yn ennill? Diolch!/ Can you challenge someone in your house with this farm game? You need two dice and coloured pencils- one colour for each player (or maybe more players!). Roll the dice and count the number of spots. You will the need to colour the correct number on the sheet. The winner is the player with the most coloured animals. Can you please let me know who has won? Diolch!

Gwaith Thema/Topic Work:

Gorffenwch Llun Mrs Wishi Washi

Helpwch Mrs Wishi Washi

Dyma lun o Mrs Wishi Washi, ond dim ond ei hanner hi sydd yna! A fedrwch chi orffen y llun fel ein bod yn gweld Mrs Wishi Washi i gyd? Fedrwch liwio'r llun i mewn wedyn hefyd. Pob lwc, a rhannwch eich gwaith gyda ni.

Help Mrs Wishi Washi

This is a picture of Mrs Wishi Washi, but there's only half of her! Can you finish the picture so we see all of Mrs Wishi Washi? You can also colour in the picture afterwards. Good luck, and share your work with us.



Dydd Mercher 20.01.2021/ Wednesday 20.01.2021.

Gwaith Iaith/ Language work:

Gwaith Darllen (Gwrando a deall)/ Reading work (Listening and understanding).

Dewch i wrando ar y stori am blant yn creu halibalŵ ar y fferm. Mae nhw'n dod ar draws nifer o anifeiliaid gwahanol, swnllyd! Gwrandewch yn astud er mwyn ateb y cwestiynau sydd yn dilyn./ Come and listen to the story about a group of children creating 'fun' on the farm' They come across many different, noisy animals. Listen carefully in order to answer the questions which follow.

21.01.20 Llyfr Ydy buwch yn dweud bww

Nawr atebwch y cwestiynau isod./ Now answer these questions.

  • Pa sŵn ydy'r fuwch yn ei ddweud?/ What noise does the cow make?

  • Sawl mochyn sydd yn y twlc?/ How many pigs are in the sty?

  • Pa sŵn ydy'r ci yn ei ddweud?/ What noise does the dog make?

  • Ble mae'r gwdihŵ yn eistedd?/ Where is the owl sitting?

  • Sawl llygoden sydd yn y stabl?/ How many mice are in the stable?

Mrs Wishi Washi (gêm Gwir/ Gau)/ Mrs Wishi Washi (True/False game):

Gwrandewch eto ar stori Mrs Wishi Washi ac yna gwrandewch ar y fideo yma sydd yn cynnwys brawddegau am y stori. Mae rhai o'r brawddegau yn gywir a rhai yn anghywir. Rhowch eich bodiau i fyny os yw'r frawddeg yn gywir neu bodiau i lawr os yw'r frawddeg yn anghywir (neu beth am dynnu llun wyneb hapus/trist a dal yr un cywir i fyny). / Listen again to the story of Mrs Wishi Washi and then listen to this video which contains sentences about the story. Some are correct and some are incorrect. Put your thumbs up if the sentence is correct and thumbs down if the answer is incorrect (or you could draw happy/sad faces and use these).

Gwaith darllen (Tric a Chlic)/ Reading work (Tric a Chlic)- Ar y mat:

21.01.20 Ar y mat

Defnyddiwch eich bys i ddilyn y geiriau wrth wrando ar y fideo o fi'n darllen y llyfr Tric a Chlic, Ar y mat. Wedi gwrando ar y fideo beth am ymarfer ysgrifennu'r gwrthrychau gwahanol ond nid wrth gopio nhw. Cieisiwch seinio allan y geiriau (gofynnwch i oedolyn neu brawd/chwaer i ddweud y geiriau i chi)./ Use your finger to follow the words whilst listening to the video of me reading the Tic a Chlic book, Ar y mat. Having listened to the video why not practise writing the words rather than copying them? Ask an adult or older brother/sister to read out the words for you and carefully sound out each one.

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work:

Dewch i gyfri gyda Elfed!/ Come and count with Elfed!

21.01.20 Cyfri gyda Elfed

Gwrandewch ar y fideo a chyfri'r anifeiliaid yn y stori am Elfed yr Eliffant./ Listen to the video and count the animals in the story about Elfed yr Eliffant.

Gwaith rhif/ Number work:

Wedi gwarando ar y fideo ewch ati i gwblhau'r dasg cyfri'r nifer o anifeiliaid yn y caeau gwahanol. Defnyddiwch y llinell rif i'ch helpu i ffurfio'n daclus neu i adnabod y rhifau os oes angen./ Having listened to the video complete the task counting the horses in the different fields. Use the number line to help you form the numbers correctly or to recognise the numbers if necessary.

Ydych chi'n gallu lliwio Mrs Wishi Washi gan ddefnyddio'r lliwiau wrth ymyl y rhifau./ Can you colour this picture of Mrs Wishi Washi using the colours next to the numbers.

