Dewch i ddysgu am y trefnolion gyda Miss Williams.
Come and learn about ordinals with Miss Williams.
Yfory bydd tîm rygbi Cymru yn chwarae ei gêm olaf yng Nghwpan y Chwe Gwlad. Ewch ati i liwio baner Cymru a'i hongian i fyny yn ffenestr eich tŷ i ddangos eich cefnogaeth.
Tomorrow the Welsh rugby team will be playing in the last game of the Six Nations Cup. Colour the Welsh flag and hang it up in the window of your home to show your support.
Mae tymor y gwanwyn yma, tymor lle mae blodau a phlanhigion newydd yn tyfu. Rydym yn gobeithio cael llond ysgol o flodau haul yn tyfu yma erbyn yr haf. A allwch chi liwio blodyn yr haul yn gywir? Isod mae lluniau o flodyn yr haul i'ch helpu a thaflen gwaith i'w lliwio.
Spring is finally here, the season when new flowers and plants appear. We hope to have a school full of sunflowers by the summer. Can you color the sunflower correctly? Below are pictures of a sunflower to help you and a worksheet to color in.
Gyda'r 6 gwlad yn dod i ben y penwythnos hwn, beth am drio'r sialens 'Keepy Uppies' gyda balŵn? Allwch chi gyfri sawl gwaith medrwch daro'r balŵn cyn iddo daro'r llawr? Pob lwc.
With the 6 nations coming to an end this weekend, why not try the Keepy Uppies balloon challenge? Can you count how many times you can hit the balloon before it hits the ground? Good luck.
Cliciwch ar y linc isod i weld yr holl gystadlaethau sydd ar gael i'ch plant gystadlu yn Eisteddfod Pasg YGC.
Click on the link below to see all the competitions available for your child to compete at YGC's Easter Eisteddfod.