Gwaith Thema/Topic Work:

Sioe Bypedau Mrs Wishi-Washi

Dyma luniau o gymeriadau o’r llyfr Mrs Wishi-Washi i chi eu torri allan i’w defnyddio yn eich sioe eich hunain. Medrwch ail ddweud y stori Mrs Wishi-Washi, medrwch hefyd greu stori o’r newydd. Pob lwc gyda’ch stori.

Mrs. Wishi-Washi Puppet Show

Here are pictures of characters from the Mrs Wishi-Washi book for you to cut out and use in your own puppet show. You can retell the Mrs Wishi-Washi story, or, you can also create a new story. Good luck with your story.

Dydd Iau 21.1.2021 / Thursday 21.1.2021.

Gwaith Iaith/ Language work:

Dewch i wrando ar y fideo. Byddwn ni'n adolygu'r llythyren Tric a Chlic 'th' ac yn gwrando ar stori arall am y fferm./ Listen to the video. We will be loooking again at the 'th' letter sound and also listening to another farm story.

21.01.21 Llyfr Mochyn ar Goll

Dewch i ateb y cwestiynau am y llyfr/ Come and answer these questions about the book:

  • Tudalen 2- Beth yw enw'r ffarmwraig yn y stori?/ Page 2- What is the name of the farmer in the story?

  • Tudalen 3- Sawl mochyn sydd yn byw ar y fferm?/ Page 3- How many pigs live on the farm?

  • Tudalen 4- O diar beth sydd wedi digwydd i'r porchell bach?/ Page 4- Oh dear what has happened to the little piglet? (Mae Wichyn ar goll/Wichyn is missing.)

  • Tudalen 7- Ydy Wichyn yn y sgubor?/ Is Wichyn in the barn? (Nac ydy,/ No he is not).

  • Beth yw enw'r plant yn y stori?/ What are the names of the children in the story? (Cadi a Jac).

Sgiliau gwrando a deall (Gwaith llafar)/ Listening and understanding skills (Oral work):

Edrychwch yn fanwl ar y llun o'r plant yn chwarae yn yr eira. Trafodwch gydag oedolyn yr hyn rydych chi'n ei weld ac yna atebwch y cwestiynau ar y fideo./ Look carefully at the picture of the children playing in the snow. Discuss the picture with an adult. What do you see? You can then answer the questions on the video.

Dyma'r cwestiyau am lun y plant yn yr eira. Gwrandewch yn astud cyn ateb./ Here are the questions about the picture of the children in the snow. Listen carefully before answering.

Gwaith darllen (Digwyddiadau yn y stori)/ Reading work (Events in the story):

Eich tasg yw i osod y lluniau yma o'r stori yn y drefn cywir. Efallai bod angen i chi ddarllen y llyfr unwaith eto i gofio trefn y digwyddiadau gwahanol. Os nad ydych chi'n gallu argraffu'r lluniau gallwch chi dynnu'r lluniau yn eich llyfr gwaith./ Your task is to place these pictures from the story in their correct order. You may need to listen to the story again in order to remind yourselves of the order of the different events. If you are unable to print the pictures, you can draw similar ones in you work books.

Cofiwch i liwio'r lluniau hefyd!

Remember also to colour the pictures.

Gwaith Ysgrifennu./Writing work. (Sgiliau mudol mân/ Fine motor skills).

  • Cwblhewch y daflen isod (neu'n debyg yn eich llyfrau) er mwyn ymarfer eich sgiliau creu llinellau crwm./ Complete the worksheet below (or similar in your book) in order to practise forming rounded lines.

  • Beth am greu gêm dîs fel yr un isod? Gofynnwch i oedolyn i greu llinellau o bob math ar ddarnau o bapur a'u gosod ar ddîs. Rholiwch y dîs ac yna cofnodwch y llinell yn eich llyfr gwaith. Os nad oes dîs gyda chi, rhowch y darnau o bapur pen i waered ar fwrdd neu mewn bag/bocs a dewisiwch un ar y tro!/ Why not create a dice game similar to the one below? Ask an adult to draw different types of lines on pieces of paper and place them on a dice. Roll the dice and draw the same pattern of line in your book. If you don't have a dice, place the pieces of paper upside down on a table or in a bag/box and choose one at a time to draw.

Gwaith Mathemateg/ Mathematics work:

Dewch i wylio'r fideo a chyfri'r gwrthrychau gwahanol./ Come and watch the video and count the various objects.

21.01.21 Cyfri setiau

Gwaith cyfri/ Counting work:

Wedi gwarando ar y fideo ewch ati i gwblhau'r dasg o gyfri'r nifer gwahanol o gymeriadau/wrthrychau yn y stori. Defnyddiwch y llinell rif i'ch helpu i ffurfio'n daclus neu i adnabod y rhifau os oes angen./ Having listened to the video complete the task counting the various items/characters from the story. Use the number line to help you form the numbers correctly or to recognise the numbers if necessary.

Gêm dîs (Creu pen Mrs Wishi Washi)/ Dice game (Creating Mrs Wishi Washi's head).

Beth am chwaraer'r gêm dîs yma gyda rhywun? Mae angen i chi greu pen Mrs Wishi Washi. Mae angen i chi ddechrau wrth rowlio rhif 6 er mwyn creu'r pen ac yna ychwanegu'r eitemau ychwanegol. Cofnodwch yn eich llyfrau gwaith a phob lwc gyda'r gêm./ Why not play this dice game against someone? You need to create Mrs Wishi Washi's head by rolling a dice. You will need to start by rolling a number 6 in order to create Mrs Wishi Washi's head outline and then take it in turns to roll the dice to 'collect' the other items. If you roll a number which you already have you must pass the dice to the other player. Draw Mrs Wishi Washi in your work book.

Mae angen i chi ddechrau gyda rhif 6 yn gyntaf er mwyn creu pen Mrs Wishi Washi!/ You will need to start by rolling a number 6 in order to create Mrs Wishi Washi's head.

Gwaith Thema/Topic Work:

Lliwio'r fferm

Lliwich yr anifeiliaid drwy ddilyn y cod lliwio sydd ar y daflen waith. Sut mae'r fferm yn edrych ar ôl ei liwio? Rhannwch eich gwaith gyda ni ar ôl i chi orffen.

Colour the farm

Can you colour the animals on the worksheet by following the colour code? How does the farm look afterwards? Share your work with us when you're finished.

Dydd Gwener Lles / Well-being Friday:

Lles / Well-being:

Dewch i wrando ar y stori, ‘Sgubo’, yn cael ei darllen. Fersiwn Gymraeg o'r stori:

Listen to the story, ‘Sweep’, being read.

The English version of the story:

Sgubo Cymraeg - CP.mp4
Sweep Saesneg - CP.mp4

Teimladau: Mae nifer o wahanol deimladau rydym ni’n eu teimlo bob dydd e.e. rydyn ni’n hapus, yn drist, yn ofnus, yn nerfus neu’n grac ayyb. Ydych chi wedi teimlo fel hyn weithiau?

Hapusrwydd i fi: Tynnwch lun neu ysgrifennwch am rywbeth sy’n cynrychioli ‘hapusrwydd’ i chi. Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus? Sut ydych chi’n teimlo ar y tu fewn? Oes person, anifail neu le sy’n eich gwneud chi’n hapus? Os ydych chi’n teimlo’n drist, beth gallwch chi ei wneud i deimlo’n hapus?


Tasg ychwanegol: Cliciwch ar y linc i fynd â chi i’r olwyn lles. Gallwch droelli’r olwyn mor aml ag yr hoffech chi a chwblhewch y gweithgareddau.

Feelings: There are many feelings that we experience every day e.g. we feel happy, sad, scared, nervous or cross etc. Have you felt all of these feelings before?

Happiness to me: Draw a picture or write about what happiness means to you. What makes you feel happy? How do you feel on the inside? Is there a person, an animal or a place that makes you feel happy?

If you feel sad sometimes, what can you do to make you feel happy?

Extra task: Click the link below to take you to the wellbeing wheel. Spin the wheel as often as you like and complete the tasks.

Addysg Gorfforol a Meddwlgarwch:

Physical Education and Mindfulness:

Beth am gymryd rhan mewn sesiwn Addysg Gorfforol heddiw? Ceir nifer o syniadau am weithgareddau ar y wefan isod. Beth am gymryd rhan mewn sesiwn meddwlgarwch gyda Mr Dobson hefyd?

How about taking part in a P.E session today? There are many ideas for activities on the website below. How about taking part in a Mindfulness session with Mr Dobson too?

https://sites.google.com/hwbcymru.net/tudalen-addysg-gorfforol-ygc/hafan-home

Celf / Art:

Roedd gweld y barcud yn hedfan yn yr awyr wedi codi calon Daf. Fe ddiflannodd ei hwyliau drwg gyda’r gwynt. Beth am greu hosan wynt i hedfan fel y barcud? Bydd angen rholyn tŷ bach, stribedi papur lliw (neu bapur gwyn wedi ei liwio) a llinyn arnoch. Ar ôl gorffen, ewch â’r hosan wynt y tu allan i’w gweld yn dawnsio yn y gwynt.

Seeing the kite flying in the air cheered up Daf. His bad mood disappeared with the wind. Why not create a windsock to fly like the kite? You will need a toilet roll tube, coloured paper strips (or coloured in white paper) and string. When finished, take the windsock outside to see it dancing in the wind.

Tasg ychwanegol / Additional task:

Cofiwch am y digwyddiad hwn sy’n fyw, bob prynhawn dydd Gwener.


Remember about this event, which takes place live, every Friday.

Mwynhewch y penwythnos!

Enjoy the weekend!